Dyled ynni: 'Llawer gwaeth eto i ddod'

  • Cyhoeddwyd
Person yn coginio gyda nwyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusen sy'n helpu pobl mewn dyled yn ne Cymru wedi rhybuddio eu bod ond yn gweld crib y don o'r hyn sydd i ddod o ganlyniad i filiau cynyddol.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi'u casglu gan Christians Against Poverty (CAP), mae cyfran y bobl yng Nghymru sydd mewn dyled gyda'u biliau ynni yn waeth nag unrhyw ran arall o'r DU.

Mae'r rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi rhagweld y bydd biliau'n codi eto o £800 ar gyfartaledd ym mis Hydref.

Mae CAP yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi'r rhai sy'n cael trafferthion ariannol.

Ond mae yna bryderon fod rhai pobl yn "claddu eu pennau yn y tywod" ac yn gobeithio y bydd eu problemau dyled yn diflannu.

"Wrth symud ymlaen wedi Covid roedden ni'n disgwyl naid fawr yn y niferoedd [o bobl oedd yn gofyn am gymorth], ond dydyn ni heb weld hynny," meddai Tony Quinn, rheolwr dyledion CAP yng ngorllewin Abertawe.

"Mae dau reswm am hynny - y cyntaf yw embaras a'r ail yw nad yw pobl yn gwybod ble i fynd i gael cymorth, a dyna'r pryder mawr."

Trafferthion talu costau sylfaenol

Mae cydweithiwr Mr Quinn, Hannah Tallamy - sy'n rhedeg gwaith yr elusen ym Mhort Talbot - yn cytuno.

"Mae fy niferoedd wedi gostwng - cyn Covid roedd gen i wastad restr aros," meddai.

"Ond dwi'n meddwl bydd cleientiaid yn claddu eu pennau yn y tywod - maen nhw'n meddwl y bydd hyn yn diflannu, a bydd pob dim yn iawn."

Dywed Mr Quinn a Ms Tallamy bod y cynllun ffyrlo a'r cynnydd o £20 i'r Credyd Cynhwysol wedi helpu pobl osgoi mynd i ddyled yn ystod dyddiau gwaethaf y pandemig, ond mae'r penderfyniad i'w diddymu, a'r cynnydd mewn costau byw, yn golygu y bydd mwy o bobl yn troi atyn nhw am help yn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryderon fod rhai pobl yn "claddu eu pennau yn y tywod" ac yn gobeithio y bydd eu problemau dyled yn diflannu

Mae ffigyrau adroddiad newydd CAP hefyd yn awgrymu bod pobl yn cael trafferth gyda chostau sylfaenol, gyda 40% o gleientiaid newydd yng Nghymru'n cael trafferth talu treth cyngor, rhent a biliau ynni a dŵr.

"Morgeisi, nwy, trydan, treth cyngor - ac i bobl ar incwm isel iawn mae hyn yn dechrau cael effaith ar eu hiechyd corfforol a meddyliol," meddai Mr Quinn.

"10 mlynedd yn ôl roedd pethau'n wahanol - ffonau symudol a chardiau credyd oedd yn achosi dyled. Nawr mae'n ymwneud â'r pethau sylfaenol."

'Poeni am bob cnoc ar y drws'

Gall byw gyda dyled sydd allan o reolaeth fod yn ddinistriol.

Cysylltodd Julie, mam sengl o Bort Talbot, â'r elusen am gymorth yn 2019 ar ôl mynd i ddyled wrth geisio gwneud y gorau i'w phlant.

Penderfynwyd mai ffordd orau ymlaen oedd cael ei datgan yn fethdalwr.

Ffynhonnell y llun, Christians Against Poverty
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Julie'n arfer crio unwaith roedd ei phlant yn y gwely am ei bod yn poeni gymaint am ei dyledion

"Roedd bod mewn dyled yn erchyll, dim golau ym mhen draw'r twnnel, fel cerdded gan gario sach llawn brics," meddai.

"Ro'n i'n poeni am bob cnoc ar y drws rhag ofn mai'r beilïaid oedd yna. Byddwn yn aros nes bod y plant wedi mynd i'r gwely ac yna byddwn yn torri i lawr.

"Doeddwn ddim yn meddwl y bydden i'n dianc rhagddo. Roeddwn i'n teimlo'n hollol ar goll."

'Byw mewn ofn'

Mae Hannah Tallamy wedi sylwi bod llawer o'r unigolion â'r anghenion mwyaf brys wedi ynysu eu hunain bron o weddill y byd.

"Maen nhw'n byw mewn ofn," meddai.

"Byddwn i'n disgrifio'r cartrefi dwi'n mynd iddyn nhw fel rhai tywyll iawn, gyda'r llenni ar gau, oherwydd maen nhw'n ofni pobl yn curo ar y drws yn gofyn am arian.

"Dydyn nhw'n gwneud dim byd - dim taith i'r sinema gyda'r plant, dim tecawê bob hyn a hyn.

"Mae angen iddyn nhw fynd allan er lles eu hiechyd meddwl, ond dydyn nhw ddim oherwydd does ganddyn nhw mo'r arian ac mae ofn arnyn nhw i fynd allan hefyd."

Mae CAP wedi croesawu'r mesurau y mae Llywodraeth y DU wedi eu cyflwyno hyd yma i helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw, ond maen nhw'n galw am wneud mwy.

Ymhlith mesurau eraill, mae'n galw am:

  • Adolygiad nawdd cymdeithasol i fynd i'r afael â'r hyn y mae'n ei weld fel annigonolrwydd y system budd-daliadau;

  • Dad-rewi'r Lwfans Tai Lleol;

  • Cynnydd yn y cap ar fudd-daliadau;

  • Seibiant chwe mis ar dynnu ad-daliadau i Lywodraeth y DU o fudd-daliadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Yn ystod y pandemig fe wnaethom gynyddu'r Lwfans Tai Lleol yn sylweddol tu hwnt i chwyddiant, gan roi mwy na £600 ar gyfartaledd i dros filiwn o aelwydydd dros y flwyddyn.

"Rydym wedi cynyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.50 - y cynnydd mwyaf erioed ers ei gyflwyno yn 2016."

Ffynhonnell y llun, Christians Against Poverty
Disgrifiad o’r llun,

Mae bywyd gymaint yn well ers cael cymorth delio gyda'i dyled, medd Julie

Wrth i'r elusen baratoi ar gyfer hydref prysur iawn, dywed Julie bod ei phenderfyniad i gael cymorth wedi newid ei bywyd.

"Mae'n anhygoel, mae'n anghredadwy, sefyllfa nes i erioed meddwl y byddwn i'n ei chyrraedd," meddai.

"Mae'n dal yn afreal i gael arian 'eich hun' i wneud beth bynnag y dymunwch ag e. Mae bywyd gymaint yn well nawr. Mae gen i reswm i fyw."

Pynciau cysylltiedig