Y Ffilm Dream Horse ar y blaen yng Ngwobrau Bafta Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae ffilm am geffyl a gafodd ei fagu ar randir lysiau yn ne Cymru ac aeth yn ei flaen i ennill Grand National Cymru, wedi cael pum enwebiad yng Ngwobrau Bafta Cymru eleni.
Hanes y ceffyl Dream Alliance, a enillodd ras geffylau fwyaf Cymru yn 2009, yw Dream Horse.
Mae'r ffilm wedi derbyn enwebiadau yn y categorïau canlynol: actor gorau (Owen Teale); ffilm orau; colur a gwallt; ffotograffiaeth, a goleuo a sain.
Y cyflwynydd Alex Jones fydd yn arwain y seremoni wobrwyo yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd ar 9 Hydref - y tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb ers dwy flynedd oherwydd Covid.
Hefyd yn y ras...
Mae'r gyfres gomedi dywyll, In My Skin, wedi derbyn pedwar enwebiad, tra bod y ffilmiau CODA a Grav, y ddrama, Mincemeat, a'r gyfres The Pact wedi cael tri enwebiad yr un.
Dywedodd Alex Jones: "Nid yn unig y mae'n fraint ac anrhydedd i fod yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru unwaith eto, ond mae'r ffaith ei bod yn ôl fel seremoni fyw eleni mor gyffrous.
"Does dim awyrgylch gwell i gydnabod a dathlu'r holl raglenni teledu a ffilmiau rhyfeddol sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru - llongyfarchiadau mawr i'r holl enwebeion."
Mae'r rhestr lawn o'r enwebiadau ar gael ar wefan Bafta, dolen allanol ond dyma ddetholiad o'r prif enwebiadau:
Actor: Aneurin Barnard, Time; Eddie Marsan, The Pact; Owen Teale, Dream Horse; Siôn Daniel Young, Deceit.
Actores: Aimee Lou Wood, Mincemeat; Emilia Jones, Coda; Gabrielle Creevy, In My Skin; Joanna Scanlan, After Love.
Ffilm: Dream Horse; Grav; The Trick
Drama Deledu: In My Skin; Life and Death in the Warehouse; Mincemeat; Yr Amgueddfa
Rhaglen Blant: Bex; Deian a Loli; Efaciwis; Hei Hanes
Rhaglen Adloniant: 6 Gwlad Shane ac Ieuan; Am Dro!; Bwyd Epic Byd Chris; Iaith ar Daith.
Cyfres Ffeithiol: Gwesty Aduniad; The Great Big Tiny Design Challenge; Murder in the Valleys; Ysgol Ni: Y Moelwyn
Newyddion a Materion Cyfoes: A Killing in Tiger Bay; Coronavirus: A Care Home's Story; Covid, Y Jab a Ni; No Body Recovered
Cyflwynydd: Chris Roberts, Bwyd Byd Epic Chris; Elin Fflur, Sgwrs Dan y Lloer; Jason Mohammad, Drych; Sean Fletcher, Wonders of the Border
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021