Coroni'r Bardd fydd prif seremoni ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Coroni'r prifardd buddugol fydd prif seremoni Eisteddfod Ceredigion ddydd Llun a hynny am ddilyniant o gerddi a gafodd ei ysgrifennu ar gyfer Eisteddfod 2020.
Ar gyfer eisteddfodau AmGen 2020 a 2021 gosodwyd testunau eraill - yn 2020 ysgrifennu darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun 'Ymlaen' oedd yr her ac yn 2021 cyflwynwyd y Goron am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 200 o linellau ar y pwnc, 'Ar Wahân'.
'Gwres' yw testun Eisteddfod Ceredigion ac yn beirniadu'r cyfansoddiadau mae Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams - y tri yn brifeirdd cenedlaethol gyda Cyril Jones yn cipio'r Goron yn Aberystwyth, Glenys Roberts yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 a Gerwyn Wiliams yn Eisteddfod Nedd a'r Cyffiniau 1994.
Eleni mae'r goron wedi ei chynhyrchu a'i chynllunio gan yr artist, Richard Molineux ac mae'n ddathliad o ddiwylliant Ceredigion a Chymru mewn cyfres o 12 o ffasedau gwydr lliw.
Mae'r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen sy'n rhoi'r goron eleni ac Ifor a Myfanwy Lloyd o'r fridfa sy'n rhoi'r wobr ariannol o £750.
I greu'r goron paentiodd Mr Molineux ei ddyluniadau gwreiddiol ar wydr wedi'i chwythu â cheg, cyn ei staenio â staen arian a'i enamlo â ffrit lliw.
Defnyddiodd dechneg ffoil copr i greu cyfres o ffasedau tri dimensiwn.
Yna, gosododd y gwydr ar fand pen copr wedi'i wehyddu â llaw, yn debyg i arddull gwehyddu basged, er mwyn cynrychioli basged gynhaeaf a'r creadigrwydd sy'n cael ei gynaeafu yn yr Eisteddfod.
O fewn y band pen ceir cap ffelt coch llachar, wedi'i frodio â chord aur gan yr artist tecstilau Elinor McCue mewn patrwm clymwaith Celtaidd.
Fel ag sy'n draddodiadol ar ddechrau seremoni'r coroni bydd yna groeso ddydd Llun i gynrychiolwyr Celtaidd o Gernyw Llydaw, Yr Alban, Iwerddon a'r Wladfa.
Mae nifer o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y ddawns flodau eleni yn hŷn nag arfer gan eu bod wedi'u dewis yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod 2020.
Tybed ai rywun o Geredigion fydd yn ennill y goron eleni?
Mae nifer o Gardis a'r rhai sydd wedi ymgartrefu yn y sir wedi ennill y goron yn ystod y ganrif ddiwethaf - yn eu plith Prosser Rhys ym Mhont-y-pŵl yn 1924, Simon B Jones o deulu'r Cilie yn Wrecsam yn 1933, J M Edwards deirgwaith, W J Gruffydd (Elerydd) ddwywaith, Haydn Lewis ddwywaith, Donald Evans ddwywaith, Eluned Phillips ddwywaith, Dafydd Jones o Ffair-rhos, John Roderick Rees ddwywaith ac yn fwy diweddar Cyril Jones a Dafydd John Pritchard.
Ymhlith enillwyr y ganrif hon mae Dylan Iorwerth, Jason Walford Davies, Hywel Griffiths a Ceri Wyn Jones.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020