Mis mêl 'perffeth' yn dilyn Cymru yng Nghwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae pâr o Gymru a briododd fis diwethaf yn cael modd i fyw wrth dreulio'u mis mêl yn y Dwyrain Canol yn dilyn tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.
Roedd Beca a Richard Thomas eisoes yn trefnu eu priodas, yn ystod wythnos ganol tymor yr ysgolion, cyn i dîm Robert Page sicrhau lle yn y rowndiau terfynol.
Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast fe ddywedodd Beca bod y ddau wedi cytuno y buasai'r cyfle i'w gwylio yn Qatar yn "fis mêl perffeth".
Maen nhw'n aros yn Dubai, yng nghwmni ffrindiau oedd hefyd yn y briodas.
Roedd y ffrindiau eisoes wedi trefnu gwesty yn y wlad ac fe benderfynodd Beca a Richard i wneud yr un peth.
"Dan ni'n mynd drosodd ar y shuttle flights o Dubai i Qatar sy'n cymryd tua awr," meddai Richard.
"Mae'n fantastic yma. Mae'n lot rhatach yn fan hyn na yn Qatar."
Roedd yna ychydig o nerfusrwydd wrth deithio i weld y gêm gyfartal nos Lun yn erbyn UDA.
Roedd gyrrwr tacsi wedi awgrymu "bod 'na broblem yn mynd i fod gyda'r siorts o'n i'n gwisgo, a Beca ddim yn gwisgo sleeves".
"Oedd Beca'n ofnus i gyd ar y ffor' yna yn meddwl bod nhw ddim am adael ni fewn i'r wlad," meddai Richard, ond doedd dim rheswm i boeni yn y pen draw.
"Ers glanio, mynd ar y shuttle bus, mynd ar y metro, mae 'na gymaint o bobol yna yn helpu allan... miloedd o staff.
"Oedd o'n ddigon hawdd mynd i'r stadiwm ac roedd yr awyrgylch ar y diwrnod i gyd yn fantastic... oedd o'n anhygoel."
Cytunodd Beca bod "pawb jyst mor gyfeillgar ac os oedden ni'n colli'n ffordd, wel jest dilyn y môr coch".
Rhwng y gemau, mae modd ymlacio a "teimlo fel bod ar wyliau" wrth wneud y mwyaf o'u cyfnod mewn gwlad wahanol.
Mae'r cyfle i rannu'r profiad gyda chefnogwyr o wledydd eraill yn "anhygoel" - er, gyda gymaint yn aros tu hwnt i Qatar ac yn teithio yno'n benodol i wylio'r gemau, mae'r rheiny'n tueddu i fod yn gefnogwyr timau eraill sy'n chwarae ar yr un diwrnod â Chymru.
"Da ni 'di gweld grŵp o tua 200 o ffans Senegal yn mynd drosodd gyda'u dryms a cyrn yn canu a dawnsio ar y strydoedd," meddai Richard.
Dywedodd Beca: "Mae pawb yn hapus - mae pawb yn dod ymlaen."
Roedd y pâr priod newydd yn eistedd yng nghanol llawer o gefnogwyr y gwrthwynebwyr wrth wylio'r gêm gyntaf nos Lun.
Maen nhw'n edrych ymlaen at gael eistedd gyda chefnogwyr y Wal Goch pan fydd Cymru'n herio Iran fore Gwener.
"Bydd rhaid i ni guro o ryw tri neu bedwar o goliau - dibynnu sut mae Lloegr yn 'neud yn erbyn America," dywedodd Richard.
"Dwi'n meddwl bydd o'n dod lawer i wahaniaeth golia' yn y grŵp ar gyfer yr ail safle."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022