2,500 o Gymry'n cefnogi'r tîm pêl-droed o Tenerife

  • Cyhoeddwyd
Bethany Evans a'i theulu yn TenerifeFfynhonnell y llun, Bethany Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bethany Evans gyda'i theulu yn Tenerife, ble mae'r awyrgylch wedi bod yn rhyfeddol, meddai

Mae cefnogwr Cymru a drefnodd daith i Tenerife i wylio Cwpan y Byd yn dweud ei bod hi wrth ei bodd gyda'r ymateb.

Yn ôl Bethany Evans fe dyfodd y syniad fel caseg eira ar ôl iddi awgrymu mynd ym mis Mehefin.

Mae 'na amcangyfrif fod 2,500 o bobl wedi gwneud y daith.

Mae perchnogion dau far yno wedi dweud ei bod hi'n anodd credu faint o gefnogwyr oedd yno'n gwylio gêm Cymru yn erbyn UDA.

Ffynhonnell y llun, Bethany Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bethany gyda'i thad Mark yn Tenerife

Pan sicrhaodd Cymru le yng Nghwpan y Byd fe benderfynodd Bethany, o Nelson yn Sir Caerffili, y byddai mynd i Qatar yn rhy ddrud.

Awgrymodd Tenerife fel "jôc wael", ond fe gydiodd y syniad.

"Pan ddechreuodd y gystadleuaeth ro'n i'n siomedig i beidio bod yno, ond mae gweld y cefnogwyr yn cael gymaint o hwyl fan hyn wedi gwneud iawn am hynny," meddai.

"Tasech chi wedi cau eich llygaid tra'n canu'r anthem nos Lun, roedd hi fel bod yno, ac mae hynny'n ddigon da i fi."

Ffynhonnell y llun, Kelly Spiers
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweld cefnogwyr Cymru'n dathlu canlyniad nos Lun yn ei bar yn emosiynol, medd Kelly Spiers

Mae Kelly Spiers o Ballymena yng Ngogledd Iwerddon yn berchen ar ddau far yn Playa de las Americas. Fe fuodd hi'n rhan o'r trefnu gyda Bethany.

"Mae cefnogwyr Cymru wedi bod yn wych," meddai, "a phan sgoriodd Cymru'r gic o'r smotyn roedd hi'n anghredadwy - roedd hi'n emosiynol iawn.

"Roedd pawb yn canu a dawnsio ac yn dathlu. Roedd hi'n wych."

Ffynhonnell y llun, Bethany Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan gefnogwyr amryw o resymau dros deithio i Tenerife yn hytrach na Qatar, meddai Bethany Evans

Yn ôl Bethany tra bod Qatar yn rhy gostus i nifer, roedd eraill yn poeni am y rheolau yno.

"Roedd llawer o bobl yn anghyfforddus gyda'r rheolau llym yno ac eisiau mynd i rywle lle roedd modd iddyn nhw ymlacio'n llwyr," meddai.

Mae hi nawr yn edrych ymlaen at gêm ddydd Gwener yn erbyn Iran.

"Mae'r chwaraewyr yn gwybod be' sydd angen iddyn nhw 'neud a bod pawb yn eu cefnogi nhw, dim ots lle maen nhw - Cymru, Tenerife neu Qatar."