Ffrae yfed alcohol: Paul Davies yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PD
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Davies yn addo i gefnogi pwy bynnag fydd yn ei olynu, gan obeithio bydd broses yn "llyfn a chyflym"

Mae arweinydd a phrif chwip y grŵp Ceidwadol yn y Senedd wedi ymddiswyddo wedi i ymchwiliad ddod i'r casgliad eu bod wedi yfed alcohol ar dir y Senedd ddyddiau wedi i waharddiad ddod i rym yng Nghymru i atal lledaeniad coronafeirws.

Mae Paul Davies a Darren Millar wedi bod dan bwysau cynyddol i gamu'n ôl wedi iddi ddod i'r amlwg fod pedwar Aelod o'r Senedd wedi yfed alcohol yn ystafell de drwyddedig y Senedd.

Dywedodd Mr Davies mewn datganiad ei fod yn "wirioneddol edifar" a bod yr hyn a wnaeth bellach yn "tynnu sylw" o ymdrechion y blaid i sicrhau atebolrwydd Llywodraeth Cymru yn wyneb y pandemig.

Ychwanegodd ei fod wedi cael "cwpwl o wydrau o win ar y dydd Mawrth a chwrw ar y dydd Mercher" ond mae'n gwadu torri'r rheolau Covid-19.

Dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Glyn Davies: "Rydym yn derbyn penderfyniad Paul i ildio'r awenau, a hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch iddo am ei wasanaeth fel arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd.

"Bydd proses chwilio am olynydd yn dechrau nawr."

'Ni allaf barhau yn y swydd'

Yn ei ddatganiad, dywedodd Mr Davies, AS Preseli Penfro, fod yr hyn a wnaeth wedi "niweidio'r ymddiriedaeth a'r parch rwyf wedi'i adeiladu dros 14 mlynedd yn Senedd Cymru ymhlith cydweithwyr, y Blaid Geidwadol ehangach ond yn bwysicaf oll, ymhlith pobl Cymru".

Mae'n camu'n ôl yn syth fel arweinydd y grŵp Ceidwadol, gan ychwanegu: "Er lles fy mhlaid, fy iechyd a fy nghydwybod fy hun, yn syml ni allaf barhau yn y swydd."

Daeth ymchwiliad gan awdurdodau'r Senedd i'r casgliad fod pum person, gan gynnwys pedwar Aelod o'r Senedd, "o bosib wedi torri" rheolau coronafeirws ym mis Rhagfyr, gan gyfeirio'r achos i Gyngor Caerdydd a Chomisiynydd Safonau'r Senedd.

Ffynhonnell y llun, PA

Dywed Mr Davies ei fod "yn wirioneddol edifar ynghylch yr hyn a wnes i ar 8 a 9 Rhagfyr" ond mae'n mynnu bod pawb wedi cadw pellter cymdeithasol.

Mynnodd hefyd bod "dim ymddygiad meddw nac afreolus" a bod "dim rhaid ein hebrwng o'r adeiladu fel y mae rhai adroddiadau wedi awgrymu".

"Yr hyn wnaethon ni oedd cael rhywfaint o alcohol gyda phryd wnaethon ni ei dwymo mewn popty micro-don, sef cwpwl o wydrau o win ar y dydd Mawrth a chwrw ar y dydd Mercher," dywedodd, gan fynnu ei fod wedi "dilyn y rheolau Covid-19 i'r llythren" ers dechrau'r pandemig.

Dywedodd ei fod wedi siarad â chydweithwyr o fewn y blaid ers i'r honiadau godi bod sawl Aelod o'r Senedd wedi torri'r rheolau ar dir y Senedd.

Cafodd gefnogaeth unfrydol ei gyd-aelodau Ceidwadol yn y Senedd i barhau fel arweinydd y grŵp mewn cyfarfod ddydd Gwener, pan gynigiodd i ymddiswyddo.

"Tra'u bod wedi cadarnhau nad ydyn nhw am i mi gamu'n ôl, rwy'n credu bod yr hyn a wnes yn dechrau tynnu sylw o'r gwaith o sicrhau atebolrwydd Llywodraeth Cymru Lafur sy'n methu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd hefyd yn camu'n ôl o'i rôl ar fainc flaen y Ceidwadwyr yn y Senedd

Mewn datganiad yn cyhoeddi ei fod yntau hefyd yn ymddiswyddo, dywedodd Darren Millar: "Er imi gael cyngor na dorrais y rheolau coronafeirws, mae'n ddrwg iawn gen am yr hyn a wnes, yn enwedig yn sgil effaith cyfyngiadau llym y mae pobl a busnesau'n eu dioddef.

"Am y rheswm yma, a chan fod Paul Davies wedi ymddiswyddo fel arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, rwyf wedi penderfynu camu'n ôl o fy rôl mainc flaen yn Senedd Cymru."

Fe wnaeth Paul Davies, Darren Millar a'r Aelod o'r Senedd Llafur, Alun Davies ymddiheuro dros yr achos yn gynharach yn yr wythnos ond gan fynnu nad oedden nhw wedi torri unrhyw reolau.

Cafodd Alun Davies ei atal o'r grŵp Llafur yn y Senedd.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am gadarnhad pwy oedd y pedwerydd Aelod o'r Senedd oedd yn destun ymchwiliad awdurdodau'r Senedd.

Dadansoddiad Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, Felicity Evans

Petae wedi aros yn ei swydd, byddai Paul Davies wedi bod yn arweinydd clwyfedig wrth ymgyrchu ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mis Mai.

Dyma etholiadau y mae gan ei blaid obeithio uchel yn eu cylch, yn sgil eu perfformiad yn etholiad cyffredinol 2019 wrth ddenu llawer o bleidleisiau yng nghadarnleoedd Llafur yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Bydd ei olynydd yn dymuno tynnu'r sylw'n ôl at drefniadau rhaglen frechu'r Llywodraeth Lafur, ble roedd aelodau'r Blaid Geidwadol o'r farn eu bod yn ennill tir cyn iddi ddod i'r amlwg fod aelodau blaenllaw o'u tîm yn y Senedd wedi taro'r bêl i'w rhwyd eu hunain.

Ond fe allai ymadawiad Mr Davies hefyd ysgogi dadl agored ehangach o fewn y blaid ynghylch ble maen nhw'n sefyll o ran datganoli, ac a ddylid arddel amheuon mwy amlwg i wrthsefyll her o gyfeiriad pleidiau sy'n dymuno diddymu'r Senedd.

Ymateb gwleidyddol

Dywedodd Helen Mary Jones, AS Canolbarth a Gorllewin Cymru ar ran Plaid Cymru: "Hyd yn oed wrth i'r grŵp Ceidwadol yn y Senedd roi eu cefnogaeth unfrydol i'r arweinydd a'r prif chwip, roedd hi'n amlwg i bawb arall bod eu sefyllfa'n anghynaladwy.

"Bydd pawb yn gofyn pam y gwnaeth hi gymryd mor hir iddyn nhw.

"Dyw unrhyw waith o aildrefnu'r cadeiriau dec yn gallu gwneud Plaid Geidwadol anhrefnus a chynyddol adain dde'n ddigon abl i lywodraethu Cymru."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart ei fod wedi "mwynhau cydweithio gyda Paul yn arw dros y flwyddyn ddiwethaf wedi ein canlyniad Etholiad Cyffredinol gorau yng Nghymru ers 1983.

Ychwanegodd AS Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro fod Paul Davies "wedi chwarae rôl allweddol yn helpu cysylltu Cymru a Llywodraeth y DU wrth i ni frwydro pandemig Covid-19, ac wedi bod yn benderfynol i ddal Llywodraeth Lafur Cymru i gyfri ers 2018."

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Aelod o'r Senedd Ceidwadol De Canol Cymru, David Melding ei fod yn cefnogi penderfyniad Mr Davies.

"Mae yna urddas mewn derbyn cyfrifoldeb, hyd yn oed pan mae gweithred yn anfwriadol," dywedodd.

"Fy ngobaith yw y bydd Paul yn cael y gofod a'r gefnogaeth i ailadeiladu ei yrfa wleidyddol," ychwanegodd gan awgrymu fod "ganddo gymaint i gynnig" i'r Blaid Geidwadol yng Nghymru ac i'r Senedd.