Menyw, 92, wedi disgwyl pedwar mis am ofal cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Cafodd Esme Hanson, 92 oed o Gŵyr, ei chymryd i Ysbyty Treforys yn Abertawe ar 10 Mai eleni.
Er ei bod wedi gwella ddigon i fynd adre wythnos yn ddiweddarach, bu'n rhaid iddi aros yno am bedwar mis oherwydd nad oedd gofal digonol ar gael iddi.
Roedd ei mab Andrew yn ofni y byddai'n cael Covid neu farw yn yr ysbyty.
Mae pennaeth gofal wedi disgrifio'r sefyllfa o brinder staff sydd wedi arwain at orfod rhoi pecynnau gofal yn ôl i ddwylo cynghorau.
Dywedodd gweinidog o Lywodraeth Cymru nad yw'r system bresennol yn foddhaol, ond eu bod yn ceisio lliniaru'r sefyllfa, gan gynnwys £42m o gyllid ychwanegol.
Mae gan Mrs Hanson dementia, a phan aeth i'r ysbyty ym mis Mai fe gafodd ei phecyn gofal yn y cartref ei ddiddymu, oedd yn golygu nad oedd modd ei gyrru adre eto tan 16 Medi.
Dywedodd Andrew Hanson bod ei hiechyd meddwl wedi dirywio, a bod y teulu yn "ffodus o gael mam adre".
"Pan mae gennych chi rhywun dros 70 oed sydd angen gofal, dydych chi ddim yn gwybod pryd maen nhw am gael dod allan o'r ysbyty," meddai.
Ychwanegodd mai ond ar ôl cael cyngor gan swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i drefnu gofal eu hunain ac yna gwneud cais i'r cyngor ei ariannu y cafodd ei fam fynd adre.
Dywedodd Cyngor Abertawe ei bod "yn flin iawn ganddyn nhw am yr oedi a brofodd Mrs Hanson" a bod "pob ymdrech wedi'i wneud i ganfod pecyn gofal gyda darparwr" mewn "cyfnod digynsail".
Roedd ffigyrau a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru fis diwethaf yn dangos fod mwy na 1,000 o bobl yn sownd mewn gwely ysbyty, a'r wythnos hon fe wnaethon nhw gyhoeddi pecyn cyllid o £42m i helpu'r sector ymdopi.
Mae Fforwm Gofal Cymru wedi rhybuddio'n ddiweddar bod y sector gofal yn wynebu'r argyfwng staffio "mwyaf mewn cof".
Angen 'rhyw obaith'
Keri Llewellyn yw cyfarwyddwr All Care, cwmni sy'n darparu gwasanaethau gofal ar draws de Cymru.
Mae lefelau staffio ei chwmni ar ei isaf ers 2002, gyda "bron neb" wedi cael eu recriwtio ers misoedd.
Dywedodd Ms Llewellyn bod gofalwyr wedi blino'n lân ar ôl gweithio drwy'r pandemig, a bod cyflogau isel yn denu pobl i swyddi eraill.
"Rydw i angen rhywbeth i fy staff nawr... rhyw obaith... efallai bonws i aros lle maen nhw," meddai.
Dywedodd Nicola Peta Hales bod y straeon o fod yn weithiwr gofal yn y cartref wedi profi bron yn ormod iddi.
Dywedodd: "Roeddwn i'n teimlo fel rhoi'r gorau iddi hi ac yn agos iawn i wneud ychydig yn ôl. Yn y diwedd fe wnes i benderfynu aros am fy mod yn caru'r gwaith."
Mae arweinwyr yn y sector yn dweud bod effeithiau llymder a'r pandemig yn golygu nad yw cynghorau yn medru talu cyflogau uwch, a'u bod felly'n edrych at lywodraethau Cymru a'r DU am ateb.
Sefyllfa yn 'fregus'
Fis diwethaf fe gyflwynodd llywodraeth y DU gynnydd mewn yswiriant cenedlaethol a fydd yn rhannol yn talu am y system gofal yn Lloegr, a dydd Mercher nesaf bydd y Canghellor yn amlinellu ei gynlluniau gwario am y tair blynedd nesaf.
Mae Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Julie Morgan wedi cydnabod bod y sefyllfa bresennol yn "fregus".
"Rhaid i ni gael system mewn lle sy'n golygu nad yw pobl yn gorfod aros am hir," meddai.
Dywedodd ei fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru i weithredu cyflog byw o £9.50 yr awr i ofalwyr, ynghyd ag ymgynghori ar sut i wella amodau gwaith iddyn nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd16 Medi 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021