Lansio cynllun i gefnogi addysg ôl-16 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth gwagFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dysgu wyneb yn wyneb wedi dod i ben ers deufis bellach yn sgil y pandemig

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun sy'n nodi sut y byddan nhw'n mynd ati i gefnogi'r sector addysg ôl-16 yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Nod Cynllun Cadernid Covid-19 ar gyfer y Sector Ôl-16, dolen allanol ydy datgelu sut y bydd y llywodraeth yn cydweithio â cholegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant "er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth drwy gydol y pandemig".

Mae'r cynllun yn nodi'r dysgwyr y mae coronafeirws yn debygol o amharu arnynt fwyaf, gan gynnwys disgyblion blwyddyn 11 ac 13, a dysgwyr galwedigaethol sydd angen mynediad i golegau neu weithleoedd i gwblhau eu cyrsiau.

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams nad yw hi am osod dyddiad penodol eto ynglŷn ag ailagor ysgolion.

'Heriau enfawr'

Mae tri rhan i'r cynllun - mae'r cam presennol, "achub", yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan ddarparwyr addysg sicrwydd uniongyrchol o ran cyllid a threfniadau dysgu.

Yr ail ran ydy "adolygu", sy'n cynllunio ar gyfer newidiadau posibl yn yr hydref.

Yna bydd y cyfnod "adnewyddu" yn rhoi trefniadau ar waith ar gyfer gweddill blwyddyn academaidd 2020-21.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kirsty Williams lansio'r cynllun yng nghynhadledd ddyddiol y llywodraeth

Dywedodd Ms Williams: "Mae'r coronafeirws wedi cyflwyno heriau enfawr i fyfyrwyr a darparwyr addysg dros y cyfnod hwn ac am y tymor hir.

"Bydd y Cynllun Cadernid hwn yn rhoi ffocws clir fel y gallwn gydweithio â'n partneriaid addysg i oresgyn yr heriau hyn.

"Bydd y cynllun hwn yn ategu ein cynllun parhad dysgu ar gyfer ysgolion, 'Cadw'n ddiogel. Dal ati i ddysgu', ond bydd hefyd yn cydnabod y lefelau uwch o ymreolaeth ac amrywiaeth addysg a hyfforddiant a ddarperir gan y sector ôl-16.

"Mae ein colegau, ein prifysgolion a'n darparwyr hyfforddiant yn hanfodol i'r ymateb cenedlaethol i'r coronafeirws ac ailadeiladu'r economi. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi."

Dywedodd Ms Williams hefyd yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru na fyddai hi'n gosod dyddiad penodol eto ynglŷn â phryd y bydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol.

Ychwanegodd bod angen "mwy o dystiolaeth" am ddatblygiad y pandemig cyn gwneud penderfyniad.

Dywedodd y Gweinidog Addysg hefyd y byddai angen asesu llwyddiant profion a chael cynllun i dracio'r feirws mewn lle cyn y byddai disgyblion yn dychwelyd i'r dosbarth.