Pont y Borth i aros ar gau tan o leiaf ddiwedd Ionawr

  • Cyhoeddwyd
Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Bont y Borth fod ar gau i gerbydau tan ddiwedd Ionawr i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol"

Bydd gwaith yn dechrau ar welliannau dros dro i Bont y Borth yr wythnos nesaf, yn y gobaith y bydd modd ei hailagor i gerbydau ysgafn erbyn diwedd Ionawr.

Oherwydd gwaith diogelwch brys mae'r bont, sy'n cysylltu Porthaethwy ar Ynys Môn â'r tir mawr, ar gau i draffig ers ddiwedd Hydref.

Wrth ymweld â'r bont ddydd Mercher, dywedodd y y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters bod rhaid blaenoriaethu diogelwch y cyhoedd, er y trafferthion i deithwyr wrth i bawb orfod defnyddio'r ail bont sy'n cysylltu Môn a Gwynedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth i helpu busnesau ym Mhorthaethwy sy'n cael eu heffeithio gan y sefyllfa, gan gynnwys parcio am ddim am y ddau fis nesaf.

Bydd yna hefyd gamau i wella llif y traffig yn lleol, fel mynediad at lwybrau teithio llesol a safleoedd bws ychwanegol.

Mae un perchennog busnes yn dweud fod cau'r bont wedi cael effeithiau "gwaeth na'r pandemig".

Wrth gadarnhau'r amserlen ddiweddaraf o ran gwella a cheisio ailagor y bont, dywedodd Lee Waters: "Ry'n ni'n sefyll wrth y penderfyniad i gau'r bont gan y byddai'r canlyniadau petai'n diffygiol yn drychinebus, felly rydym yn rhoi diogelwch pobl yn gyntaf.

"Ond ry'n ni'n cydnabod bod yna darfu, felly rydym wedi gweithio gyda'r ddau gyngor lleol a chynrychiolwyr lleol ac fe allwn ni gynnig help gyda threfniadau parcio o 'fory ymlaen tan ddiwedd Ionawr.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y trafferthion ond am gyfnod byr iawn ac erbyn diwedd Ionawr bydd y bont yn gallu ailagor.

Disgrifiad o’r llun,

Lee Waters: 'Bydd gwaith yn ailddechrau wythnos nesaf i ganiatáu i'r bont ailagor i gerbydau ysgafn erbyn diwedd Ionawr'

"Ry'n ni mewn cysylltiad gyda busnesau sy'n cael eu heffeithio er mwyn deall y pwysau arnyn nhw, ac i gynnig rhagor o gefnogaeth trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru.

"Rhaid mynd trwy'r cyfnod hwn nawr ac ailagor y bont gynted ag y gallwn ni.

"Rhaid i'r peirianwyr fynd trwy broses gymhleth cyn dod i'r safle - profion diogelwch a rhoi cytundebau. Mae hynny wedi bod yn digwydd yn y cefndir a nawr gall y gwaith ddechrau ar y safle.

"Ond datrysiad dros dro yn unig fydd [gwaith y misoedd nesaf]. Bydd angen mwy o waith ar y bont yn y misoedd i ddod."

Ffynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna alw ers blynyddoedd am drydedd bont ar draws y Fenai

Doedd Mr Waters ddim am drafod a fydd yn rhoi sêl bendith i drydedd bont dros y Fenai.

Cafodd cynllun arfaethedig ei ohirio ym Mehefin 2021 pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn oedi pob cynllun adeiladu er mwyn cynnal adolygiad.

"Bydd trydydd croesiad yn cymryd amser hir iawn ac yn costio llawer mwy o arian a rhaid i ni edrych arno ynghyd â chamau posib eraill a blaenoriaethau eraill," meddai.

"Ond mae e ar y bwrdd a byddwn ni'n cyhoeddi canlyniadau ein hadolygiad ffyrdd yn y flwyddyn newydd.

"Efallai mai bont yw'r ateb, efallai fydd yna atebion eraill - mae hynny eto i'w benderfynu."

'Croesawu unrhyw help'

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd parcio am ddim ym meysydd parcio Porthaethwy yn Rhagfyr a Ionawr, a bydd yna ddau safle parcio a theithio i geisio denu mwy o bobl i'r dref

Mae Rhiannon Elis-Williams yn berchen ar siop Awen Menai yn y dref. Dywedodd ar Dros Frecwast fore Mercher eu bod yn croesawu pecyn cymorth y llywodraeth "achos 'da ni heb glywed unrhyw beth yn yr ardal am yr hyn sy'n digwydd".

"'Dan ni'n cael rhyw wythnos o barcio am ddim cyn 'Dolig yn draddodiadol felly ma' ymestyn hwnna yn sicr i'w groesawu achos mae o'n un peth mae ein cwsmeriaid yn falch iawn i weld bob blwyddyn," meddai.

"Mae cael rhyw chwech wythnos, ddeufis - gobeithio neith hwnna'n wirioneddol 'neud gwahaniaeth."

Disgrifiad o’r llun,

UK Highways sy'n gyfrifol am gynnal a chadw Pont y Borth

Mae'r ansicrwydd ynghylch amserlen ailagor y bont wedi bod yn broblem, meddai.

"O fod wedi siarad hefo cwsmeriaid, mae pobl yn gofyn 'ydych chi wedi clywed rhywbeth? Ydych chi wedi gweld unrhyw beth yn digwydd?' a 'dan ni'n gorfod dweud 'na, sgynnon ni ddim syniad'.

"Felly, mi fysa' fo'n braf cael gwybod rhyw fath o amcan am ba hyd ma' hyn yn mynd i ddigwydd."

'Agor y bont ydy'r flaenoriaeth'

Pwysleisiodd deilydd portffolio economaidd Cyngor Môn mai'r flaenoriaeth o hyd yw ailagor Pont y Borth cyn gynted â phosib.

"Da ni'n falch iawn o weld y parcio am ddim dros fisoedd Rhagfyr a Ionawr, gyda'r bwriad o helpu busnesau lleol," dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Carwyn Jones yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ailagor y bont cyn gynted â phosib

"Ond mae'n hanfodol sicrhau bod y bont yn ailagor mor fuan â phosib yn y flwyddyn newydd. Dyna'r flaenoriaeth a dyna 'da ni gyd isio'i weld mwy na dim."

Gan groesawu'r mesurau cymorth i fusnesau lleol, dywedodd arweinydd y cyngor, Llinos Medi bod y bont "yn borth hanfodol i ganol y dref".

"Rydym yn obeithiol y bydd y set hon o fesurau yn mynd rhywfaint o'r ffordd i helpu i gefnogi busnesau lleol sydd wedi nodi gostyngiad mewn masnach ers cau'r bont."

Ychwanegodd bod y cyngor yng nghanol "dadansoddi'r canlyniadau o arolwg ar-lein diweddar sydd wedi'i rannu gyda busnesau lleol" a fydd yn help os fydd angen trafod cymorth pellach gyda Llywodraeth Cymru.

Pwysleisiodd: "Mae Porthaethwy ar agor yn llwyr i fusnesau ac rwy'n annog trigolion ac ymwelwyr i ymweld â'r dref a chefnogi busnesau lleol yn yr ardal."

'Cyfathrebu yn allweddol'

Cyn ymweliad Mr Waters fe fynegodd Aelod Senedd yr ynys, Rhun ap Iorwerth, rwystredigaeth ynghylch "diffyg cyfathrebu" gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd: "Mae angen inni wybod beth sy'n digwydd o ran y gwaith ar y bont ei hun, ond mae angen sicrwydd arnom hefyd ynghylch cymorth busnes a mesurau lliniaru traffig yn y cyfamser.

Disgrifiad o’r llun,

Rhun ap Iorwerth: "Rhwystredigaeth" ynghylch "diffyg cyfathrebu"

"Ar hyn o bryd, dywedir wrthym y bydd y gwaith yn dechrau'n fuan, y bydd y bont yn ailagor 'yn gynnar yn y flwyddyn newydd', bod cymorth yn cael ei 'ystyried' ar gyfer busnes, a bod 'opsiynau' ar gyfer lliniaru traffig yn cael eu hastudio.

"Nid yw'n ddigon da, ac yn absenoldeb newyddion gwirioneddol, a diweddariadau rheolaidd, bydd pobl yn cymryd yn ganiataol nad oes dim yn digwydd neu fod pethau'n llithro.

"Rwy'n falch y bydd y Gweinidog yn gallu gweld yr heriau drosto'i hun heddiw, ac yn gobeithio y bydd yr ymweliad yn cael ei ddefnyddio i roi'r eglurder hwnnw sydd ei angen arnom. Nid ydym yn gofyn am lawer - ond ar hyn o bryd mae cyfathrebu yn allweddol."