Penodi Nia Griffiths yn llefarydd Llafur ar ran Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llanelli, Nia Griffith wedi cael ei phenodi'n llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur wrth i'r arweinydd newydd, Syr Keir Starmer, gwblhau ffurfio ei gabinet cysgodol.
Hefyd mae AS Canol Caerdydd, Jo Stevens wedi ei phenodi'n llefarydd Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yr wrthblaid yn San Steffan.
Mae'r ddwy wedi diolch i'r arweinydd newydd am y cyfle i fod yn rhan o'i gabinet.
Dywedodd Ms Griffith: "Yn y cyfnod anodd yma, fy mlaenoriaeth yw cefnogi fy nghydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ymateb i her anferthol y pandemig coronafeirws.
Dyma'r eildro iddi fod yn llefarydd materion Cymreig Llafur.
Cafodd ei phenodi i'r swydd y tro cyntaf gan Jeremy Corbyn, ond roedd ymhlith nifer o ASau blaenllaw a ymddiswyddodd o'i gabinet yn 2016 wedi canlyniad refferendwm Brexit, gan ddatgan fod yr arweinydd wedi colli hyder nifer o aelodau'r blaid.
Ond o fewn ychydig fisoedd fe ddychwelodd i'w gabinet fel llefarydd amddiffyn.
Dywedodd Jo Stevens ei fod yn diolch i Syr Keir "am y cyfle i wasanaethu yn eich cabinet cysgodol cryf a chynhwysol".
Ychwanegodd ei fod â diddordeb "angerddol" yn y sectorau sy'n rhan o'i phortffolio, gan ddweud fod yr argyfwng Covid-19 "yn gwneud i ni werthfawrogi fwy nag erioed y pleserau maen nhw'n eu rhoi i ni bob diwrnod".
Fe wnaeth hithau hefyd ymddiswyddo fel llefarydd y blaid ar Gymru yn 2017 mewn protest yn erbyn penderfyniad Mr Corbyn i orfodi ASau Llafur i gefnogi mesur i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Syr Keir ei fod yn falch o lunio cabinet sy'n "amlygu hyd, lled a thalentau'r Blaid Lafur".
Ddydd Sul fe gyhoeddodd mai AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds yw llefarydd materion cartref y blaid.
Dywedodd ei fod eisoes wedi siarad gyda'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, ac yn bwriadu "siarad gyda phobl ar y rheng flaen sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng presennol".
Mae'r rheiny, meddai, yn cynnwys swyddogion heddlu a mudiadau trais yn y cartref, "gan wybod bod yna bryderon gwirioneddol ar hyn o bryd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2020