Ai Wrecsam fydd hwb diwylliant newydd y DU?
- Cyhoeddwyd

"Dyrchafwn 'da'n gilydd" yw un o'r dywediadau sy'n cael ei rannu ar hyd strydoedd Wrecsam wrth i drigolion obeithio am deitl Dinas Diwylliant 2025
Mae perchnogion busnes a thrigolion yn gobeithio y gall Wrecsam sicrhau teitl Dinas Diwylliant y DU 2025 gan y gallai arwain at fuddsoddiad enfawr.
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd y dref yn derbyn statws dinas fel rhan o Jiwbilî Platinwm y Frenhines, wedi bod yn gymysg mae'r ymateb wedi bod yn gymysg.
Ond mae pobl leol wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen llenwi siopau gwag os yw'r ardal - sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant 2025 - eisiau ehangu ei gorwelion.
Mae dinas Coventry wedi elwa o fwy na £170m ers derbyn y teitl yn 2021. Felly, ai Wrecsam fydd nesaf?
Mae Wrecsam wedi cael cryn gyhoeddusrwydd yn y wasg yn ddiweddar ar ôl i ddau seren Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb pêl-droed.
Tra'n codi proffil y tîm a'r dref, mae'r ddau wedi denu buddsoddiad a mwy o gefnogwyr.
Ond, fe ddaeth gobeithion y tîm am gyfle i gael dyrchafiad i ben ddydd Sadwrn ar ôl colli i Grimsby yn y funud olaf.

Fe ddaeth Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn berchnogion ar y clwb yn Chwefror 2021
Oddi ar y cae, byddai teitl Dinas Diwylliant yn newid hanes Wrecsam, yn ôl tywysydd lleol o gwmni Troedio Tref Wrecsam, Phil Phillips.
"Dw i'n meddwl fydd o'n bwysig iawn achos neith o ddod... â lot o arian a datblygu'r dre'.
"Mae 'na gymaint o ddiwylliant yma, yn y pentrefi - 'dw i'n dod o Rhos - yn y corau meibion, efo'r operatig, efo'r aelwyd, ma' 'na gymaint yn mynd 'mlaen yma.
"Gobeithio, os gawn ni'r Dinas Diwylliant, fase hwnnw, 'dw i'n siŵr, yn beth pwysig i ni a thro yn ein hanes ni.
Siopau'n cau

Arwyddion lliwgar Dinas Diwylliant yn ffenestri siopau gwag Wrecsam
Mae cyfleusterau siopa a hamdden Wrecsam wedi bod yn cystadlu â'u cymdogion yng Nghaer ac Amwythig ers blynyddoedd maith.
Yn ôl Phil Phillips, mae'r stryd fawr "methu llewyrchu" ar hyn o bryd oherwydd y ddwy flynedd diwethaf.
Dywedodd John Griffin, 88 o Wrecsam, fod siopau wedi gweld dyddiau gwell.
"'Dw i ddim yn defnyddio'r dref yn aml," dywedodd. "Mae'n reit isel, gyda nifer o siopau'n cau."

Mae nifer o siopau Wrecsam wedi cau

Yng ngorsaf fysiau Wrecsam, dywedodd Tigan, sy'n fyfyriwr yn y coleg, y byddai teitl Dinas Diwylliant yn gallu "codi'r ardal", ond mae ganddi bryderon hefyd.
"Mae'r dref yn okond mae 'na gynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio cyffuriau," dywedodd.
"Mae rhai yn dod ataf ac yn gofyn os oes gen i rai."

Mae'r Cae Ras a Thraphont Pontcysyllte ymysg atyniadau mwyaf adnabyddus ardal Wrecsam
Yn ogystal â'r stadiwm pêl-droed, mae gan Wrecsam atyniadau eraill fel Traphont Pontcysyllte.
Mae'r ddinas newydd eisoes wedi gweld sawl datblygiad, gyda phobl yn gobeithio am ddatblygiad i'r Cae Ras.
Ond mae sawl adeilad wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf, gyda datblygiadau mwy diweddar fel y parc manwerthu yn ei chael hi'n anodd hefyd.

Mae siop Debenhams wedi cau ei drysau yn Eagles Meadow yn ogystal â Topshop, Starbucks a Greggs
Mae sawl siop yng nghanolfan siopa Eagles Meadow, a agorodd yn 2008, bellach wedi cau hefyd.
Symudodd gorsaf heddlu o ganol Wrecsam yn 2020 ac archfarchnad sydd ar y safle erbyn hyn.
Mae marchnadoedd dan do Wrecsam wedi cael eu taro'n wael hefyd. Ond, mae Marchnad y Bobl gynt wedi troi'n Tŷ Pawb - adnodd cymunedol a ychwanegodd gofodau ar gyfer celf ac adloniant at y stondinau nwyddau a bwyd.

Agorodd Tŷ Pawb fel canolfan siopa a diwylliant yn 2018
Yn ôl Morgan Tomos, swyddog digwyddiadau Cyngor Wrecsam yn Tŷ Pawb, byddai teitl Dinas Diwylliant yn fuddsoddiad i ddyfodol pobl ifanc.
"Fysa fo'n rili codi gweledigaeth ar gyfer dyfodol yn yr ardal - bysa' fo'n rhoi cyfle i blant gyflawn eu gôl mewn bywyd.
"Dw i'n meddwl fysa fo'n gyfle anhygoel i ddechre' teimlo mwy o falchder yn Wrecsam tase' ni'n ennill Dinas Diwylliant.
"'Dan ni [Tŷ Pawb] wedi bod yn uchelgeisiol yn nhermau ein statws rhyngwladol ond fasa' Dinas Diwylliant yn rili galluogi ni i ehangu ac adeiladu ar hynny.

Mae 'na deimladau cymysg ymysg y bobl leol - Barry Williams, Kyle Willis, Morgan Thomas a Vicki Murt
Yn ôl cymhorthydd siop a chefnogwr CPD Wrecsam, Kyle Williams, mae 'na ysbryd cymunedol da yng nghanolfan Tŷ Pawb ond mae canol y ddinas "angen rhywbeth fel y clwb pêl-droed - mae angen arian".
Mae Tŷ Pawb wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2022 gyda'r gobaith o ennill £100,000 ym mis Gorffennaf.
Yn ôl Barry Williams, perchennog siop nwyddau harddwch, mae pobl Wrecsam yn ysu am fuddsoddiad i ganol y ddinas.
"Mae'r dref yn marw. Ry'n ni 'di bod yma ers 40 o flynyddoedd. Nid dyma'r Wrecsam ddechreuon ni gyda," dywedodd.
"Mae pobl Wrecsam yn bobl neis - ma nhw'n ysu am ragor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2022