Gŵyl ddadleuol yn hollti barn yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Goleuadau ar Gastell Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ŵyl £120m gafodd ei chomisiynu gan Theresa May yn 2018 i nodi creadigrwydd y DU adeg Brexit.

Mae'r cyntaf o ddigwyddiadau gŵyl ddadleuol Unboxed yng Nghymru yn cychwyn ddydd Mercher yng Nghaernarfon.

Dyma'r ŵyl £120m gafodd ei chomisiynu gan y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, yn 2018 i nodi creadigrwydd yn y DU wrth i'r wladwriaeth adael yr UE.

Fe fydd sioe gerddoriaeth a goleuadau Amdanom Ni, sy'n ceisio adlewyrchu biliynau o flynyddoedd o hanes, ar y Maes yn y dref bob nos am wythnos.

Yn ôl Sam Hunt, cyfarwyddwr rhaglen Unboxed, y nod yw dangos "uchelgais" pobl greadigol pedair cenedl y DU, ac adlewyrchu cymunedau a'u "cymhlethdodau".

Ond mae rhai yn lleol yn dweud eu bod yn anghyfforddus gyda'r digwyddiad, mewn ardal a bleidleisiodd yn gryf dros aros yn yr UE.

Disgrifiad o’r llun,

Y peth pwysig ydy bod corau'n cael canu gyda'i gilydd yn y dref, yn ôl ysgrifennydd Côr Dre, Jamie Dawes-Hughes

Er hynny, mae sawl perfformiwr lleol yn cymryd rhan, gyda Chôr Dre yn dweud bod yr ŵyl "ddim byd i wneud" gyda Brexit na Phrydeindod.

Amcan prosiect Amdanom Ni - sy'n un o 10 sy'n rhan o Unboxed - ydy cyflwyno hanes y bydysawd drwy lun, barddoniaeth a cherddoriaeth.

Mae'r sgôr gan Nitin Sawhney yn cael ei berfformio yn ddwyieithog yng Nghaernarfon gan gorau Côr Dre, Côr Kana a Chôr Eifionydd.

Dywedodd ysgrifennydd Côr Dre, Jamie Dawes-Hughes, ei fod yn edrych mlaen at gael canu eto wedi i reolau Covid-19 lacio.

"Y ffaith ein bod ni o'r diwedd yn gallu canu efo'n gilydd yn ein tref - hynna ydy'r peth gora, heb sôn am be' fydd ar y castell, y goleuadau, a popeth arall," dywedodd.

Ond mae'r cantorion wedi gorfod amddiffyn eu penderfyniad i gymryd rhan.

"Ar ôl siarad gyda'r trefnwyr, sbio fewn i bwy ysgrifennodd y darn, a chael y ffeithiau i gyd, roedden ni'n gallu gweld bod y digwyddiad heno 'ma ddim byd i'w wneud efo be' ddigwyddodd efo Brexit," meddai.

"Dydy o ddim byd i wneud efo Prydeinodod. Mae o am y bydysawd, mae o amdanom ni i gyd.

"Roedd rhaid i ni gysidro ai hwn ydy'r peth iawn i'r côr, ond mae'r côr yna i hyrwyddo'r iaith, mae hwn yn ddarn newydd yn y Gymraeg, felly mae'n ffitio fewn efo be' mae Côr Dre yn ei wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ŵyl wedi arddangos fideos o farddoniaeth plant ysgolion lleol ger muriau'r castell

Mae beirdd Cymraeg hefyd wedi bod yn rhan o Amdanom Ni, ac mae fideos o gerddi wedi eu hysgrifennu a'u perfformio gan blant ysgol lleol wedi eu gosod ar bileri ar hyd y Maes.

Dywedodd Judith Palmer, cyfarwyddwr The Poetry Society, bod y disgyblion wedi dod â syniadau eu hunain i'r prosiect, gyda natur, newid hinsawdd a'r ardal leol yn themâu amlwg.

"Dywedodd llawer o'r plant nad oedd ganddyn nhw lawer o gyfle, o angenrheidrwydd, i weithio gyda barddoniaeth yn ystod gweddill y flwyddyn," meddai.

"Roedd o'n gyfle da iddyn nhw ac mae'n bwysig buddsoddi yn ein treftadaeth lenyddol ac annog pobl ifanc i ysgrifennu, gwerthfawrogi'r iaith a'r hyn maen nhw'n gallu ei wneud," meddai.

'Gŵyl Brexit?'

Ond dywedodd rhai trigolion y dref eu bod yn anghyfforddus gydag Unboxed, sydd wedi dwyn y llysenw 'Gŵyl Brexit' ers y cychwyn.

Dywedodd Sue, sy'n byw'n lleol, na fyddai hi'n mynd i weld perfformiad achos ei gwrthwynebiad i adael yr UE.

"Mae rhai pobl eisiau mynd achos mae'n sioe fawr, a dydyn ni ddim yn cael llawer ond mae llawer o bobl hefyd wedi gweld mai rhywbeth i wneud efo Brexit ydy o," meddai.

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd adroddiad gan un o bwyllgorau Senedd y DU bod amcanion Unboxed yn "amwys" a'r buddsoddiad o £120m yn "ddefnydd anghyfrifol o arian cyhoeddus", dolen allanol.

'Beirniadaeth annheg'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Hunt, cyfarwyddwr y rhaglen, yn gwadu mai dathlu Brexit yw pwrpas yr ŵyl

Ond dywedodd Sam Hunt, cyfarwyddwr rhaglen Unboxed, bod y feirniadaeth yn "annheg" a bod y sylwadau wedi eu gwneud cyn cyhoeddi manylion y prosiectau sydd wedi eu comisiynu.

Gwadodd hefyd mai dathlu Brexit mae'r ŵyl.

"Os edrychwch chi, hyd yn oed yn sydyn, ar unrhyw un o'r deg comisiwn, fe welwch chi bod ganddo ddim i'w wneud â hynny.

"Mae'n ymwneud â dathlu uchelgais pobl greadigol pedair cenedl a hefyd amrywiaeth yr ynysoedd yma, a chymhlethdodau cymunedau'r llefydd yma, a hyn i gyd drwy weithredoedd celfyddydol bendigedig, gafaelgar ac uchelgeisiol iawn.

"Mae 'na rywbeth addas iawn bod ein sioeau mawr yng Nghaernarfon. Fe agoron ni'r sioe [Amdanom Ni], ac Unboxed yn ei gyfanrwydd yn Paisley [yn yr Alban], a 'dan ni'n ei orffen gyda phrosiect National Theatre Wales ym Mlaenau Ffestiniog. Dwi'n meddwl bod hynny'n dweud llawer am amcanion Unboxed."

Mae Amdanom Ni yng Nghaernarfon tan 5 Ebrill, a dyma'r cyntaf o bum prosiect sy'n rhan o Unboxed fydd yn cael eu llwyfannu yng Nghymru.