Datblygiadau newydd: Rhaid ystyried newid hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Bydd newid hinsawdd yn ffactor wrth asesu unrhyw gynlluniau gan ddatblygwyr yn y dyfodol, meddai Llywodraeth Cymru.
Am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig, bydd yn rhaid i ddatblygwyr weithio gyda mapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol, sydd yn dangos lefelau risg presennol, yn ogystal â'r risg a achosir gan newid hinsawdd yn y dyfodol.
Nodyn Cyngor Technegol 15, neu TAN 15, yw enw'r cyngor polisi cynllunio newydd.
Bydd yn llywio cynlluniau datblygu lleol yn y dyfodol, a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.
11.3% mewn perygl llifogydd
Bydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, adrannau cynllunio awdurdodau lleol a datblygwyr.
Mae'r map newydd, dolen allanol yn cael ei gyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Caiff ei ddiweddaru ddwywaith y flwyddyn ym misoedd Mai a Thachwedd i adlewyrchu'r data diweddaraf ar beryglon llifogydd.
Ar hyn o bryd, mae'r map newydd yn dangos fod 11.3% o dir Cymru mewn perygl o ddioddef llifogydd o afonydd neu'r môr.
Roedd y map blaenorol a oedd yn asesu'r risg presennol yn unig, heb ystyried newid hinsawdd yn nodi fod 9.86% o'r tir mewn perygl.
Bydd y drefn newydd o asesu yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y bydd "ardaloedd lle mae'r risg yn fach ar hyn o bryd yn dod yn agored i lifogydd wrth i'n hinsawdd barhau i newid".
"Mae'r cynllun hwn yn arwyddocaol gan ei fod yn caniatáu i ni edrych i'r dyfodol yn ogystal ag asesu'r sefyllfa nawr ac yn y gorffennol."
Mae TAN 15 yn nodi na ddylid lleoli datblygiadau newydd ar gyfer cartrefi, y gwasanaethau brys, ysgolion ac ysbytai mewn ardaloedd lle ceir risg uchel o lifogydd, heb amddiffynfeydd llifogydd cryf.
Os byddai awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cymeradwyo unrhyw gynllun yn groes i'r cyngor hwn, byddai gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu a byddai modd iddynt benderfynu ar y cais yn uniongyrchol.
Ychwanegodd Julie James: "Mae beth arferai fod yn achosion prin o lifogydd bellach yn dod yn fwy fwy cyffredin yn anffodus, gyda'r hinsawdd yn newid o'n cwmpas.
"Ac felly yr hyn ry'n ni'n ceisio ei wneud ydy gwarchod unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol, naill ai drwy gryfhau'r amddiffynfeydd llifogydd neu trwy sicrhau fod datblygiadau y tu hwnt i ardaloedd sydd mewn perygl.
"Wrth gwrs, fe fyddwn yn monitro'r sefyllfa'n rheolaidd, ac mae gennym ddigonedd o dir yng Nghymru y gellir ei ddatblygu.
"Nod y cynllun hwn yw cyfeirio datblygiadau i'r mannau cywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2021