Cerflun Angel Cyllyll yn ymweld â Chymru am yr eildro

  • Cyhoeddwyd
Cerflun yr Angel CyllyllFfynhonnell y llun, British Ironwork Centre
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Angel Cyllyll ei greu gyda 100,000 o gyllyll

Bydd cerflun metel enfawr sydd wedi'i wneud yn gyfan gwbl o gyllyll yn ymweld â Chymru am yr eildro o ddydd Mercher ymlaen.

Bydd yr Angel Cyllyll - sy'n 27 troedfedd (8m) o uchder - yn treulio'r pedair wythnos nesaf yn Llys y Brenin yn Aberystwyth.

Mae'r cerflun eiconig yn dychwelyd i ardal Heddlu Dyfed-Powys ar ôl mynd i'r Drenewydd ym mis Ionawr 2020.

Comisiynwyd Yr Angel Cyllyll gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, Sir Amwythig a'i greu gan yr artist Alfie Bradley.

Effaith troseddau cyllyll

Mae'n symbol o'r ymgyrch yn erbyn trais ac ymddygiad ymosodol ac mae wedi'i wneud gan ddefnyddio mwy na 100,000 o gyllyll.

Mae'r cerflun wedi bod ar daith ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll a sut mae'n effeithio ar gymunedau, teuluoedd ac unigolion.

Mae'n dychwelyd i'r canolbarth o ganlyniad i bartneriaeth rhwng y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion.

Disgrifiad o’r llun,

Cyllyll wedi eu hildio neu eu hatafaelu gan yr heddlu

Dywedodd Dafydd Llywelyn: "Mae'r Angel Cyllyll yn ein hatgoffa o'r effaith ddinistriol y mae troseddau cyllyll, ac unrhyw fath o drais ac ymddygiad ymosodol yn ei chael ar deuluoedd a chymunedau.

"Er bod cynnydd o 105% wedi bod mewn troseddau cyllyll yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf, nid yw'r Angel Cyllyll wedi dod i Aberystwyth oherwydd unrhyw broblem fawr gyda'r math hwn o drosedd yn yr ardal.

"Fodd bynnag, yr ydym yn cydnabod bod troseddau cyllyll wedi digwydd yma yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Er bod cyfran o'r rhain yn ddomestig, nid yn ddigwyddiadau y stryd, mae'n destun pryder fod nifer fach o'r rhain yn cynnwys pobl dan 18 oed.

"Rwy'n falch iawn i weld fod yr heddlu a phartneriaid wedi dod at ei gilydd dros y chwe mis diwethaf i roi ymyriadau ar waith i ddargyfeirio plant o droseddau cyllyll.

"Mae atal trosedd a dargyfeirio oddi wrth droseddu yn hanfodol.

'Dim lle i drais'

"Gobeithiwn y bydd yr Angel Cyllyll yn ein cynorthwyo'n fawr i godi ymwybyddiaeth feirniadol o droseddau cyllyll tra'n creu anoddefiad eang i ymddygiad treisgar yn ein cymunedau."

Cafodd yr Angel Cyllyll ei ddadorchuddio'n wreiddiol yn 2017 - mae wedi'i greu gan ddefnyddio cyllyll sydd naill ai wedi'u hildio neu wedi cael eu hatafaelu gan yr heddlu. Daeth rhai o'r cyllyll o ardal heddlu Dyfed-Powys.

Ers 2017 mae'r angel wedi ymweld ag 20 o drefi a dinasoedd - ym mis Hydref eleni fe fydd yn ymweld â Wrecsam, sydd newydd dderbyn statws dinas.

Dywedodd Maer Tref Aberystwyth, Dr Talat Chaudhri: "Rydym ni'n croesawu'r Angel Cyllyll i Aberystwyth ac yn cydsefyll â threfi a dinasoedd lle mae trosedd cyllyll yn broblem fwy nag y mae e yma. Nid oes lle i drais o unrhyw fath yn ein cymuned ni."

Mae plant a phobl ifanc o bob rhan o Aberystwyth ac ardaloedd cyfagos yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y gweithgareddau yn ystod yr ymweliad, yn ogystal â grwpiau a sefydliadau cymunedol.

Bydd Yr Angel Cyllyll i'w gweld yn Llys y Brenin - ger y gyffordd rhwng y promenâd a Ffordd y Môr - tan Fehefin 29.