Fydd Truss yn adfer perthynas llywodraethau Cymru a'r DU?

  • Cyhoeddwyd
Liz Truss a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Drakeford longyfarch Liz Truss yn dilyn ei buddugoliaeth, gan ychwanegu bod angen cydweithio ar frys

"Diar mi. Mae e wir, wir yn ofnadwy."

Mae'r disgrifiad yma o Boris Johnson gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn rhoi syniad da o'r teimladau tuag at Mr Johnson ym mhencadlys Llywodraeth Cymru.

Cafodd y sylw ei wneud yn dilyn cyfarfod gyda chyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, a'i ddarlledu'n rhan o raglen ddogfen ar S4C y llynedd.

Yn ystod cyfnod Mr Johnson wrth y llyw roedd y berthynas rhwng Parc Cathays a Downing Street dan straen, gyda thensiynau dros Brexit, cyllid a phwerau i Gymru ar ôl gadael yr UE, a'r ymateb i'r pandemig.

Byddai misoedd yn mynd heibio heb i'r ddau arweinydd rannu sgwrs.

Felly a allwn ni ddisgwyl i bethau wella gyda Liz Truss bellach wedi symud i Rif 10?

Mark Drakeford a Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddai misoedd yn mynd heibio heb iddo siarad â Boris Johnson

"Roedd y berthynas rhwng llywodraeth Boris Johnson a'r llywodraethau datganoledig yn wael a doedd neb yn ceisio celu hynny, felly os ydych chi isio bod yn optimistig mae yna gyfle i gychwyn eto," medd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Ond yn ystod yr ymgyrch 'da ni wedi clywed Liz Truss yn bod yn negyddol tu hwnt ynglŷn â [Phrif Weinidog yr Alban] Nicola Sturgeon, yn negyddol ynglŷn â Llywodraeth Cymru, felly dydy'r argoelion ddim yn dda."

Mewn hystings yng Nghaerdydd ddechrau mis Awst dywedodd Ms Truss bod Mark Drakeford yn "fersiwn egni isel o Jeremy Corbyn".

Fe wnaeth hi ei gyhuddo hefyd o fod "â chywilydd o'n hanes".

Erbyn hynny roedd hi eisoes wedi cyhuddo Nicola Sturgeon o "edrych am sylw", a dywedodd y byddai'n ei hanwybyddu.

Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones fod ymgeiswyr yn "dweud pethe yn ystod ymgyrch i gynhyrfu'r aelodau"

Ond - yn fwy diplomataidd - mae'r prif weinidog newydd wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyfleoedd economaidd.

"Mae pobl yn dweud pethe yn ystod ymgyrch i gynhyrfu'r aelodau er mwyn iddyn nhw bleidleisio drostyn nhw," medd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

"Bydden i'n gobeithio taw just siarad oedd hwnna a felly nawr mae'r jobyn pwysig yn dechre sef adeiladu perthynas rhwng y llywodraethau."

Mae Mr Jones yn cydnabod hefyd bod yna gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i godi pontydd.

Sam Kurtz
Disgrifiad o’r llun,

"Mae yna law o gyfeillgarwch yn cael ei ymestyn ac rwy'n gobeithio y bydd yna gydweithio nawr," medd Sam Kurtz

Fe wnaeth Mr Drakeford longyfarch Ms Truss yn dilyn ei buddugoliaeth, gan ychwanegu bod angen "gweithio gyda'n gilydd ar frys" i daclo'r argyfwng costau byw.

Roedd yna groeso i'r sylwadau gan yr Aelod Senedd Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, y Ceidwadwr Sam Kurtz.

"Mae yna law o gyfeillgarwch yn cael ei ymestyn ac rwy'n gobeithio y bydd yna gydweithio nawr," meddai.

"Wrth gwrs maen nhw'n mynd i anghytuno ar faterion gwleidyddol, ond mae'n bwysig eu bod nhw'n cael cydweithio ar y pynciau sydd mor bwysig ar hyn o bryd.

"Gyda'r sialensiau sydd i ddod - yr argyfwng costau byw a'r gaeaf caled o'n blaenau - mae'n rhaid i'r berthynas wella."

M4 CasnewyddFfynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Truss wedi addo atgyfodi'r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd - cynlluniau a gafodd eu hatal gan Lywodraeth Cymru

Ond yn ôl arweinydd y grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd, Andrew RT Davies, "mae angen i Mark Drakeford gydnabod ein bod ni'n un wlad - y Deyrnas Unedig, Cymru, Yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon - yn tynnu gyda'n gilydd yn wynebu'r pwysau economaidd mae pob un yn ei wynebu".

"Mae angen i Lywodraeth Cymru a Mark Drakeford fwrw 'mlaen gyda delio â'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd, gweithredu ar y gyfundrefn addysg a gweithredu ar yr economi yng Nghymru, yn hytrach na chael brwydrau gwleidyddol, cyfansoddiadol gyda'r llywodraeth yn San Steffan."

Ond mae'r dadlau cyfansoddiadol yn debygol o barhau.

Er enghraifft fe allai ymrwymiad Ms Truss i atgyfodi'r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd - cynlluniau a gafodd eu hatal gan Lywodraeth Cymru - brofi amynedd gweinidogion yng Nghaerdydd.

Liz Saville Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn San Steffan wedi dangos "diffyg parch" tuag at ddatganoli, yn ôl Liz Saville Roberts

Mae Plaid Cymru'n credu y bydd Llywodraeth y DU o dan arweinyddiaeth Ms Truss yn ceisio "troi'r cloc yn ôl" ar ddatganoli.

Mae arweinydd grŵp y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, yn dweud yr hoffai hi weld "mwy o barch" rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.

Ond dydy'r "diffyg parch" mae rhai yn San Steffan wedi ei ddangos tuag at ddatganoli "ddim yn argoeli'n dda", ychwanega.

Beth fydd rôl Ysgrifennydd Cymru?

Bydd gan Syr Robert Buckland, gafodd ei ail-benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos hon, rôl allweddol i'w chwarae'n adeiladu'r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth.

"Dwi'n meddwl ei fod e'n apwyntiad gwell na rhai ry'n ni wedi eu cael yn y gorffennol," medd Carwyn Jones.

"Bydd e'n ceisio codi pontydd os ydy Liz Truss yn gadael iddo fe wneud hynny."