Pleidleisio am y tro cyntaf: Ble i ddechrau?
- Cyhoeddwyd
Mae 'na wythnos i fynd tan yr etholiadau lleol, pan fydd pobl 16 ac 17 oed yn pleidleisio dros eu cynghorwyr lleol am y tro cyntaf.
Ond ydy'r holl beth yn eich drysu?
Dyma'ch cyfle chi i ofyn 'ble i ddechrau?' a chael yr holl atebion.
BBC Cymru Fyw sy'n ateb cwestiynau criw o bobl ifanc Ysgol Gyfun Gŵyr.
Beth yw pwynt yr etholiad?
Dyma'r etholiad sy'n penderfynu pwy fydd yn rheoli'ch cyngor lleol.
Y cyngor sy'n gwneud penderfyniadau am bethau fel ysgolion, cyfleusterau hamdden, tai a gwasanaethau bws.
Dyw'r cyngor lleol ddim yn gallu creu cyfreithiau, ond maen nhw'n penderfynu sut mae gwasanaethau lleol yn cael eu rheoli.
Bydd cynghorwyr lleol yn ceisio mynd i'r afael ag unrhyw broblemau yn eich ardal a chyflwyno syniadau am sut i'w gwella.
Felly, dyma'ch cyfle chi i bleidleisio dros eich cynghorydd lleol a'r blaid hoffech chi weld yn rheoli eich ardal chi.
Fel person ifanc, pam bod yr etholiad yn bwysig?
Mae cynghorwyr a chynghorau'n cael dylanwad ar nifer o bynciau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar bobl ifanc.
O ysgolion i drafnidiaeth gyhoeddus, cyrtiau chwaraeon i ddatblygu tai yn yr ardal. Mae cynghorau'n gallu penderfynu ar bob un.
Yr iaith Gymraeg oedd yn cael sylw pobl Ceredigion yn ddiweddar, a chadw pobl ifanc yn eu hardaloedd lleol.
Ar Ynys Môn, roedd pobl yn poeni am fedru fforddio prynu tŷ wrth i gyfran y cartrefi gwyliau gynyddu.
Etholiadau Lleol 2022
Pwy sy'n sefyll yn yr etholiad?
Y prif bleidiau yng Nghymru yw'r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond ymhob etholiad lleol, bydd gwahanol bleidiau, a nifer o ymgeiswyr o bleidiau llai, yn sefyll mewn gwahanol wardiau.
Hefyd fe fydd llawer o ymgeiswyr annibynnol - sydd ddim yn cynrychioli plaid - yn sefyll mewn wardiau unigol.
Fel y mae'r map yn dangos, roedd gan y blaid Lafur reolaeth o saith awdurdod ar ôl yr etholiad diwethaf yn 2017.
Roedd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn rheoli un yr un.
Grwpiau o aelodau annibynnol oedd yn rheoli tair awdurdod, a doedd dim rheolaeth lawn yng ngweddill y siroedd.
Roedd etholiad y llynedd. Beth sy'n wahanol eleni?
Yn 2021, cafodd etholiad Senedd Cymru ei gynnal. Dyna oedd y cyfle i ethol aelod i'ch cynrychioli yn Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.
Ond eleni, pleidleisio am gynghorwyr lleol fyddwch chi er mwyn gweithredu ar bynciau yn eich ardal o fewn eich cyngor sir.
Sut mae'r system bleidleisio'n gweithio?
Mae etholiadau lleol yng Nghymru yn defnyddio system 'cyntaf i'r felin'.
Mewn ambell ward, bydd mwy nag un sedd yn cynrychioli'r ward. Mae hynny'n golygu y gallwch bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd mewn rhai ardaloedd.
Felly, yr enillydd fydd yr ymgeisydd neu ymgeiswyr sy'n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau.
Beth sy'n digwydd ar ddiwrnod pleidleisio?
Ar 5 Mai, byddwch chi naill ai'n mynd i'ch gorsaf bleidleisio leol neu byddwch chi wedi llenwi'ch pleidlais ar bapur a'i bostio.
Bydd darn o bapur yn rhestru'r holl ymgeiswyr ar gyfer eich ardal. Bydd esboniad ar y papur o sawl ymgeisydd y gallwch bleidleisio drostynt.
Byddwch chi'n rhoi [X] yn y bocs ger yr ymgeisydd neu ymgeiswyr o'ch dewis.
Pryd fyddwn ni'n cael clywed y canlyniadau?
Bydd y cyfrif yn digwydd ddiwrnod wedi'r etholiad, nid dros nos fel mewn rhai etholiadau.
Bydd yr amseru'n amrywio o ardal i ardal ond fe fydd y canlyniadau'n dechrau cyrraedd o ddydd Gwener 6 Mai.
Ble gall pobl ifanc fynd i gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio?
Bydd gan eich cynghorau lleol yr holl wybodaeth ar eu gwefannau. Mae'n bosib y cewch wybodaeth drwy'ch blwch post hefyd.
Bydd gwefan ac ap BBC Cymru Fyw yn dod a'r diweddaraf cyn y diwrnod pleidleisio, a'r holl ganlyniadau wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi.
Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a thudalennau'r pleidiau a'r cynghorau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022