Honiadau o ragfarn rhyw a thorri rheolau o fewn cyngor CBDC

  • Cyhoeddwyd
Phil PritchardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un sydd wedi ei wahardd yw cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Phil Pritchard, am honiadau o sylwadau misogynistaidd (llun o 2011)

Mae tri aelod o'r corff sy'n llywodraethu pêl-droed yng Nghymru wedi eu gwahardd am honiadau o ymddwyn yn amhriodol yn ystod y 10 mis diwethaf.

Gall Newyddion S4C ddatgelu hynny ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gael ei siglo gan honiadau o fwlio a misogynistiaeth.

Tri aelod gwrywaidd o gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) sydd wedi eu gwahardd, a hynny'n ymwneud â honiadau o ragfarn rhyw, misogynistiaeth, torri cyfrinachedd a gwawdio cywirdeb gwleidyddol yn gyhoeddus.

Ynghyd â 33 aelod arall, maen nhw'n ffurfio "prif gorff" CBDC, sydd wedi ei ethol gan glybiau, adrannau a chymdeithasau ardal ac yn cynrychioli buddiannau'r cyrff hynny o fewn y gymdeithas.

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad yw'n "derbyn unrhyw achos o dorri rheolau a chanllawiau" a'i bod yn "cymryd camau cadarn i sicrhau sancsiynau addas".

Wedi i raglen BBC Wales Investigates ddatgelu honiadau difrifol o ddiwylliant gwenwynig o fewn Undeb Rygbi Cymru, mae'r undeb wedi ei chyhuddo o fod yn araf i ymateb i bryderon.

Mae'n ymddangos i'r gymdeithas bêl-droed ymateb yn gadarn i gwynion tebyg dros y misoedd diwethaf.

Cafodd dau o'r achosion eu cyfeirio at gorff annibynnol Sport Resolutions. Penderfynwyd bod yr achos arall yn llai difrifol, a deliwyd â hwnnw yn fewnol.

'Digonedd o banter'

Mae cyn-lywydd y gymdeithas, Phil Pritchard, yn un o'r dynion sydd wedi ei wahardd ar hyn o bryd.

Sail y gwaharddiad yw sylwadau gafodd eu gwneud mewn cinio cyn gêm, gafodd eu dyfarnu fel rhai misogynystaidd oedd yn gwahaniaethu ar sail rhyw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Phil Pritchard - yma'n gwneud cyfweliad yn 2011 - ei fod "yn cael hwyl a sbri pan gerddodd ferch ifanc i mewn i'r ystafell" cyn gêm

Pan ofynnodd Newyddion S4C am ymateb Mr Pritchard, ymatebodd yn chwyrn.

Fe wadodd gwneud unrhyw sylwadau sarhaus, gan ddweud iddo gyfaddef gan y byddai talu am gynrychiolaeth gyfreithiol yn y tribiwnlys annibynnol "wedi costio £12,000 mewn costau cyfreithiol".

Dywedodd Mr Pritchard: "Mae yna awyrgylch hwyliog mewn digwyddiadau cyn gemau, gyda digonedd o banter."

Dywedodd mai'r "peth diwethaf" roedd am ei wneud oedd achosi pryder a gofid i unrhyw un, gan ddweud ei fod yn "cael hwyl a sbri pan gerddodd y fenyw ifanc yma mewn i'r ystafell".

"Mae'n rhaid iddi gamddehongli rhywbeth. Roedd tystion ar yr un bwrdd â fi oedd yn dweud nad oedd hyn wedi digwydd," meddai Mr Pritchard.

"Yr unig reswm i fi gyfaddef oedd y byddai wedi costio'n ddrud i fi fel arall."

Rhannu manylion tîm dan embargo

Mae'r cynghorwr oes Ron Bridges hefyd wedi ei wahardd ar hyn o bryd, am dorri cyfrinachedd. Cafodd ei achos yntau hefyd ei gyfeirio at Sport Resolutions.

Pan gysylltodd Newyddion S4C â Mr Bridges, cyfaddefodd iddo dorri'r rheolau drwy roi manylion tîm oedd i fod dan embargo i'w fab, a bostiodd rheiny ar dudalen Facebook boblogaidd.

"Alla i ddim cwyno am y gwaharddiad na fy nhriniaeth gan y gymdeithas," meddai Mr Bridges.

"Fe dorrais i'r rheolau ac felly rydw i wedi fy ngwahardd fel aelod o gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ond 'dw i'n dal i fod yn weithgar o ran y gêm ar lawr gwlad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad yw'n "derbyn unrhyw achos o dorri rheolau a chanllawiau"

Mae cynrychiolydd de Cymru, Huw Jones, bellach yn ôl yn ei rôl fel cynghorydd wedi i'w waharddiad ddod i ben.

Mae Newyddion S4C yn deall bod y gymdeithas wedi ystyried ei achos i fod yn llai difrifol ac felly wedi delio â'r mater yn fewnol.

Roedd yn ymwneud â neges ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn dyfynnu cân am gyn-chwaraewr Cymru, Nathan Blake, ac yn gwneud hwyl am ben y defnydd o ragenwau a chywirdeb gwleidyddol.

Dyfarnwyd hynny'n amhriodol gan y gymdeithas.

'Difrifoldeb llwyr'

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod yn "methu gwneud sylw ar achosion unigol", ond ei bod yn "ystyried unrhyw fater disgyblu yn ymwneud â'r Cyngor gyda difrifoldeb llwyr" a bod ganddi "brosesau a gweithdrefnau yn ei rheolau a chanllawiau sydd yn penderfynu sut y mae delio ag achosion o'r fath".

"Yn dibynnu ar natur yr honiad, byddwn naill ai'n ymdrin ag ef yn fewnol, neu os yn fater mwy difrifol, byddwn yn ei gyfeirio at ganolwr annibynnol," meddai'r datganiad.

Bydd etholiadau i gyngor y gymdeithas yn cael eu cynnal yn yr haf eleni.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney y llynedd bod "sicrhau cyfartaledd, amrywiaeth a bod pêl-droed yng Nghymru yn gynhwysol yn flaenoriaeth".