Graffiti llety gweithwyr allweddol yn achosi 'embaras'

  • Cyhoeddwyd
Graffiti ar eiddo y MhwllheliFfynhonnell y llun, Gareth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion lleol wedi peintio dros y graffiti erbyn hyn

Mae cynghorydd lleol wedi dweud ei fod yn teimlo "embaras i hanu o'r dref" ar ôl deffro a gweld fod rhywrai wedi paentio'r geiriau "go home" ar ail gartrefi ym Mhwllheli.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod y cartrefi dan sylw yn cael eu cynnig i weithwyr allweddol "sy'n gwneud aberth sylweddol" trwy fod ar wahân i'w teuluoedd fel rhan o'r ymdrechion i atal lledaeniad Covid-19.

Roedd y weithred yn "fandaliaeth" yn ôl y Cynghorydd Hefin Underwood, oedd ymhlith unigolion lleol a sgwriodd y graffiti a pheintio dros y geiriau.

Mae'r heddlu wedi ailadrodd eu hapêl ar drothwy gwyliau'r Pasg i bobl beidio cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain os oeddan nhw'n amau bod pobl wedi symud i'w tai haf.

Mae tensiynau wedi codi mewn sawl rhan o Gymru oherwydd pryder fod pobl yn anwybyddu'r cyngor swyddogol i aros yn eu prif gartrefi, yn hytrach nag ynysu rhag y coronafeirws mewn ardaloedd mwy gwledig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder o hyd fod pobl yn teithio i lefydd fel Pen Llyn i hunan ynysu mewn ardal lai poblog

Busnesau lleol 'yn dibynnu ar dwristiaeth'

Yn ôl Mr Underwood, sy'n cynrychioli ward de Pwllheli ar Gyngor Gwynedd, mae'r ardal "angen twristiaid, ond nid rŵan hyn".

"Roedd gen i gywilydd pan wnes i godi bore 'ma," dywedodd.

"Mae 'na fusnesau bach a mawr sy'n dibynnu ar y gwaith mae twristiaid a pherchnogion ail gartref yn dod i'r ardal ac i Wynedd ar y cyfan.

"Pe tasai hyn wedi digwydd i berson o Gymru yn Lloegr, beth fyddai pobl yn ei ddweud, tybed?"

Ymateb llawn Heddlu'r Gogledd

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i lety gwyliau "oedd wedi cael ei fandaleiddio" a bod y cartrefi dan sylw "yn cael eu cynnig i weithwyr allweddol sydd methu mynd adref at eu teuluoedd".

Dywedodd y llu mewn datganiad: "Mae perchnogion yr eiddo a'r gweithwyr allweddol yn gwneud aberth sylweddol i gyfrannu at yr ymateb i'r haint coronafeirws.

"O'n patrolau hi, gallwn ddweud fod mwyafrif llethol yr eiddo tymhorol ddim yn cael eu defnyddio gan dwristiaid ac wedi eu cynnig ar gyfer pobl leol.

"Rydym yn cymryd adroddiadau fel hyn wirioneddol o ddifrif. Rydym yn annog y cyhoedd i beidio cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain.

"Nawr yn fwy nag erioed, ni allwn fforddio, gyda'n gwasanaethau brys eisoes dan bwysau, i'w dargyfeirio o'r gwaith o fynd i'r afael â'r pandemig yma.

"Gofynnwch wrth eich hunain sut fysech chi'n teimlo wrth ddychwelyd i hyn ar ddiwedd shifft hir yn cadw'r gymuned yn ddiiogel."