Ymddeoliad i'r ffotograffydd cyntaf yn Aberfan

  • Cyhoeddwyd
PantglasFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 144 o bobl eu lladd yn nhrychineb Aberfan

Yn hydref 1966 roedd y ffotograffydd Ernie Husson ym mhentref Aberfan i wneud stori gyda phennaeth Ysgol Gynradd Pantglas.

Roedd rhieni wedi bod yn cwyno bod eu plant yn gorfod croesi "môr o slyri" oedd yn llifo o'r domen uwchlaw'r pentref ar y ffordd i'r ysgol.

O fewn wythnosau, ar 21 Hydref, roedd Mr Husson yno unwaith yn rhagor.

Roedd y llif bach o slyri wedi troi'n don enfawr gan daro'r ysgol.

Roedd Miss Jennings, y brifathrawes y bu'n ei holi, yn un o'r 144 fu farw.

Ffynhonnell y llun, Ernie Husson
Disgrifiad o’r llun,

Wedi dros 50 mlynedd fel ffotograffydd a newyddiadurwr, mae Ernie Husson nawr yn ymddeol yn 76 oed

I Mr Husson, sy'n ymddeol fel ffotograffydd a newyddiadurwr yn 76 oed, mae atgofion am Aberfan yn boenus o hyd.

"Fi oedd y ffotograffydd cyntaf i gyrraedd Aberfan," meddai.

"Ro'n i yna yn y 15 munud cyntaf gan mod i ond yn byw tair milltir i ffwrdd. Fe ges i alwad gan rhywun yn y swyddfa yn dweud bod to'r ysgol wedi dymchwel. Fy ymateb cyntaf oedd y byddai hynny'n gwneud llun da i dudalen flaen y South Wales Echo'."

Ond daeth difrifoldeb y digwyddiad yn glir i Mr Husson wrth iddo wneud y daith i'r pentref.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Husson fod 20 mlynedd wedi pasio cyn y gallai siarad am Aberfan

"Wrth i mi yrru tuag at Aberfan fe wnes i sylweddol bod rhywbeth mwy na llun tudalen flaen oherwydd faint o ambiwlansys oedd yn dod allan o Aberfan, a faint o gerbydau'r gwasanaethau brys oedd yn mynd i mewn."

Wedi dyddiau o law trwm, roedd tunelli o wastraff, pridd a slyri wedi taro'r ysgol am 09:15, ychydig wedi'r cynulliad boreol.

Erbyn 23:00 y noson honno, roedd Mr Husson yn dal yn Aberfan pan gyrhaeddodd y prif weinidog ar y pryd, Harold Wilson.

Dywedodd Mr Husson: "Edrych ar aelodau'r wasg a gwenu. Maen nhw'n dweud fy mod i wedi dweud 'dyw hyn ddim yn fater i chwerthin amdano syr' wrtho."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cofeb i'r rhai fu farw yng ngardd goffa Aberfan

"Wedi i'r prif weinidog adael dywedodd fy ngolygydd wrthyf i fynd adre a gorffwys. Es i adre, ond o'n i'n methu cysgu ac fe wnes i godi am tua 06:30 a dychwelyd i Aberfan.

"Fe wnaeth rhywun gynnig paned o de i mi, ac fe glywais i ar y newyddion Cymreig am Aberfan... dyna pryd nes i dorri lawr.

"Ro'n i'n methu siarad am drychineb Aberfan am tua 20 mlynedd ar ôl hynny."

Gadawodd Mr Husson asiantaeth newyddion Thompson llai na dwy flynedd ar ôl Aberfan, gan symud i fyw yn Llandrindod, Powys.

Treuliodd dros 50 mlynedd wedi hynny fel ffotograffydd llawrydd i dri papur newydd lleol yn yr ardal.