Abertawe v Caerdydd: 'Ymateb cymysg' cefnogwyr i'r pàs Covid
- Cyhoeddwyd
Mae ymateb cefnogwyr clybiau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd i gyflwyniad pàs Covid y GIG wedi bod yn un cymysg, wrth i'r ddwy ochr gwrdd brynhawn dydd Sul.
Mae'r ddau glwb yn cwrdd ddydd Sul am y tro cyntaf ers i basys Covid gael eu gwneud yn orfodol, gan gynnwys ar gyfer digwyddiadau chwaraeon.
Ers 11 Hydref, mae'n rhaid i bawb dros 18 oed ddangos pàs Covid i brofi eu bod un ai eu wedi eu brechu'n llawn, neu wedi derbyn prawf negyddol o fewn y 48 awr ddiwethaf.
Mae'r rheolau yn berthnasol i bob stadiwm sydd yn dal dros 10,000 o bobl.
'Addasu yn haws i rhai'
Mae disgwyl tua 20,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Liberty brynhawn dydd Sul.
Hwn fydd y tro cyntaf hefyd i gefnogwyr fedru mynychu'r gêm ddarbi ers Ionawr y llynedd, wedi iddi gael eu chwarae heb dorf y ddau dro diwethaf.
Ond yn ôl Bethan Maunder, 45, mae'r ffaith bod modd cael mynediad drwy ddangos prawf LFT negyddol yn unig yn broblem.
"Dyw'r profion lateral flow ddim yn gweithio achos chi sy'n rhoi'r data mewn," meddai.
"Dwi'n 'neud nhw yn y gwaith ac allai roi e lawr fel negyddol, waeth beth yw e. Os chi eisiau mynd mewn 'dych chi jyst am roi canlyniad negyddol i mewn."
Ond yn ôl John Evans, 74, mae'r pàs Covid yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i gefnogwyr fel fe.
"Does gen i ddim problem o gwbl, dwi wedi cael fy nhri brechlyn - dwi'n hapus," meddai.
"Mae'n gwneud i chi deimlo'n saffach os yw person heb gael eu brechiad, dydyn nhw methu dod mewn."
'Normalrwydd'
Does gan Luke Davies, sydd yn cefnogi Clwb Pêl-Droed Abertawe, ddim problem gyda'r angen am bàs.
"Yn bersonol rwy'n meddwl, os wyt ti'n meddwl yn ôl at y llynedd, roedd yna gyfnod hir pan nad oedd modd i ni fynd i gemau," meddai.
"Mae'r gêm yma yn un fawr i'r tîm. Gwnaethon ni golli hwnna y llynedd - dyma'r gêm mae pawb yn cyffroi drosti.
"Os (yw dangos pàs Covid) yn golygu fod modd i ni gael 'nôl mewn i'r stadiymau llawn amser, dydy'r penderfyniad ddim yn fy mhoeni i.
"Rwy'n meddwl mae'n well i fod yn ddiogel. Mae'n helpu'r sefyllfa ehangach ac yn helpu i'n cael ni yn ôl at normalrwydd."
Ond mae Luke, sy'n cyflwyno podlediad y cefnogwyr Swans Cast, yn dweud ei fod yn ofni y bydd y polisi yn darbwyllo rhai rhag mynychu gemau.
"Rwy'n credu fod ymateb ychydig yn gymysg wedi bod," meddai.
"Rwy'n deall y rhwystredigaeth i'r rheiny wnaeth benderfynu i beidio a chael eu brechu.
"Mae angen ychydig mwy o ymdrech yn yr achos hynny - mae'n rhaid i nhw gymryd prawf a dangos eu bod wedi cael canlyniad negatif i gael mewn i'r gêm."
Ychwanegodd: "Dydw i heb glywed unrhyw un yn dweud, 'mae hyn am fy ngwneud i deimlo'n fwy diogel a nawr rwy'n hapus i fynd', ond rwy'n sicr wedi gweld rhai sy'n dweud 'dydw i ddim eisiau mynd tra bod hyn yn rheol, af i ddim yn ôl, ad-dalwch fy nhocyn tymor', y fath yna o beth.
"Dwi'n credu y bydd rhai yn gweld hi fel rheol ychwanegol dros y gymdeithas.
"Mae'n ffordd gwahanol o fyw ac rwy'n deall na fydd rhai yn medru addasu mor hawdd ag eraill, felly gall hyn yn sicr gael effaith ar faint o bobl sy'n mynychu gemau."
Dywedodd un cefnogwr Abertawe ifanc nad oedd e'n adnabod unrhyw un oedd wedi eu darbwyllo rhag fynychu'r gêm gan y rheolau newydd.
"Roeddwn i'n hapus pan glywais i y byddai angen pàs Covid," meddai Daniel MacDonald, sydd yn 19 oed.
"Mae pawb 'dwi'n 'nabod yn hapus (i gael pàs)."
Yn ôl Daniel, doedd y system o gael gafael ar bàs Covid yn wreiddiol ddim yn glir.
"Roedd rhaid i mi ofyn i ffrind," meddai, "ond roedd hi'n hawdd i gael pàs ar ôl gwybod sut i'w wneud.
"Dwi'n meddwl eu bod nhw'n beth da oherwydd maen nhw'n lleihau'r risg o wasgaru Covid. Dylai'r penderfyniad fod wedi dod yn gynt."
Poeni am ymateb
Mae Cath Dyer, un arall sy'n cefnogi Abertawe, yn gobeithio y bydd y mwyafrif o gefnogwyr yn hapus i weld y rheol yn cael ei chyflwyno.
"Mae'r ddeddfwriaeth wedi cael ei phasio, felly mae'n rhaid i ni ddilyn rheolau Llywodraeth Cymru," meddai hi.
"Gobeithio fydd pobl yn teimlo ychydig yn fwy diogel gan wybod un ai eu bod wedi eu brechu'n llawn neu wedi cael prawf llif un-ffordd.
"Diogelwch yw'r flaenoriaeth a dyna yw nod y clwb.
"Dymuniad y clwb yw na fydd unrhyw broblemau, oherwydd ar ddiwedd y dydd, mae pawb eisiau cael mewn i'r stadiwm i deimlo'r holl gyffro cyn y gêm."
Mae rhai cefnogwyr wedi dweud eu bod nhw'n poeni bydd gorfod dangos pàs Covid cyn cael mynediad yn achosi problemau, ond mae Cath yn hyderus fod y clwb wedi paratoi yn dda.
"Roedd y clwb yn weithredol cyn i bopeth ddechrau," dywedodd hi.
"Rhoddon nhw ddigon o rybudd i ni gael yn barod cyn i'r rheolau gael eu cyflwyno. Mae pawb yn gwybod fod angen i nhw gael eu pasys, ac y bydd angen i nhw eu cyflwyno."
Oedi wrth fynd mewn?
Ond mae Luke yn poeni na fydd pawb yn ymwybodol o'r rheolau ac y gallai hyn effeithio'r ymateb i'r pasys.
"Mae'n bosib y bydd y pasys yn effeithio pa mor hir mae'n cymryd i gael mewn i'r stadiwm, pa mor gynnar mae'n rhaid i ti gyrraedd," meddai.
"Bydd e'n ddiddorol gweld faint o bobl fydd o bosib yn colli dechrau'r gêm, a gweld a fydd eu hymateb i'r rheolau yn newid wedi hynny.
"Dywedodd y clwb i ni ffactora'r rheolau mewn i'n cynlluniau teithio a chyrraedd ychydig yn gynt, ond fydd pawb ddim wedi gweld hwn.
"Dydw i ddim yn poeni oherwydd mi fyswn i'n sicrhau fy mod i'n ystyried hyn, ond galla i ddeall yn llwyr ei fod yn bosib anghofio weithiau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021
- Cyhoeddwyd18 Medi 2021