Stanley Kubrick, yr archdderwydd a'r arlunydd o Sir Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Ann gyda'i wyrionFfynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Annie Walker, neu Ann Griffiths i bobl Sir Aberteifi a 'Mam-gu' i'w wyrion a'i wyresau

Beth sy'n cysylltu cyn-archdderwydd Gorsedd Cymru, John Gwilym Jones, a'r cyfarwyddwr ffilm Stanley Kubrick?

Mae'r ddau wedi cael eu darlunio gan Annie Walker, Cymraes o Sir Aberteifi sydd wedi gwneud ei chartref yn Llundain ers degawdau.

Fe dynnodd yr artist sydd bellach yn 83 mlwydd oed lun Stanley Kubrick pan roedd hi'n gweithio fel arlunydd ar y ffilm enwog 2001: A Space Odyssey yn y chwedegau.

Ffynhonnell y llun, Annie Walker
Disgrifiad o’r llun,

Braslun Ann o Stanley Kurbick ar set 2001 Space Odyssey

Ac mae ei phaentiad o'r prifardd John Gwilym Jones yn un a gomisiynwyd pan ddaeth ei chyn gyfaill yn Ysgol Llandysul yn archdderwydd yn 1993.

Ffynhonnell y llun, Ann Griffiths/Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Portread Ann o John Gwilym Jones pan ddaeth yn archdderwydd yn 1993; roedd y ddau yn yr ysgol gyda'i gilydd yn Llandysul

Wedi gadael Cymru yn y 1950au, mae Annie yn byw erbyn hyn yn un o faestrefi ariannog Llundain gyda'i gŵr Angus Walker, sy'n gyn-ddarlithydd.

Mae ganddi bedair merch - yn eu mysg y blogiwr a cholofnydd y Times, Esther Walker, sy'n briod â Giles Coren; a Hannah Snow, sy'n wraig i'r cyflwynydd a'r canwr Alexander Armstrong.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dwy o ferched Ann sydd yn llygad y cyhoedd: Hannah Snow ac Esther Walker gyda'u gwŷr Alexander Armstrong a Giles Coren

Ond nôl yn Ysgol Llandysul yn y 1950au, nid Annie Walker oedd hi, ond Ann Griffiths, merch fferm Blaenhalen ger Castell Newydd Emlyn, oedd wedi siarad dim ond Cymraeg tan roedd hi'n 10 oed.

Tynnu lluniau ar y llawr

Doedd bod yn artist ddim yn ddewis gyrfa amlwg yng nghefn gwlad bryd hynny, yn enwedig i ferched, oedd ddim hyd yn oed yn cael ymuno gyda'r bechgyn yn y gwersi celf yn yr ysgol.

Ond roedd dawn Ann fel artist yn amlwg o'r dechrau.

"O'n i wedi cael fy ngeni jyst cyn y rhyfel yn 1939 a doedd dim pensils a papur," meddai wrth rannu ei stori gyda Cymru Fyw.

"Ond roedd y flags glas 'ma gyda ni ar y llawr yn Blaenhalen ac o'n i'n ffeindio cerrig meddal yn yr ardd ac yn tynnu lluniau wedyn ar hyd y flagstones 'ma!

"Roedd y ffarm wedi bod yn draddodiadol iawn, oedd fy nhad yn defnyddio ceffylau, doedd e ddim yn bell o fod yn ffermio fel roedd yn digwydd yn adeg Dafydd ap Gwilym. Roedd pobl yn godro gyda llaw."

Gwobr gelf

Yn yr ysgol fe sylwodd yr athrawon ar y lluniau roedd hi'n eu tynnu yn ei llyfrau a mynnodd athrawes gelf ei bod yn cael gwersi, fel y bechgyn.

"Fe ges i newid y lessons hoci am art lessons - un o ddyddiau gorau fy school career!" meddai.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Sir Llandysul lle roedd Ann Griffiths yn gyd-ddisgybl i John Gwilym Jones a'r ddarlledwraig Beti George, a lle gafodd gyfle prin i ferch ar y pryd i gael gwersi celf

Yn 15 oed, enillodd gystadleuaeth celf drwy'r DU mewn cylchgrawn i ferched a'r wobr oedd taith gelfyddydol i'r Eidal a chwrdd ag un o feistri'r cyfnod, Annigoni - dipyn o agoriad llygad i ferch ifanc.

Roedd cystadleuaeth gyfatebol i'r bechgyn hefyd a neb llai na'r arlunydd David Hockney a'r dyfeisiwr James Dyson wedi ennill honno.

'Rwy am i ti fynd o' 'ma a phaid edrych nôl'

Ar ôl mynd i astudio celf yn y brifysgol yn Newcastle Upon Tyne ddaeth Ann erioed yn ôl i Gymru i fyw, ar wahân i gyfnod byr yng Nghaerdydd yn y chwedegau.

Wrth edrych yn ôl, mae hi'n gweld bod y geiriau a ddywedodd ei thad wrthi pan roedd hi'n gadael am y coleg wedi llywio ei bywyd wedi hynny.

"Aeth e lan a fi i dop y ffarm, yn edrych lawr ar Ddyffryn Teifi, a wedodd e: 'Does dim ond tlodi wedi bod 'ma erioed, rwy am i ti fynd o' 'ma a phaid ti edrych nôl. Paid ti â cael hiraeth, cer di mor bell a galli di.'

"O'n i ddim yn sylweddoli ar y pryd mor bwysig oedd e, ond wrth edrych nôl, rwy'n gweld o'n i am drio gwneud beth oedd e am i fi wneud.

"A nawr mae dau o'r wyrion yn Eton, a'r trydydd jyst wedi cael entrance exam, a fydden i'n gallu dweud wrth Dad bod dau o'r wyrion yn Eton - fydde fe meddwl mod i wedi neud y jobyn iawn!" meddai Ann gyda balchder.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei thad wrth Ann nad oedd dim dyfodol iddi yn Nyffryn Teifi

Roedd tad Ann yn un o naw o blant a dim digon o arian gan y teulu i'w anfon i'r ysgol ramadeg gan fod dau o'i frodyr eisoes wedi bod, a'r rheiny wedi cael swyddi da yng Nghaerdydd a thros y ffin tra arhosodd tad Ann gartref i ffermio.

Roedd yn amlwg yn teimlo fod dawn ei ferch fel artist yn gyfle iddi ddilyn llwybr na chafodd ef ei hun ei throedio.

"Allen i fod wedi mynd i ddysgu ond o'n i'n teimlo'n eitha' mentrus, o'n i am weld beth oedd dros Glawdd Offa," meddai Ann.

Wedi cyfnod o fyw yn Rhydychen, lle gweithiodd fel ysgrifenyddes mewn adran gelf a mwynhau cymysgu gyda hufen academaidd y sefydliad, symudodd Ann i fyw i Lundain ym mwrlwm y chwedegau.

Ffilmio gyda Kubrick

Mae'n cofio'i chyfnod yn gweithio yn stiwdios MGM yn Borehamwood ar 2001: A Space Odyssey fel profiad diddorol iawn.

Ffynhonnell y llun, Sunset Boulevard

Yn y dyddiau cyn CGI roedd rhaid cael byddin o artistiaid i greu'r effeithiau gweledol ar gyfer y ffilm sy'n dal i gael ei hystyried yn un o'r ffilmiau sci-fi mwyaf dylanwadol erioed.

Fel arlunydd set, gwaith Ann oedd creu modelau.

"Mi fydde ni'n cerdded i gael cinio gyda'r modellers eraill, yr oedd tua wyth ohono ni, a chlywed lleisiau enwog yn ein dilyn. Pe bai ni'n gwybod mor enwog fyddai 2001 mi fydde ni wedi talu mwy o sylw ar beth oedd yn mynd ymlaen, a thynnu rhagor o luniau - mae gen i sketch o Kubrick ar y set, ond mi ddylen i fod wedi talu rhagor o sylw."

Cerfluniau

Yn ogystal â darlunio fe arbenigodd Ann mewn cerflunio ac mae wedi creu sawl penddelw o bobl nodedig.

Heblaw'r paentiad o'r prifardd John Gwilym Jones prin yw ei gweithiau cyhoeddus yng Nghymru: mae enghraifft o un o'i cherfluniau cynnar yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, sef penddelw o'r gŵr busnes a'r dyngarwr, Michael Sobell.

Ffynhonnell y llun, darren Wyn Rees
Disgrifiad o’r llun,

Penddelw o Michael Sobell gan Annie Walker

Mae wedi bod yn paentio darluniau a phortreadau ar gomisiwn hyd yn ddiweddar a gwerthu cardiau o'i gwaith ac arddangos yn ei horiel leol yn Hampstead Garden Suburb tan iddi gau.

Mae hi'n dal i baentio ond dim gymaint bellach gan fod ei golwg yn dirywio a bywyd yn brysur gyda'i hwyrion a wyresau.

Ffynhonnell y llun, Annie Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann wedi paentio sawl portread, gan gynnwys o anifeiliaid anwes, ar gomisiwn

'Mam-gu'

Prin iawn mae Ann wedi siarad ei mamiaith ers gadael cartref meddai, a wnaeth hi ddim trosglwyddo'r iaith i'w phlant.

"Maen nhw'n gweld eu hunain fel Saeson rhonc," meddai Ann.

"Wnes i drio dysgu Cymraeg iddyn nhw pan oedden nhw'n blant ond o'n nhw'n edrych arna i fel pe bawn i wedi colli fy synhwyrau; 'Why is Mother suddenly gabbling away?!'

"Oedd hi'n anodd iawn - achos maen nhw ynghanol pobl sy'n siarad Saesneg so beth gallwch chi ei wneud?"

Ond 'Mam-gu' yw hi i'r wyrion a wyresau ac mae'r plant yn gyfarwydd ag ymweliadau i'r hen gartref yn Sir Aberteifi ac ar wyliau i orllewin Cymru.

Ffynhonnell y llun, Annie Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mae paentiad gan Ann o Gei Newydd yng nghartref ei merch, Hannah, yn Rhydychen

Bu ei brawd yn ffermio Blaenhalen ar ôl ei thad, gan ei moderneiddio. Ond mae'r hen gartref bellach yn le gwyliau o'r enw Secret Fields a brynwyd yn 2019 gan griw oedd eisiau gadael eu "bywydau normal" a thyfu eu llysiau eu hunain, yn ôl eu gwefan.

"I feddwl bod Blaenhalen wedi mynd yn Secret Fields!" meddai Ann.

"Pan o'n i yn ifanc, yn Rhydlewis a'r pentrefi yna i gyd oedd neb yn siarad Saesneg yna a nawr dim ond rhai, y rhai hynaf, sydd yn siarad Cymraeg, mae'r cwbl wedi newid."

Mae'r pryderon am golli enwau cynhenid a cholli pobl ifanc o gefn gwlad yn stori gyfarwydd yng Nghymru.

Ond Llundain yw adref i Ann, neu Annie, bellach, lle mae'n teimlo'n gyfforddus fel aelod o'r gymdeithas amlddiwylliannol o alltudion sy'n cael eu tynnu yno.

"Chi'n cwrdd â gymaint o bobl yn Lloegr sydd wedi dod o rannau o Ewrop, o Rwsia, o'r Almaen, o bob man; wedi dianc o ryfeloedd, a maen nhw i gyd yn teimlo 'run peth - mae gymaint o migrants yma o bob rhan o'r byd, mae'n eitha' diddorol bod yn un ohonyn nhw.

"Rwy' i'r genhedlaeth gyntaf i ddod a maen nhw yr ail genhedlaeth ran fwyaf. Erbyn yr ail genhedlaeth maen nhw i gyd yn byhafio yr un peth yn gywir - middle-classEnglishman, born and bred."

Ac, fel y Fam Gymreig draddodiadol, mae hi'n brysur yn helpu i gefnogi ei merched a'u teuluoedd: "Os yw'r plant a'r wyrion yn Lloegr, fan hyn y'ch chi'n perthyn nawr. A mae eisiau cefnogaeth ar y merched.

"Mae eisiau cael rhywun 'na sy'n bennaeth ar y merched a'r teulu mewn ffordd. Yn y diwedd mae bod yn fam ac yn fam-gu yn fwy pwysig na bod yn gallu darlunio."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig