Eve Smith: Cynnal angladd un o'r tri a fu farw yn Llaneirwg

  • Cyhoeddwyd
Eve SmithFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eve Smith a'i chyd-deithwyr ar goll am bron i 48 awr cyn i'w cerbyd gael ei ganfod

Mae angladd un o'r tri pherson ifanc a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ar gyrion Caerdydd ddechrau Mawrth wedi cael ei gynnal yng Nghasnewydd.

Bu farw Eve Smith, oedd yn 21 oed ac yn byw yn y ddinas, wedi i'r car yr oedd hi'n teithio ynddo fynd oddi ar yr A48 yn ardal Llaneirwg yn yr oriau mân fore Sadwrn 1 Mawrth.

Cafodd angladdau'r ddau berson arall a fu farw yn y gwrthdrawiad - Rafel Jeanne, 24, a Darcy Ross, 21 - eu cynnal yn gynharach yn y mis.

Bu'n rhaid i ddau ffrind arall oedd yn y car - Shane Loughlin, 32, a Sophie Russon, 20 - gael triniaeth ysbyty, ond y gred yw bod Mr Loughlin wedi cael gadael yr ysbyty erbyn hyn.

Arch Eve Smith yn cael ei gludo i'r Gadeirlan
Disgrifiad o’r llun,

Arch Eve Smith yn cael ei chludo i'r Gadeirlan

Fe wisgodd y cannoedd o alarwyr yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw ddillad du gydag ychydig o binc er cof am Ms Smith.

Roedd yna gerbyd a cheffyl ar flaen yr orymdaith o gerbydau angladdol, oedd hefyd yn cynnwys criw o feicwyr modur.

Bu'n rhaid i lawer sefyll tu allan i'r gadeirlan i wrando ar y gwasanaeth a gafodd ei ddarlledu ar uchel seinyddion.

Angladd Eve Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr angladd ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw

Roedd bron i 48 awr wedi mynd heibio cyn i'r awdurdodau ddod o hyd i'r car, am 00:15 ddydd Llun 3 Mawrth.

Mae ffrindiau i'r pump oedd yn y car yn honni mai nhw ddaeth o hyd i'r car gyntaf ar ôl sylwi ar draciau teiars.

Cyn hynny, roedd perthnasau a ffrindiau wedi apelio dros y penwythnos am gymorth i chwilio amdanyn nhw wedi iddyn nhw fethu â dychwelyd adref ar ôl noson allan.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad i'r ffordd yr ymatebodd heddluoedd Gwent a De Cymru i adroddiadau fod y pump ar goll cyn iddyn nhw gael eu canfod.

Pynciau cysylltiedig