Cyfarwyddwr artistig newydd i National Theatre Wales

  • Cyhoeddwyd
Lorne CampbellFfynhonnell y llun, Craig Connor / NNP
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lorne Campbell yn dechrau ar ei swydd yng ngwanwyn 2020

Mae National Theatre Wales (NTW) wedi penodi cyfarwyddwr artistig newydd i olynu Kully Thiarai.

Bydd Lorne Campbell, cyfarwyddwr presennol Northern Stage yn Newcastle, yn ymgymryd â'r swydd yng ngwanwyn 2020.

Fe wnaeth Ms Thiarai gyhoeddi ym Mehefin y byddai'n rhoi gorau i'r swydd.

Yn ystod ei chyfnod wrth y llyw bu cwynion gan awduron a dramodwyr fod NTW yn tanseilio artistiaid Cymreig.

Yn Medi 2018, fe wnaeth 40 o awduron ysgrifennu llythyr at Gadeirydd NTW yn cwyno am y sefyllfa.

Roedd cwynion hefyd nad oedd NTW yn gwneud digon i hybu talent Gymreig.

Fe wnaeth Ms Thiarai, oedd wedi bod yn gyfarwyddwr artistig ers 2016, gydnabod fod rhywbeth wedi mynd o'i le o ran y berthynas rhwng y cwmni a'r dramodwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Ar y pryd dywedodd Kully Thiarai fod llythyr gan 40 o awduron wedi bod yn annisgwyl

Oherwydd yr anghydweld, bu cyfarfod rhwng penaethiaid a'r awduron, gyda'r ddwy ochr yn dweud fod y trafodaethau wedi bod yn "adeiladol a gonest".

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Mr Campbell ei fod yn edrych ymlaen at yr her newydd.

"Mae yna waith bendigedig yn digwydd yng Nghymru a galla' i ddim aros i er mwyn gweithio gyda'r dyfnder o greadigaeth a mynegiant sy'n bodoli."

Dywedodd Clive Jones, cadeirydd NTW: "Fe wnaeth gwaith artistig Lorne greu argraff fawr, ei sgiliau fel arweinydd a'i ymroddiad clir i hybu a datblygu talent Gymreig.

"Fe fydd o'n dod ag egni newydd i'r theatr yng Nghymru."