Gwasanaeth Bws Ogwen yn ôl i daclo problemau parcio Eryri

  • Cyhoeddwyd
Bws Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasanaeth yn rhedeg o Fethesda i Lyn Ogwen ac i Gapel Curig

Wrth i Eryri baratoi ar gyfer tymor prysur yr haf, mae sefydliadau'r ardal eisoes wedi bod yn paratoi unwaith eto i daclo'r broblem o barcio.

Ar un penwythnos ym mis Gorffennaf 2020 cafodd dros 500 o geir eu parcio ar ymyl ffordd fynyddig ger Yr Wyddfa.

Gwelwyd problemau tebyg bob haf ers hynny gyda cheir yn cael eu cludo i ffwrdd gan yr heddlu a'r cyngor.

Mae'n golygu y bydd gwasanaeth bws cymunedol yn Nyffryn Ogwen yn rhedeg unwaith eto eleni, gyda llwybrau ychwanegol, wedi lansiad llwyddiannus y llynedd.

Y gobaith gyda gwasanaeth Bws Ogwen yw taclo'r problemau parcio'r dyffryn yn ogystal â "denu mwy o fusnes i Fethesda".

'Gweld gwahaniaeth'

Bydd Bws Ogwen - sy'n wasanaeth bws trydan cymunedol - yn rhedeg wyth gwaith y dydd o 1 Ebrill rhwng Bethesda a Llyn Ogwen.

Mae'n rhedeg ochr yn ochr â gwasanaeth y T10 rhwng Bangor a Chorwen, ac eleni bydd tripiau ychwanegol ddwywaith y dydd rhwng Bethesda a Chapel Curig hefyd.

"Llynedd fe gawson ni lot o bobl leol yn defnyddio'r gwasanaeth, sydd yn grêt," meddai Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

"Ond bysa ni wrth ein boddau cael hyd yn oed mwy o ymwelwyr ar y gwasanaethau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyn Idwal a Glyder Fawr ymhlith rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd cerddwyr yn Nyffryn Ogwen

Ychwanegodd y dylai cyfuniad o drafnidiaeth gyhoeddus, llinellau melyn, a synwyryddion meysydd parcio i roi gwybod lle mae llefydd parcio ar gael, i gyd helpu i daclo'r broblem.

"'Dan ni'n trio cael pobl i gynllunio o flaen llaw pan maen nhw'n meddwl dod, a gweld beth sydd ar gael," meddai.

"Yn draddodiadol mae pobl wedi gyrru'n syth i Lyn Ogwen a pharcio yn fanno."

Lliwen Morris yw swyddog cyllid Partneriaeth Ogwen, sy'n rhedeg y gwasanaeth.

"Yn y cyfarfodydd misol 'dan ni'n ei gael efo'r Parc, Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy 'dan ni i gyd wedi gweld gwahaniaeth yn barod," meddai.

Ffynhonnell y llun, Traffic Wales
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ceir eu cludo i ffwrdd am barcio yn anghyfreithlon ger yr A5 yn Nyffryn Ogwen yn ystod prysurdeb haf 2020

Ychwanegodd mai'r gobaith oedd y byddai twristiaid sy'n defnyddio'r bws gwennol yn darganfod pethau eraill i'w gwneud yn yr ardal hefyd, gan roi hwb i'r economi.

"Y bwriad ydy taclo'r broblem barcio yn Llyn Owen, a denu busnes i Fethesda," meddai.

"Er enghraifft, mae genna ni Feics Ogwen lle mae pobl yn gallu llogi beics trydan - mi allen nhw neidio ar y bws, mwynhau'r diwrnod, a seiclo 'nôl lawr."

Bysus Yr Wyddfa a Phen Llŷn

O gwmpas ardal Yr Wyddfa a Llanberis, bydd y gwasanaeth bws Sherpa yn rhedeg unwaith eto eleni i gludo teithwyr i fannau poblogaidd yr ardal.

"Gofynnwn i fodurwyr i barchu'r cyfyngiadau parcio a chadw'r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel," meddai'r cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.

"Mae enghreifftiau yn y gorffennol lle mae ceir wedi parcio'n anghyfreithiol a'i gwneud yn anodd iawn i gerbydau'r gwasanaethau brys fynd heibio.

"Bydd staff Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, sydd bellach â phwerau i gario cerbydau i ffwrdd, yn rhoi sylw penodol i ardal Eryri.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o ddringwyr yn dechrau eu taith o Lanberis a Phen-y-pas i gopa'r Wyddfa

"Ein neges ydy i fodurwyr barcio yn synhwyrol, ond os bydd angen, byddwn yn cymryd camau priodol i symud cerbydau sydd yn parcio'n anghyfreithlon er diogelwch y cyhoedd."

Yn y cyfamser, mae gwasanaeth bws tymhorol ym Mhen Llŷn hefyd yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Bydd gwasanaeth Fflecsi Llŷn hefyd yn dechrau ar 1 Ebrill, gan gysylltu teithwyr gyda rhai o'r lleoliadau mwyaf poblogaidd yn yr ardal yn ystod misoedd yr haf.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod nifer y teithwyr wedi mwy na dyblu ers i'r gwasanaeth ddechrau yn 2021, gyda 2,200 o deithwyr y llynedd o'i gymharu â 689 yn y flwyddyn gyntaf.