Mayhill: Adolygiad i ganfod y rhesymau am anhrefn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Anafwyd saith plismon ac fe gafodd 20 eu harestio wedi'r digwyddiad
Bydd panel o arbenigwyr yn ystyried pam fod anhrefn wedi digwydd yn ardal Mayhill o ddinas Abertawe ddeufis yn ôl.
Cafodd ceir eu llosgi a ffenestri a drysau eu malurio wedi i wylnos i ddyn ifanc a fu farw droi'r dreisgar.
Bydd adolygiad annibynnol i'r trafferthion edrych ar gefndir y digwyddiad i weld a oes modd dysgu gwersi.
Cafodd saith plismon eu hanafu ac 20 o bobl eu harestio ar amheuaeth o droseddau treisgar wedi'r digwyddiad.
Bydd yr adolygiad ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe, Heddlu De Cymru a'u Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael ei arwain gan banel o dan gadeiryddiaeth Yr Athro Elwen Evans QC, yr arbenigwr heddlu Martin Jones a'r ymgynghorydd llywodraeth leol Jack Straw.

Dywedodd un o'r trigolion fod ardal Mayhill yn edrych fel "maes y gad"
Dywedodd rhai o'r trigolion nad oeddwn nhw bellach yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi wedi iddyn nhw gael eu targedu gan y troseddwyr.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: "Roedd y trafferthion anghyfreithlon a welsom yn syfrdanol.
"Gweithredoedd troseddwyr oedd y rhain, a ddim yn wir adlewyrchiad o gymunedau bendigedig Mayhill a Waun Wen... na mwyafrif pobl Abertawe.
"Fe wnaethon ni weithredu'n syth i gefnogi trigolion wedi'r trafferthion, ac rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr gyda theuluoedd, pobl ifanc, cynghorwyr lleol ac arweinwyr cymunedol."

Roedd fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos car ar dân yn taro cerbyd arall
Bydd trigolion a gafodd eu heffeithio gan y trafferthion, ynghyd â grwpiau cymunedol, yn cael gwahoddiad i roi eu barn i'r panel.
Mae'r adolygiad yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael: "Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr hyn a arweiniodd i'r digwyddiad, a oedd modd darogan hynny a'r ffordd y gwnaeth asiantaethau ymateb i gefnogi'r gymuned leol ac adfer hyder wedi'r digwyddiad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021
- Cyhoeddwyd27 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021