Colofn Osian Roberts: 'Rhaid i ni dal fod yn gystadleuol'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, yn dadansoddi gemau Cwpan y Byd Qatar 2022 yn arbennig ar gyfer Cymru Fyw.
Ag yntau yn aelod o dîm hyfforddi Cymru yn Euro 2016, mae Osian yn gyfarwydd â'r cyffro a'r heriau sy'n wynebu carfan Robert Page yn Qatar.
Dyma beth oedd ganddo i'w ddweud am y gêm yn erbyn Iran, a lle mae'n credu rydyn ni'n sefyll rŵan.
'Heb berfformio i'r lefel'
Y gwirionedd ydy nad oedden ni wedi perfformio i'r lefel oeddan ni wedi dymuno. Roedd ganddon ni ddwy gêm galed, roeddan ni'n gwbod hynny ac ar y lefel yma yng Nghwpan y Byd da'n ni yn cystadlu ar y safon uchaf.
Ella nad ydi America ac Iran ddim yn swnio fel y gemau anoddaf yn y byd ond rydan ni'n dweud hynny oherwydd ein bod ni efallai yn unllygeidiog oherwydd da'n ni wedi chwarae dau dîm da ar safon Cwpan y Byd.
Dwi'n llawer hapusach ein bod ni'n cystadlu ar y lefel yma ac yn cyrraedd y gystadleuaeth yma na fyswn i os fysan ni ddim. Felly dwi'n gobeithio bydd y disgwyl am y nesa ddim mor hir.
'Ysbryd arbennig o fewn y grŵp'
Mae ganddon ni ysbryd arbennig o fewn y grŵp, hyd yn oed ers i'r genhedlaeth iau ddod mewn, maen nhw yn llawn o'r un ysbryd, a dyna sy'n bwysig. Mae ganddon ni chwaraewyr sydd yn dod trwy'r strwythyr sydd yn cyfrannu i be oedd ganddon ni o'r blaen.
Fydd Gareth fel arweinydd ar flaen y gad yn dod a pawb at ei gilydd. Maen nhw wedi cael amser efo'i gilydd i siarad am bethau eraill heblaw pêl-droed a fyddan nhw yn dod yn ôl at ei gilydd i ganolbwyntio ar y gêm nesa.
Mae'n bwysig rŵan, fel maen nhw wedi gwneud yn y gorffennol, i bawb ddod at ei gilydd. Pan mae''r tîm yn ennill mae'n hawdd i bawb sticio at ei gilydd. Ar adegau fel hyn mae'r arweinwyr yn eu plith nhw - Gareth, Aaron, Joe, Chris, Wayne - yn dangos eu pwysigrwydd.
Rŵan fydd rhaid iddyn nhw ddod â phawb at ei gilydd er mwyn atgyfnerthu a mynd eto.
'Rhaid i ni dal fod yn gystadleuol'
Tra yn y gystadleuaeth y peth pwysig ydy mynd mor bell a sy'n bosib a chystadlu y ffordd orau gallwn ni. I wneud hynny fydd rhaid i Rob Page bigo'r tîm gorau i fynd drwodd.
Dydi capiau rhyngwladol ddim yn dod yn rhad. Dydyn nhw ddim yn cael eu rhoi er mwyn rhoi profiad. Maen nhw'n cael eu rhoi oherwydd bod chwaraewyr yn haeddu y cap yna ar yr amser priodol felly mae'n rhaid i ni dal fod yn gystadleuol yn erbyn Lloegr.