Balchder er y perygl i barafeddygon ar safle ffrwydrad Treforys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Ma’ fe fel 'film set', ro’n ni wedi cyrraedd a ma’r tŷ wedi mynd'

"Ma' fe fel film set. Ro'n ni wedi cyrraedd a ma'r tŷ wedi mynd. Mae debris a rwbel ym mhobman."

Er bod y parafeddyg Gareth Denman wedi arfer delio a sawl sefyllfa beryglus, roedd yr hyn a welodd wedi ffrwydrad tŷ yn Abertawe yr wythnos ddiwethaf yn syfrdanol.

Mae'n rhan o Dîm Ymateb Lleoliad Peryglus (HART) y gwasanaeth ambiwlans, sydd wedi eu hyfforddi i fod wrth law i drin cleifion mewn digwyddiadau eithriadol.

Roedd ef a'i gydweithwyr ymysg y rheiny oedd ar flaen y gad wedi'r ffrwydrad yn Nhreforys, a laddodd un ac anafodd dri o bobl eraill.

"Chi'n cerdded dros y rwbel a cherdded heibio nifer o geir a thai sydd wedi cael damage o'r ffrwydrad," dywedodd Gareth.

"Ond chi'n gorfod troi lan a meddwl, chi yna i helpu gymaint â chi'n gallu," meddai.

'Darnau o dai yn y coed'

Cyrhaeddodd y tîm o fewn hanner awr o'r alwad 999 gyntaf, i helpu gydag ymdrechion y gwasanaethau brys.

Digwydd bod, roedd Gareth yn gwisgo un o gamerâu BBC Cymru a gafodd eu rhoi i'r tîm rai misoedd yn ôl.

Mae'r lluniau yn dangos ymdrechion y timau achub, a'r dinistr a gafodd ei achosi gan y ffrwydrad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Denman wedi wynebu sawl sefyllfa heriol a pheryglus yn ei waith

"Troi lan, ma' rhaid i chi edrych pwy sy' wedi cael dolur. Pwy sy'n dod lan i chi yn dweud 'mae hyn wedi digwydd' neu 'mae rhywbeth yn bod gyda phwy bynnag'?" meddai Gareth.

"Roedd bws wedi tynnu lan a roedd wedi cael ei adael i ni ddefnyddio fel ysbyty bach a wedyn gallen ni roi triniaeth i bobl yn y bws cyn iddyn nhw gael eu symud ymlaen i'r ysbyty."

Tra bod y timau yn trin y rheiny gydag anafiadau ac yn parhau i chwilio yng ngweddillion y tai, roedd yn rhaid i'r criwiau fod yn wyliadwrus.

Roedd "darnau o dai yn y coed" o gwmpas yr ardal, yn ôl Gareth, tra bod perygl hefyd o ffrwydrad arall.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd sawl tŷ eu difrodi yn dilyn y ffrwydrad

Fe gafodd y tîm ei ffurfio ychydig dros 10 mlynedd yn ôl, ac maen nhw wedi bod yn rhan o'r ymateb o rhai o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol ers hynny.

Fe fuon nhw'n helpu gyda'r chwilio am April Jones yn 2012, yr achosion gwenwyno Novichok yng Nghaersallog yn 2021, yn ogystal â'r ymdrechion i achub dyn oedd wedi bod yn sownd mewn ogof ym Mannau Brycheiniog am dros 50 awr yn 2021.

"Mae tipyn mwy o offer a pheiriannau ganddon ni," meddai Gareth Denman.

Mae hynny, a'r hyfforddiant ychwanegol yn caniatáu iddyn nhw fynd "mewn i lefydd lle dyw staff ambiwlans normal neu barafeddygon ddim yn gallu mynd".

'Balchder, er yn beryglus'

Gyda 42 aelod o'r tîm, mae modd iddyn nhw ymateb i alwadau ar draws Cymru a thu hwnt trwy'r dydd a'r nos.

Mae gan bob sifft ddwy is-adran neu pod sy'n gallu cael eu hanfon allan, gyda dau gerbyd ymhob pod - un yn llawn offer meddygol a'r llall yn cynnwys offer arbenigol ar gyfer gweithio ar uchder, mewn dŵr, gyda chemegau neu gyda'r nos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith yn dod â balchder i'r tîm er y sefyllfaoedd peryglus, wrth helpu pobl trwy adegau heriol

Er bod y gwaith yn heriol ac weithiau'n beryglus, mae'n rhoi boddhad mawr i Gareth Denman a'r tîm.

"Mae e'n rhoi tipyn o falchder i fi just i wybod y gallen ni roi help i bobl yn eu hamserau gwaetha'," meddai.

"Mae e'n gallu bod yn anodd weithiau, ond i wybod ni 'na, a gallu rhoi triniaeth mewn lleoliad peryglus... ie, mae'n rhoi tipyn o falchder bo' ni'n gallu rhoi'r driniaeth mewn amser o argyfwng."

Pynciau cysylltiedig