Rhydian Jenkins yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel
- Cyhoeddwyd
Rhydian Jenkins, tenor ifanc 22 oed o Faesteg, yw enillydd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel eleni.
Mae Rhydian yn astudio llais a pherfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Cafodd enw'r enillydd ei ddatgelu nos Sadwrn mewn darllediad ar S4C o'r rownd derfynol yn Neuadd Goffa'r Barri.
"Sa i'n siŵr os yw geiriau'n gallu cyfleu sut 'wy'n teimlo." meddai Rhydian.
"Dyma'r eildro i mi gystadlu ac mae'r safon wedi mynd lan bob tro. Mae'n fraint cael cystadlu eto."
Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifanc mwyaf blaenllaw Cymru gan gynnig gwobr o £4,000 tuag at ddatblygu ymhellach yn eu maes.
Y cystadleuwyr eraill oedd Cai Fôn Davies (Bangor), Daniel Calan Jones (Caerdydd), Morgan Llewelyn-Jones (Cwm Gwendraeth) Thomas Mathias (Aberystwyth) a Steffan Lloyd Owen (Pentre Berw).
Cafodd y cystadleuwyr eu dewis ar gyfer yr ysgoloriaeth yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.
Y beirniaid oedd Glain Dafydd, Dr Jeremy Huw Williams, Cerian Phillips, Ffion Dafis, Einir Wyn Jones gyda Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod, Gwenno Mair Davies, yn gadeirydd ar y panel.
'Wirioneddol wych'
"Roedden ni yn gwbl unfrydol," meddai Einir Wyn Jones am benderfyniad y panel.
"Fe gawson ni ein cyfareddu i ddweud y gwir. Roedd y gystadleuaeth i gyd yn wirioneddol wych a phob un yn eu maes yn gofiadwy iawn.
"Ond, mae 'na un sydd wedi ein cyffroi ni heno… ei raglen gynhwysfawr, y ffordd roedd o'n cyfathrebu hefo'r gynulleidfa ac, i mi yn bersonol, y canu cynnil.
"Mae o'n wirioneddol wych."
Yn ogystal â'i lwyddiant wrth sicrhau'r Ysgoloriaeth, eleni hefyd llwyddodd Rhydian i gipio'r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yng nghystadleuaeth yr Unawd Tenor, Unawd Lieder o dan 25 oed a Gwobr Goffa'r Fonesig Herbert i unawdwyr Alaw Werin agored.
Profodd lwyddiant ar lwyfan yn Eisteddfod Caerdydd yn 2018, gan ennill Gwobr Dr Aled Lloyd Davies i Unawdydd Cerdd Dant dros 21.
Mae o hefyd yn chwaraewr rygbi i dîm Pontypridd yn uwch-gynghrair rygbi Cymru.
Bu'n fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg cyn cwblhau blwyddyn ar gwrs TAR Cynradd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
"Mae dwy flynedd gyda fi ar ôl ar fy nghwrs coleg ac 'ŷf i'n gobeithio astudio opera ar ôl hyn - byddai'n defnyddio'r arian ar gyfer hynny," meddai Rhydian.
"Dyma binacl fy ngyrfa hyd yn hyn... a phwy a ŵyr beth sydd ar y gweill nawr."
Bydd yr enillydd eleni yn cael cyfle i berfformio yn un o ddathliadau byd-eang Dydd Gŵyl Dewi 2020.
Mae hyn yn elfen newydd i'r ysgoloriaeth ac yn deillio o gydweithio gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Mai 2019