Logan Mwangi: 'Dal angen gwella gwasanaethau cyngor sir'
- Cyhoeddwyd
Mae yna welliannau wedi bod yn y gwasanaethau plant sy'n cael eu darparu gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ers i fachgen pump oed gael ei lofruddio gan ei deulu, yn ôl arolygwyr.
Ond dywed adroddiad gan Arolygaeth Gofal Cymru fod yna dal angen mwy o welliannau o ran yr awdurdod.
Cafodd Logan Mwangi ei lofruddio gan ei fam, ei lystad a llanc yn ei arddegau.
Cafwyd hyd i'w gorff yn Afon Ogwr yn agos i'w gartref yn Sarn ym mis Gorffennaf 2021.
Cafodd ei fam Angharad Williamson, ei lystad John Cole a Craig Mulligan - a oedd yn 13 oed ar adeg marwolaeth Logan - eu dedfrydu i garchar am oes.
Fe wnaeth arolygwyr gynnal eu harchwiliad fis Tachwedd, a bu arolwg tebyg ym Mai 2022.
Nôl ym mis Mai fe wnaeth yr arolygwyr danlinellu pwysau o ran y galw ar wasanaethau plant a'r ffaith fod yna brinder o weithwyr cymdeithasol.
Erbyn hyn, dywed yr arolygwyr fod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymryd "camau sylweddol" i fynd i'r afael â recriwtio a chadw staff ond fod yna "bwysau sylweddol" yn parhau ar y gwasanaethau.
Dywed yr adroddiad fod y cyngor yn defnyddio nifer fawr o staff asiantaethau.
"Mae'r sefyllfa o ran y gweithlu yn parhau yn fregus," meddai'r adroddiad a bod hyn yn "risg sylweddol" wrth i'r awdurdod gesio gwella'r sefyllfa.
Yn ôl yr arolygwyr mae'r cyngor yn parhau i flaenoriaethu sicrhau staff digonol a chynaliadwy gan gynnwys ceisio denu staff o wledydd eraill.
Dywedodd Jane Gebbie, aelod o gabinet Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau cymdeithasol, fod yr adroddiad yn dangos ymroddiad y cyngor i gryfhau gwasanaethau plant yn y sir.
Ychwanegodd y byddan nhw'n parhau i gydweithio gydag Arolygaeth Gofal Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022