Cwpan y Byd: 'Gobeithio geith y wasg Americanaidd sioc!'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ian Hughes: 'Chwaraewyr America yn rhai o safon'

Mae cyn-reolwr yn Uwch Gynghrair Cymru, sydd bellach yn hyfforddi yn yr UDA, yn credu fod gan Gymru ddigon i ennill eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd.

Yr Unol Daleithiau fydd y gwrthwynebwyr nos Lun, gyda Chymru'n targedu dechrau da wrth gystadlu yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1958.

Ymysg y ffactorau fydd yn wynebu tîm Robert Page yn y Dwyrain Canol fydd gwres llethol, hyd yn oed ym mis Tachwedd - amgylchiadau bur anghyfarwydd i garfan sydd bron i gyd yn chwarae o fewn ynysodd Prydain.

Ond tra'n rhagweld gêm agos, gyda charfan yr Americanwyr yn cynnwys sawl chwaraewr addawol, barn Ian Hughes yw bod gan Gymru, ar eu gorau, ddigon i sicrhau buddugoliaeth.

'Cymysgedd diddorol'

Dywedodd bod poblogrwydd y gamp yn tyfu, er y gystadleuaeth gan chwaraeon megis pêl-droed Americanaidd, pêl-fas a phêl-fasged, ond bod un llygad ar 2026 pan fydd yr UDA yn cynnal Cwpan y Byd ar y cyd â Chanada a Mecsico.

"Mae'r UDA yn dîm ifanc, mae nhw efo digon o hyder a chwaraewyr o safon," dywedodd Ian, sy'n wreiddiol o Lanfigel, Ynys Môn ac oedd yn is-reolwr ac yna'n reolwr Clwb Pêl-droed Aberystwyth rhwng 2010 a 2016.

Disgrifiad o’r llun,

Aeth Ian Hughes â CPD Aberystwyth i ffeinal Cwpan Cymru yn 2014, ond mae bellach yn byw ac yn hyfforddi yn nhalaith Massachusetts i Steel Sports

"Fydd pawb yn gwybod am [Christian] Pulisic a [Giovanni] Reyna - fel Cymru, mae ganddyn nhw chwaraewyr sy'n gallu gwthio 'mlaen a sgorio goliau.

"Mae'n gymysgedd diddorol o chwaraewyr tramor a chwaraewyr o'r MLS, fel Cymru, hefo rhai chwaraewyr yn chwarae yn y prif gynghreiriau ac eraill ddim mor uchel, felly mae hi am fod yn gêm agos."

'Dim digon o barch i Gymru'

Er bod aelodau'r wasg yn yr UDA yn rhagweld buddugoliaeth i'r Americanwyr, ychwanegodd nad yw'r rheolwr, Gregg Berhalter, yn diystyru bygythiad Cymru.

"Mae'r rheolwr 'di dod allan a dweud fod y wasg allan yma ddim yn rhoi digon o barch i Gymru ac bod Cymru'n dîm o safon.

"I mi mae hynny'n wir, dydyn nhw ddim yn rhoi digon o barch i Gymru a'r chwaraewyr sydd gynnon ni, felly gobeithio gawn nhw sioc pan 'dan ni'n chwarae nhw!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd chwaraewyr Cymru wedi treulio bron i wythnos yn Qatar erbyn gêm nos Lun, mewn ymgais i ymdopi gyda'r gwres

Ond ychwanegodd bod hi'n debyg bydd rhaid i Gymru addasu eu ffordd o chwarae i ddeilio gyda gwres llethol Qatar.

"Fydd yr Americanwyr wedi arfer efo'r tymheredd, ond fydd bob tîm yn Qatar yn gorfod newid y ffordd maen nhw'n chwarae 'chydig bach.

"Dwi'n gweld timau fel Sbaen sy'n dominyddu'r bêl yn gwneud yn dda, a bydd rhaid i Gymru wneud rhywbeth tebyg a gweld y bêl 'chydig mwy na maen nhw wedi arfer drwy wrthymosod mewn gemau mawr."

Ond un siom fydd y ffaith na fydd Joe Allen yn chwarae nos Lun - chwaraewr, medd Ian, sy'n bwysig i ni yn symud y bêl a cadw'r bêl".

Gwaith trwyadl

Ag yntau'n argyhoeddedig bydd tîm hyfforddi Cymru "wedi gwneud eu gwaith cartref" o flaen llaw, ychwanegodd: "Dwi'n gw'bod o ffaith bydd [Cymdeithas Bêl-droed Cymru] efo pobl allan yn Qatar yn sbïo ar gemau eraill, rhag ofn i Gymru ddod yn erbyn y timau yna yn bellach ymlaen.

"Bydd 'na waith wedi bod yn mynd ymlaen ers misoedd i wneud yn siŵr pan fydd y chwaraewyr yn mynd ar y cae, eu bod efo gymaint o wybodaeth â phosib.

"Ella 'neith o ond helpu nhw o 0.5%, ond mae'n bwysig bod nhw'n cael y wybodaeth yna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Hughes yn argyhoeddedig bydd tîm hyfforddi Rob Page wedi gwneud gwaith ymchwil trwyadl

Mae Ian yn parhau i wneud gwaith addysgu hyfforddwyr ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Mae pawb yn gwybod pwy ydi Cymru diolch i'r tîm yng Nghwpan y Byd a Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn Wrecsam," meddai.

"Maen nhw eisiau eu haddysgu fel mae hyfforddwyr yng Nghymru, ac mae'r cwrs dwi'n mynd i redeg yn llawn - 36 o Americanwyr ar y cwrs eisiau cael eu dysgu sut i hyfforddi a be 'dan ni'n neud efo'n chwaraewyr ni yng Nghymru."

'Dipyn mwy o ddiddordeb'

Mae Cymro arall, sydd hefyd yn byw yn yr UDA, yn rhagweld y bydd hi'n "bandemoniwm" yn y ddinas y mae bellach yn ei alw'n gartref.

Tra nad yn draddodiadol yn cael ei weld fel conglfaen o'r bêl gron, dywedodd yr hyfforddwr pêl-droed Gags Pritchard nad yw erioed wedi gweld gymaint o sylw at y gamp yn America.

Yn ogystal â hyfforddi pêl-droed mae'n athro addysg gorfforol yn Kansas City.

Dywedodd tra bydd Cymry ben baladr yn gwylio'r gêm nos Lun, bydd miliynau o Americanwyr yn gwneud union yr un fath gyda disgwyl i dros 10,000 wylio'r gêm yn ardal Power and Light Kansas City.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i filoedd o bobl ddod at ei gilydd yn Kansas City i wylio'r gêm nos Lun

Mewn sgwrs ar raglen Ar y Marc fe ddywedodd: "Mae na ddipyn o interest. Mae pawb i'w weld yn gwybod bod y twrnament yn mynd ymlaen.

"Dros y blynyddoedd dwi heb weld gymaint o sôn am y gemau 'ma, yn enwedig gan fod nhw heb qualifyio y tro dwytha [Cwpan y Byd 2018] ar ôl colli i Panama.

"Ond y flwyddyn yma mae 'na ddipyn mwy o ddiddordeb yn y World Cup."

Gobeithion cenedl

Bydd Cymru a'r UDA yn gobeithio am ddechrau da i'r gystadleuaeth, gydag ond dau o'r pedwar tîm yn y grŵp yn gallu mynd ymlaen i rownd yr 16 olaf.

Ond dywedodd Mr Pritchard bod yr Unol Daleithiau yn hyderus o fynd ymhellach yn y twrnamaint.

"Mae o'n squad ifanc, y fenga' o'r holl dimau sy'n mynd i Qatar," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Christian Pulisic, Weston McKennie a Tyler Adams yw tri o chwaraewyr pwysicaf yr UDA, medd Gags Pritchard

"Adams yn ganol cae - mae o'n chwara' i Leeds - mae o'n chwaraewr da iawn. Ac wrth ei ymyl o fydd Weston McKennie - mae o efo Juventus.

"Fyny top mae Pulisic - ond 24 ydi o. Mae [Tim] Weah yn un da - yndi, mae 'na chwaraewyr yma 'sa'n gallu rhoi problemau i Gymru."

Er hynny, mae'n hyderus fod Cymru hefyd gyda chwaraewyr peryglus all achosi problemau i'r Americanwyr.

"Mae Gareth Bale, wrth gwrs, yma yn LAFC ac fe sgoriodd 'chydig wythnosau yn ôl. Mae o dal yn chwaraewr da iawn ac am fod yn broblem mawr iddyn nhw.

"Ramsey hefyd wrth gwrs, dwi'n meddwl fod Daniel James am gael twrnament da."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres Welcome to Wrexham yn adrodd hynt a helynt Clwb Pêl-Droed Wrecsam ers i'r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney ei brynu

Ychwanegodd bod yr ymwybyddiaeth o Gymru fel cenedl hefyd wedi cynyddu, yn bennaf diolch i bêl-droed.

"'Sa ti di gofyn i mi flwyddyn yn ôl, tydyn nhw ddim yn siŵr iawn efo Prydain lle mae Cymru. Dwi'm yn meddwl fod nhw'n deall bod iaith yma sy'n cael ei ddefnyddio yn ddyddiol.

"Ond dwi'n gwybod ar ôl y sioe Welcome to Wrexham... maen nhw wedi creu diddordeb yma dwi heb glywed o'r blaen a dwi yma ers y Nawdegau.

"Mae diddordeb mewn ffwtbol dipyn mwy nag oedd hi yn 94 [y tro diwethaf i Gwpan y Byd ei chynnal yn y wlad]."