Caniatâd parc gwyliau Penrhos 'ddim yn ddilys' yn ôl ymgyrchwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu datblygiad pentref gwyliau ar Ynys Cybi ym Môn yn honni nad ydy'r caniatâd cynllunio a roddwyd i'r prosiect yn 2016 yn ddilys erbyn hyn.
Yn ôl twrneiod ar ran y grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos Caergybi, mae'r datblygwr wedi methu â chyflawni rhai o ofynion y caniatâd.
Maen nhw'n dweud bod angen i'r cwmni - Land and Lakes, sy'n dod o Ardal y Llynnoedd - gyflwyno cais o'r newydd.
Mae'r cais i godi 500 o unedau gwyliau a phwll nofio ar ran o barc gwledig Penrhos yn rhygnu ymlaen ers 2012.
Mae'r safle - sy'n cynnwys coedwigoedd wiwer goch, ac sydd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig - yn hafan i fyd natur, ac wedi ennill gwobr fel y parc gwledig mwyaf poblogaidd yn y DU.
Dywed y cwmni y byddai'r datblygiad yn denu bron i 500 o swyddi i'r ardal, ond mae'r cynlluniau wedi denu gwrthwynebiad hefyd.
Mae'r safle yn ymestyn dros 200 acer, ac yn ôl y cwmni, byddai 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau.
Mewn llythyr at Gyngor Môn yr wythnos hon, dywed cyfreithwyr yr ymgyrchwyr nad yw Land and Lakes wedi ateb rhai o ofynion y caniatâd.
Mae cwmni Land and Lakes yn mynnu bod peth gwaith wedi'i wneud ar y safle a bod hynny'n ddigon i "ddiogelu" y caniatâd cynllunio am oes.
Ond dywed cwmni cyfreithwyr Richard Buxton, sy'n arbenigo mewn cyfraith cynllunio a'r amgylchedd, nad oedd y gwaith a wnaethpwyd ar y safle'n ddigonol i ateb gofynion y caniatâd.
'Heb ei wireddu'
Roedd y gwaith hwnnw'n cynnwys adnewyddu rhan o lwybr pren a oedd wedi pydru, a symud carped o adeilad gwag oedd yn rhan o'r cais, meddent.
"Mae'n glir nad yw'r caniatâd (amlinellol a llawn) wedi cael ei wireddu, a gan fod y dyddiad cau wedi pasio nid yw'n bosib iddo gael ei wireddu," meddai'r cyfreithwyr.
"O ganlyniad fe ddylai fod gofyn i'r datblygwr (os yw'n awyddus i barhau â'r datblygiad) gyflwyno cais newydd."
Nid oedd neb ar gael i wneud sylw ar ran cwmni Land and Lakes, ond mewn datganiad ar wefan Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Cafodd datblygiad Penrhos ei ddechrau yn 2021, sydd yn golygu bod caniatâd cynllunio ar y safle yn parhau yn ddilys am byth."
Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Ynys Môn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2013