COP26: Canlyniadau peidio â gweithredu'n 'ddwys' i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd protestiadau ar hyd Cymru, gan gynnwys Caerdydd, fel rhan o ddiwrnod o weithredu byd-eang i nodi diwedd wythnos gyntaf COP26

Bydd sgil-effeithiau "peidio â gweithredu" ar gynhesu byd-eang yn COP26 yn "ddwys" i Gymru, yn ôl Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru.

Mae Lee Waters wedi rhybuddio bod llawer yn y fantol a bod y wyddoniaeth yn "glir" ac yn "ddychrynllyd".

Mae trafodaethau rhwng bron i 200 o wledydd yn parhau, gyda'r nod o gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C.

Ar ddechrau'r gynhadledd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod yn rhaid i COP26 gynnig gobaith ar gyfer y dyfodol.

Mae gwleidyddion, elusennau ac ymgyrchwyr o bob rhan o Gymru wedi gwneud y siwrne i'r Alban i leisio'u barn, i glywed gan y rhai sy'n arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a'r rhai sy'n delio â'r canlyniadau mwyaf dinistriol.

Yn eu plith mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, sydd wedi siarad mewn digwyddiadau, cwrdd â chynrychiolwyr ac ymgyrchu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Shenona Mitra yn gobeithio gweld addewidion COP26 yn troi'n gamau gweithredu

Mae wedi bod yn brofiad "dwys", yn ôl Shenona Mitra o Fangor.

"Bydd yn ddiddorol iawn gweld, ar ôl hyn, a yw'r momentwm yn aros ac a yw addewidion yn troi'n gamau gweithredu," meddai.

Disgrifiodd un arall o'r llysgenhadon ieuenctid, Ellie Sanders o Abertawe, ei phresenoldeb yn COP26 fel "cyfle anhygoel."

Disgrifiad o’r llun,

Llysgennad ieuenctid arall yw Ellie Sanders o Abertawe

Dywedodd Leo Carey-Read o Bontypridd bod COP wedi bod yn "agoriad llygaid".

Ychwanegodd ei fod yn teimlo'n "obeithiol mewn rhai ffyrdd... rwy'n credu y byddwn yn naïf i feddwl mai'r 26ain COP fyddai'r un olaf.

"Ond rwy'n bendant yn teimlo bod cynnydd wedi'i wneud yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leo Carey-Read yn teimlo fod cynnydd wedi'i wneud yn yr uwchgynhadledd

Dywedodd yr academydd newid hinsawdd blaenllaw, yr Athro Mary Gagen o Brifysgol Abertawe, fod digwyddiadau bychain gyda gweithredwyr hinsawdd ifanc yn Glasgow wedi bod yn "egnïol".

"Mae wirioneddol yn codi ysbryd. Rwy'n wyddonydd hinsawdd, un o'r cenedlaethau a'r cenedlaethau ohonom sydd wedi bod yn gweithio ar wyddoniaeth hinsawdd ers i Guy Callendar ddarganfod newid hinsawdd wedi'i achosi gan ddynoliaeth am y tro cyntaf ym 1938.

"Mae angen egni'r sesiynau hyn arnom i ddal ati i weithio. Mae'n hyfryd clywed gweithredwyr ieuenctid, arweinydd brodorol o Frasil a Periw, yn siarad am effaith newid yn yr hinsawdd ar eu bywydau a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol."

'Cyfrifoldeb ar bob gwlad ac unigolyn'

Er bod nifer o ragamcanion, y farn fwyaf optimistaidd yw bod addewidion a wnaed yn Glasgow yn rhoi'r byd ar y trywydd ar gyfer cynnydd o 1.8C.

Mae hyn yn dibynnu ar weithrediadau yn y degawd hwn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i 200 o wledydd yn parhau i drafod, gyda'r nod o gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C

Roedd addewidion blaenorol wedi ein rhoi ar y trywydd ar gyfer cynhesu o 2.7C erbyn diwedd y ganrif.

Mae arbenigwyr yng Nghymru wedi rhybuddio y bydd digwyddiadau tywydd eithafol yn bygwth bywydau ac yn gwneud pobl yn dlotach os na fyddwn yn ffrwyno cynhesu byd-eang.

Y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i gyflawni sero-net erbyn 2050.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru Lee Waters wedi rhybuddio bod y wyddoniaeth yn "ddychrynllyd"

Yn ôl Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, bydd targedau newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod yn allweddol - waeth beth fydd canlyniad COP26.

"Mae cyflawni sero-net yn bodoli ar wahân, yn fy marn i," meddai Lee Waters. "Rhaid i ni ei wneud os yw COP yn cytuno neu beidio, ac mae gan bob aelod unigol ei gyfrifoldeb ei hun.

"Mae gan Gymru gyfraniad i'w wneud - mae gan bob person yng Nghymru gyfraniad i'w wneud, fel y sydd gan y llywodraeth. A dylem ganolbwyntio ar hynny oherwydd bod y wyddoniaeth yn glir ac mae'n ddychrynllyd, a rhaid i ni weithredu."

'Helpu cymunedau i newid'

Ychwanegodd mai'r "cysyniad" a gymerwyd yn dilyn ei drafodaethau yn Glasgow oedd pwysigrwydd "trawsnewid cyfiawn".

"Bydd newid yn anodd iawn i rai cymunedau. Rôl y llywodraeth yw helpu'r cymunedau hynny i wneud y newid."

"Os yw mynd i'r afael â newid hinsawdd yn cael ei ystyried yn aberth mawr, mae pobl yn mynd i fod yn amharod i'w wneud. Ein rôl ni yw dangos ei bod hi'n bosibl newid a gall newid wella pethau, gallwn ni gael gwell ansawdd bywyd os ydyn ni'n gwneud hyn mewn ffordd reoledig."

Dywedodd Mr Waters bod hi wedi cymryd "dewrder" o'r uwchgynhadledd i "barhau i wthio ymlaen a pheidio â gadael i bobl nad ydyn nhw'n barod i wneud y newid dynnu ein sylw."