Jamie Wallis AS yn euog o dri chyhuddiad wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Jamie Wallis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jamie Wallis AS wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi ei gael yn euog o dri chyhuddiad ar ôl iddo yrru mewn i bolyn lamp y llynedd.

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod Jamie Wallis wedi ei weld yn eistedd yn y car funudau wedi'r gwrthdrawiad tua 01:00 yn Llanfleiddan ger Y Bont-faen ar 28 Tachwedd, 2021.

Yn ôl y tystion roedd gyrrwr y car yn gwisgo sgert ledr ddu, esgidiau sodlau uchel a mwclis o berlau ar y pryd.

Roedd Wallis, sydd wedi cynrychioli etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr ers 2019, wedi gwadu'r cyhuddiadau.

Ond cafwyd yn euog o fethu â stopio wedi gwrthdrawiad, o beidio cofnodi gwrthdrawiad ar y ffordd ac o adael ei gar mewn man peryglus.

Ni chafwyd yn euog o gyhuddiad arall, sef gyrru yn ddiofal.

Yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, cafodd ddirwy o £2,500 a'i wahardd rhag gyrru am chwe mis.

Ofn 'treisio, lladd neu gipio'

Roedd Jamie Wallis yn dweud iddo adael y digwyddiad am ei fod yn ofni cael ei "dreisio, ei ladd neu ei gipio" gan ei fod yn dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ar ôl cael ei dreisio ychydig fisoedd cyn y digwyddiad.

Yn ôl Carina Hughes ar ran yr erlyniad roedd dau dyst, Adrian Watson a Natalie Webb, yn rhan o ddathliad tua 01:00 pan glywson nhw "bang uchel, oedd yn uwch na sŵn tân gwyllt arferol".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Wallis ei arestio ar ôl gwrthdrawiad pan darodd car Mercedes yn erbyn polyn lamp

Mae Mr Watson yn dweud iddo ofyn i'r dyn os oedd o'n iawn, ac i'r dyn ateb "dwi'n delio gyda fe, dwi'n delio gyda fe".

Fe ddechreuodd y dyn gerdded i ffwrdd o'r car, meddai Mr Watson, ar ôl iddo ddweud y byddai'n galw'r heddlu.

Ar ôl clywed y dyn yn gwneud dwy alwad ffôn, cafodd ei gludo o'r ardal mewn Land Rover Discovery.

Roedd yr erlyniad wedi honni mai Wallis oedd y dyn yn y Mercedes, ac mai ei dad ddaeth i'w nôl yn y Land Rover Discovery.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr fod yr erlyniad wedi profi bod Wallis yn gallu gwneud penderfyniadau y noson honno, ond fe wnaeth benderfyniadau gwael

Cafodd Jamie Wallis AS ei arestio am 07:21 y bore hwnnw mewn tŷ oedd wedi ei gofrestru fel cartre'r teulu Wallis.

Clywodd y llys i'r Sarjant Gareth Handy dorri mewn i'r tŷ oherwydd pryder am ddiogelwch Jamie Wallis.

Cafwyd hyd iddo yn cysgu'n noeth mewn ystafell wely gan Sarjant Handy a'r heddwas Louis Hall.

Dywedodd Louis Hall fod Wallis "fel petai'n gwisgo colur", ac fe gafodd sgert ddu a mwclis o berlau eu canfod ger y gwely.

'Teimlo dan fygythiad'

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Wallis ei fod yn aml yn gwisgo dillad menywod, yn enwedig pan ei fod ar ei ben ei hun.

Ym mis Mawrth eleni Wallis oedd yr Aelod Seneddol cyntaf i ddweud ei fod yn drawsryweddol.

Ar yr un pryd fe ddatgelodd iddo gael ei dreisio ym mis Medi 2021.

Wrth gadarnhau hynny yn y llys, ychwanegodd Wallis iddo gael diagnosis o PTSD ar ôl cael ei dreisio.

Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd y Blaid Geidwadol yn cymryd camau pellach yn erbyn Wallis

Mae'n honni iddo adael safle'r gwrthdrawiad ar ôl iddo gael pwl o PTSD ac iddo deimlo'n "agored i niwed" ac "o dan fygythiad".

Yn ôl Carina Hughes ar ran yr erlyniad roedd gan Wallis ddigon o amser i ffonio'r heddlu ar ôl cyrraedd adref gan fod tystiolaeth i ddangos iddo wneud sawl galwad a gyrru negeseuon testun i'w wraig.

"Pe bawn i wedi medru gwneud, mi fyddwn i wedi gwneud," meddai Wallis.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol ei bod yn iawn bod Wallis wedi'i gosbi ar ôl ei gael yn euog o'r troseddau, ond na fyddan nhw'n cymryd unrhyw gamau pellach ac y byddan nhw'n parhau i roi cymorth lles.