Dinas Diwylliant: Wrecsam am geisio eto yn 2029

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd y dorf yn aros yn eiddgar am y canlyniad yn Wrecsam

Mae Wrecsam yn bwriadu gwneud cais arall i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, yn dilyn y siom o fethu allan ar y teitl nos Fawrth pan gyhoeddwyd yr enillydd.

Bradford gafodd ei ddewis o'r rhestr fer i olynu Coventry fel Dinas Diwylliant y DU 2025, ond dywedodd Amanda Davies, arweinydd cais Wrecsam, wrth y BBC y bydd y ddinas yn bendant yn ymgeisio eto am y teitl yn 2029.

"Roeddan ni wir isio dod â'r teitl adref i Wrecsam," meddai, "ond rydym yn dal yn enillwyr.

"Rydym wedi dechrau'r siwrnai ac mae'n rhaid inni barhau.

"Edrychwch ar yr holl gymunedau oedd tu cefn i ni, ac rydym yn bwrw mlaen, rydym yn mynd amdani yn 2029.

"Mae hynna'n bendant, rydym yn mynd am 2029."

Stryd yn Wrecsam

Er na fu llwyddiant y tro hwn, derbyniodd Wrecsam £125,000 am gyrraedd y rhestr fer.

Mae'r statws yn golygu y bydd Bradford yn ganolbwynt i ddigwyddiadau celfyddydol, ac mae'n rhoi cyfle i ddenu digwyddiadau ac ymwelwyr.

Mae 'na amcangyfrif bod Coventry wedi elwa o £170m ar ôl cael y teitl yn 2021.

Wrth wneud y cyhoeddiad ar BBC1, dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Nadine Dorries, bod safon y gystadleuaeth wedi bod yn "ardderchog" eleni.

'Byddwn ni yn tyfu o hyn'

Neal Thompson
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaetha'r canlyniad, roedd Neal Thompson yn falch o Wrecsam nos Fawrth

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Neal Thompson, un o sylfaenwyr Gŵyl Focus Wales a phartner allweddol y cais:

"Y rheswm i Wrecsam fynd mor bell yn y broses Dinas Diwylliant yw oherwydd y pethau sydd gyda ni ymlaen yma.

"Mae'n adlewyrchiad o'r hyn sydd yn digwydd ac o barch. Roedden ni yma cyn y cais ac fe fyddwn ni yn parhau."

Mark Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Wrecsam yn tyfu o'r profiad, medd arweinydd y cyngor

Yn ôl Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, "mae'n gymysgedd o emosiynau mewn gwirionedd".

"Siom ond hefyd balchder dros bobl Wrecsam, mae wedi dod â ni at ein gilydd. Os chi'n sylwi ar yr awyrgylch yma heno maen nhw wedi cefnogi Wrecsam.

"Byddwn ni 'nôl, byddwn ni yn tyfu o hyn ac yn gryfach," meddai.

"Fe fyddai yn llongyfarch Bradford a gobeithio y byddan nhw yn mynd ymlaen i gael cais gwych, ac y bydd popeth yn mynd yn dda iddyn nhw."

'Byddwn ni yn ennill y tro nesaf'

Iolanda Banu Viegas
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid cadw'r momentwm i fynd, medd Iolanda Banu Viegas

Dywedodd Iolanda Banu Viegas, un o siaradwyr Portiwgaleg Wrecsam, ei bod hi'n "teimlo yn eitha' trist - ond da ni yn mynd i ennill tro nesaf oherwydd ein bod yn dysgu o'n camgymeriadau".

"Mae'n flaenoriaeth i gadw y momentwm i fynd. Dydyn ni ddim yn gwneud hyn ar gyfer y beirniaid, ni'n gwneud hyn i ni ein hunain, ac ar gyfer ein cymunedau oherwydd ni'n falch o beth ni'n gwneud a bydd dim byd yn dwyn hynny oddi wrthym."

Dywedodd yr artist leol, Paul Eastwood: "Llongyfarchiadau i Bradford yn gyntaf - ond unwaith eto mae Cymru wedi colli allan ar arian sydd ar gael yn yr undeb Brydeinig."

Paul Eastwood
Disgrifiad o’r llun,

Ni ddylai Wrecsam ddigalonni, medd Paul Eastwood

"Ond rhaid i ni gario 'mlaen a dangos i'r byd be' 'dan ni'n gallu ei wneud.

"Y peth pwysig ydy cario 'mlaen, dod at ein gilydd… a dim mynd adref yn meddwl 'dan ni 'di colli."

Gall Wrecsam "ymfalchïo" yn ei chais, medd Cadeirydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

"Hefyd, y ffaith 'dan ni'n trafod cryfderau'r ddinas ac nid just y gwendidau," meddai Gareth Hughes.

£125,000 i ddinasoedd y rhestr fer

Roedd record o 20 cais gwreiddiol i gael y teitl, ond roedd Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer gyda Bradford, Durham a Southampton.

Fe fydd Durham a Southampton hefyd yn derbyn £125,000 yr un.

Côr
Disgrifiad o’r llun,

Côr Meibion Orffiws Y Rhos yn ceisio codi calon y dorf wedi'r canlyniad

Dyma'r tro cyntaf i'r dinasoedd ar y rhestr fer gael eu gwobrwyo.

"Roedd hi'n gystadleuaeth anodd, a hoffwn ddiolch i Durham, Southampton a Wrecsam am eu ceisiadau arbennig," meddai'r ysgrifennydd diwylliant.

Pynciau cysylltiedig