Beth yw 'lockdown' a 'furlough' yn Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
'Lockdown', 'furlough', 'antibody'....dyma rai o'r termau Saesneg sydd wedi dod yn gyfarwydd iawn yn ystod cyfnod y pandemig. Ond beth yw'r termau yma yn Gymraeg?
Mae'r cyfnod yma yn adeg lle y bydd termau newydd yn cael eu bathu a'u safoni. Yn ôl llefarydd ar ran Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yr adran sy'n gyfrifol am yr Ap Geiriaduron:
"Yn aml pan fydd materion meddygol a gwyddonol yn hoelio sylw'r byd bydd termau technegol yn treiddio i mewn i'n hiaith bob dydd, ac mae'r ffaith bod termau fel 'hunanynysu' yn dod yn rhan o eirfa'r cyhoedd yn arwydd o iaith gyfoes, iach sy'n fyw ac yn weithgar yn y byd modern. "
'Coronavirus'
Mae'r term coronafeirws yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio firysau cafodd eu darganfod yn yr 1960au. Yn eu plith mae SARS, MERS, a'r firws sy'n achosi'r pandemig presennol, Covid-19 (Coronavirus Disease 2019).
Corona yw'r gair Lladin am goron, ac wrth edrych o dan y chwyddwydr mae gan y gronynnau firws yma ymyl sy'n atgoffa rhywun o goron frenhinol neu'r corona solar.
'Furlough'
Dyma'r term sy'n cael ei roi i ddisgrifio rhywun sydd 'on leave' o'r gwaith. Un cyfieithiad sydd wedi cael ei ddefnyddio i gyfleu hyn yw 'ar gennad'.
'Self-isolate'
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain mae gofyn i rai pobl wneud yn siŵr eu bod yn cael cyn lleied o gyswllt â phosib gyda phobl arall.
Mae 'hunanynysu' yn cael ei ddefnyddio yn aml iawn, ond awgrym arall cafodd ei gynnig gan Robat Gruffudd o wasg Y Lolfa ydy 'meudwyo'.
Y Cyfnod
Ac am ddisgrifiad ar gyfer y cyfnod ansicr yma yn gyffredinol? Mae 'cyfnod yr ymbellhau' a'r 'gofid mawr' ymysg rhai o'r termau Cymraeg sydd wedi cael eu cynnig.
'Lockdown'
Mae lockdown yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sefyllfa bresennol gwledydd Prydain, ac y rhan fwya' o Ewrop ar hyn y o bryd, lle mae ysgolion, siopau, tafarndai a thai bwyta wedi cau, ac mae'r BBC wedi bod yn defnyddio disgrifiadau fel 'bod dan gyfyngiadau' yn y Gymraeg.
Wrth drydar fe wnaeth y bardd Aneirin Karadog gyfeirio at y lockdown fel 'Y Meudwyo Mawr'.
Cysylltodd Eifion Lloyd Jones gyda BBC Cymru Fyw yn awgrymu'r gair 'caethiwo' fel gair addas i'w ddefnyddio - "dyna'r ystyr, bod yn gaeth i rywle", meddai.
'Ventilators'
Mae llawer o sôn wedi bod ynglŷn â'r ddyfais yma, sy'n angenrheidiol yn Unedau Gofal Dwys yr ysbytai i achub bywydau ar adegau, yn sgil y salwch yma. 'Peiriant anadlu' yw'r term sydd wedi ei safoni ar gyfer ventilator.
PPE
Personal Protective Equipment yw'r dillad a'r offer sy'n cael eu defnyddio gan ddoctoriaid, nyrsys a gweithwyr allweddol eraill i'w hamddiffyn rhag germau. 'Offer diogelwch personol' yw'r term Cymraeg ar eu cyfer, ac ar brydiau dywedir hefyd, 'cyfarpar diogelwch personol'.
'The peak'/'Flatten the curve'
Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi siarad yn aml am the peak neu'r uchelgais i flatten the curve. Cyfeirir hyn wrth gwrs at leihau neu stopio'r niferoedd o achosion newydd a marwolaethau, a rhoi cyfle i'r Gwasanaeth Iechyd reoli pethau'n effeithiol.
Yn Gymraeg rhaid ymgeisio i fynd heibio'r 'copa' fel bod y niferoedd yn gostwng.
'Antibody'
Rhain yw'r proteinau sy'n cael eu creu yn y system imiwnedd er mwyn helpu'r corff amddiffyn ei hun rhag niwed. 'Gwrthgorff' yw'r term safonol ar eu cyfer.
Hefyd o ddiddordeb: