'Eistedd yn yr oerni'n gwaethygu fy arthritis'

  • Cyhoeddwyd
Sharon Hearn
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Sharon Hearn ddim yn deall pam nad yw'n gymwys i dderbyn gostyngiad yn ei biliau eleni

Mae dynes anabl, sydd methu fforddio cadw'r gwres ymlaen am fwy na dwy awr y dydd, yn dweud bod ei gallu i symud o gwmpas yn gwaethygu oherwydd tymheredd ei thŷ.

Yn ystod y cyfnod estynedig o dywydd oer ym mis Rhagfyr, dywedodd Sharon Hearn, 50, bod yr ystafelloedd yn ei chartref ym Mhowys rhwng 10 a 12 gradd Celsius.

Mae pris trydan yn golygu mai dim ond am ddwy awr y dydd y mae'n cadw'r gwres ymlaen.

Mae'n poeni hefyd na fydd hi'n cael gostyngiad oddi ar ei biliau tanwydd gaeaf eleni ar ôl cael gwybod nad yw hi bellach yn gymwys i'w dderbyn.

Bob blwyddyn mae hi wedi cael y Gostyngiad Cartref Cynnes (WHD) i helpu tuag at ei biliau, sy'n werth £150 eleni.

Mae'r WHD yn cael ei dalu gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU (BEIS), sydd wedi newid y meini prawf cymhwysedd eleni er mwyn "blaenoriaethu aelwydydd sydd fwyaf tebygol o gael trafferth i gynhesu eu cartrefi".

Golyga'r newidiadau bod aelwydydd yn gymwys i dderbyn y taliad os ydynt naill ai ar Gredyd Gwarant Credyd Pensiwn, budd-dal prawf modd neu ar Gredydau Treth gydag incwm o dan drothwy penodol.

Mae'r elusen Scope, sy'n ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl anabl, wedi amcangyfrif y bydd hyn yn effeithio ar tua 300,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr na fydd yn gymwys i gael help mwyach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gorwedd dan sawl blanced yn helpu cadw Sharon mor gynnes â phosib

Yn ôl Sharon, yn ystod tywydd rhewllyd mis Rhagfyr, dim ond cyrraedd ffigyrau dwbl yr oedd y tymheredd y tu mewn i'w thŷ.

"Mae gen i thermostatau ym mhob ystafell er mwyn iddyn nhw allu dweud wrthyf beth yw tymheredd pob ystafell," meddai.

"[Ganol Rhagfyr] tymheredd arferol y gegin oedd 11 gradd. Oherwydd bod gan fy lolfa ddrws cefn roedd yn 10 gradd.

"Roedd fy ystafell wely yn 15 gradd, felly yn amlwg... ychydig yn gynhesach. Os ydych chi'n eistedd yn yr amodau hynny trwy'r dydd, rydych chi'n mynd yn sâl iawn yn gyflym iawn."

'Rhoi'r gath i lawr fy siwmper'

Mae Sharon wedi'i chofrestru'n anabl ac yn ddefnyddiwr cadair olwyn rhan-amser.

Mae ganddi niwed i fadruddyn y cefn, arthritis gwynegol ac anaf i'r ymennydd. Mae hi hefyd yn dweud bod ganddi gylchrediad a symudedd gwael.

"Mae pobl yn fy nghyflwr i yn teimlo'r oerfel yn llawer mwy. Mae eistedd yn yr amodau hyn yn gwneud fy arthritis yn waeth ac yn gwaethygu fy nghymalau, ac yn gwaethygu fy symudedd.

"Yn y nos ac yn ystod y dydd, fel arfer mae gen i dri neu bedwar blanced drostaf.

"Fel arfer mae gen i ddwy siwmper ymlaen, dwy hosan ymlaen a dwi'n lwcus iawn i gael cath. Oherwydd ei fod yn oer, rwy'n ei roi ef i lawr fy siwmper ac rydym yn cynhesu ein gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cadw cath, Toby, yn fwy o gysur nag erioed i Sharon wrth i'r ddau ymdopi â'r oerni

Mae pwmp gwres ffynhonnell aer wedi'i osod yn ei thŷ cyngor, tu allan i ffenest ei llofft.

Mae'r pwmp yn tynnu cynhesrwydd o'r aer y tu allan cyn rhoi hwb i'r tymheredd er mwyn cynhesu'r cartref y tu mewn.

Ond mae'n ddrud i'w redeg, medd Sharon, ac yn swnllyd, felly dydy hi ddim yn ei adael ymlaen gyda'r nos ac ond yn ei roi ymlaen am ddwy awr yn ystod y dydd.

"Dwi wedi gweithio allan weithiau mae'n tua £8 yr awr ac yn ôl yr hyn sydd wedi'i ddweud wrthyf ma' hynna am nad wyf yn ei droi ymlaen 24 awr y dydd. Ond mae'n bwmp mawr iawn i'w redeg.

"Dwy awr, dyna'r cyfan y gallaf ei fforddio. Dwi'n dueddol o gyrraedd y cyfnod hypothermig, diwedd Tachwedd dechrau Rhagfyr. Yna byddaf yn cael fy ngorfodi i'w roi ymlaen ddwy awr y dydd.

"Erbyn mis Mawrth neu Ebrill, dwi'n cael biliau o bump, chwech, saith gant o bunnoedd. Os taw dyna'r achos ac os ydwyf yn ei redeg 24 awr y dydd, faint fydd hynny'n cyfateb i, o ran cost?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Sharon wedi cael y Gostyngiad Cartref Cynnes ers blynyddoedd ond mae'n dweud pan wiriodd ei chymhwysedd ar-lein yn ddiweddar, ei bod hi'n debyg nad oedd hi'n gymwys eleni.

Galwodd y llinell gymorth i ofyn pam a dywedwyd wrthi mai'r rheswm am hynny oedd bod ei byngalo wedi cael sgôr 'D' ar ei Thystysgrif Perfformiad Ynni. Roedd hyn yn sioc i Sharon, sy'n dweud y dylai fod yn gymwys gan ei bod yn cael budd-dal prawf modd.

Dywedodd llefarydd ar ran BEIS nad yw'r gostyngiad "yn cael ei ddyfarnu yn ôl effeithlonrwydd ynni'r eiddo ond ar sail amgylchiadau ariannol pobol".

Ychwanegodd: "Rydym yn blaenoriaethu'r aelwydydd mwyaf anghenus y gaeaf hwn, gyda dros 3 miliwn o gartrefi ar draws Prydain Fawr yn derbyn gostyngiad ychwanegol o £150 ar fil ynni drwy'r Gostyngiad Cartref Cynnes. Bydd hyn yn golygu y bydd 780,000 yn ychwanegol o bensiynwyr a theuluoedd incwm isel yn elwa eleni o gymharu â'r llynedd."

Fodd bynnag, dywedodd Alex Osborne o Anabledd Cymru ei bod yn drist bod Llywodraeth y DU wedi newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer WHD.

"Mae pobl anabl yn tueddu i ddefnyddio mwy o ynni nag eraill... roedd y Gostyngiad Cartref Cynnes yn rhoi ychydig o le i anadlu'n ariannol i bobl anabl. Ac mae'r ffaith nawr nad yw llawer ohonyn nhw'n mynd i fod yn gymwys, yn bryder gwirioneddol.

"Rydyn ni'n cael llawer o aelodau yn cysylltu â ni yn poeni am eu costau ynni, yn poeni am sut maen nhw'n mynd i'w talu."

"Mae pobl yn gorfod cael eu tai yn oer iawn a hynny ar ôl i'w meddygon ddweud wrthynt, oherwydd eu cyflwr iechyd, y dylen nhw gadw'r gwres yn y tŷ i fyny, fel nad yw eu cyflwr yn gwaethygu.

"Nid dim ond pobl sydd â phroblemau symudedd, ond hefyd pobl sydd â chyflyrau penodol sy'n golygu na allant reoli tymheredd eu corff.

"Gall peidio â chael y gwres ymlaen 24/7 yn eu cartrefi, eu gwneud yn sâl iawn. Felly maen nhw'n gorfod naill ai cymryd y risg eu bod nhw'n mynd i fynd yn ddifrifol wael trwy ei ddiffodd, neu ei gael ymlaen a meddwl tybed sut maen nhw'n mynd i allu fforddio'r biliau."

Dywed Llywodraeth y DU bod ei diwygiadau i'r Gostyngiad Cartref Cynnes yn blaenoriaethu aelwydydd sydd fwyaf tebygol o'i chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi. Ychwanegodd bod y Gostyngiad wedi'i ymestyn hyd at 2026 ac wedi cynyddu £10 yn ychwanegol i £150 eleni.

Dywed Sharon Hearn bod y rheswm nad yw hi bellach yn gymwys yn ei drysu, a bod y rhagolygon am ei bil trydan nesaf yn peri pryder.

"Dyna sy'n fy ypsetio i ar hyn o bryd. Dwi'n edrych ar y gostyngiad o £150 gan ddweud, 'Iawn, gallaf ei gael ymlaen am ddwy neu dair awr a 'chydig bach yn fwy, oherwydd o leiaf mae gennyf £150 yn dod oddi ar fy mil'. Nawr dyw hynny ddim gen i.

"Mae gen i ddewis o ddal i'w roi ymlaen dwy awr y dydd a mynd i ddyled pellach neu fod yn oer iawn, iawn. Does dim cynllun wrth gefn i mi. Rydw i yn wirioneddol styc. Beth wnaf i, wn i ddim?"

Pynciau cysylltiedig