RSPCA yn galw am wahardd defnyddio pysgod fel gwobrau
- Cyhoeddwyd
Dylid gwahardd yr arfer o roi anifeiliaid fel gwobrau ffair ym mhob cwr o'r wlad, yn ôl yr RSPCA.
Cyngor Bro Morgannwg ydy'r pumed cyngor allan o'r 22 yng Nghymru i gyflwyno gwaharddiad o'r fath.
Yn aml mae pysgod aur yn cael eu defnyddio fel gwobrau mewn ffeiriau.
Mae'r elusen, sy'n gweithredu ar gyfer lles anifeiliaid, yn dadlau fod hyn yn gallu achosi i'r anifail fyw mewn amodau gwael.
Dywedodd perchennog Parc Pleser Ynys y Barri nad yw pysgod yn ei barc e yn dioddef.
Ynghyd â Bro Morgannwg, mae cynghorau sir Casnewydd, Caerffili, Wrecsam a Chonwy wedi penderfynu gwahardd defnyddio anifeiliaid fel gwobrau.
Flwyddyn diwethaf, roedd mwy 'na 9,000 o gefnogwyr y RSPCA wedi galw ar eu hawdurdodau lleol i wahardd yr arfer yma rhag digwydd yn eu hardaloedd nhw.
Yng Nghymru a Lloegr, does dim modd rhoi pysgodyn fel gwobr i berson sy'n iau na 16 oed heb bresenoldeb oedolyn.
Mae pum cyngor yng Nghymru a 22 yn Lloegr wedi naill ai gwahardd yr arfer yma neu'n cymryd camau yn ei erbyn.
Mae'r RSPCA yn annog mwy o gynghorau i wahardd yr arferiad.
Pysgod yn 'marw cyn i'r perchnogion gyrraedd adre'
Dywedodd Chris O'Brien, rheolwr materion cyhoeddus RSPCA Cymru: "Wrth i gyfyngiadau Covid godi yn gyfan gwbl yng Nghymru, mae 'na risg fod rhoi'r pysgod aur fel gwobrau yn dychwelyd wrth i ffeiriau a gwyliau ail ddechrau.
"Mae pysgod aur yn cael eu defnyddio'n aml fel gwobrau ond yn gallu mynd o dan straen yn hawdd ac yn marw o sioc, newyn ocsigen, neu newidiadau yn nhymheredd y dŵr, felly mae llawer yn marw cyn i'r perchnogion gyrraedd adre'."
Mae Henry Danter, perchennog Parc Pleser Ynys y Barri, yn dweud nad yw'r pysgod yn dioddef.
Dywedodd fod pobl wedi dod yn ôl ato a dweud bod y pysgod wedi byw am 20 neu 30 mlynedd.
Mae pysgod aur, meddai, wedi'u rhoi fel gwobrau yn y parc am fwy na 100 mlynedd.
Ychwanegodd: "Fe fyddai ein swyddog diogelwch yn mynd lawr 'na a gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn...
"Mae pobl yn gwneud bywoliaeth allan o hyn ac os ydyn am wahardd rhoi pysgod aur mewn parc pleser, dylai nhw edrych mewn i'r holl greulondeb sy'n digwydd yn y diwydiant pysgod, mae hynny'n gwneud fwy o synnwyr i fi na edrych ar bysgodyn aur fel gwobr."
Dyma gyngor y RSPCA wrth gadw pysgod aur:
Dylai rhai ifanc cael eu cadw mewn o leia' 60 litr o ddŵr i bob pysgodyn - bydd angen mwy o le ar gyfer pysgod yn hŷn;
Mae angen i'r perchennog wybod faint o fwyd sydd angen ar y pysgod a pha mor aml mae'n rhaid bwydo, gan osgoi gorfwydo;
Cynnwys planhigion yn y tanc i hybu twf anifeiliaid dyfrol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019