'Polisïau trafnidiaeth Llafur yn dod â Chymru i stop'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Lafur yn dod â Chymru i stop gyda'i pholisïau trafnidiaeth, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Fe honnodd y blaid, ar drothwy ail ddiwrnod eu cynhadledd wanwyn yng Nghasnewydd, bod Llywodraeth Cymru'n ceisio arafu'r wlad.
Ac yn y gynhadledd ei hun fe ddywedodd Is-Weinidog Ffyrdd y DU, Richard Holden bod y penderfyniad i ganslo pob project mawr i godi ffyrdd newydd yng Nghymru yn "wallgof", gan gyhuddo'r llywodraeth Lafur o fod ag "obesesiwn ideolegol".
Ddydd Gwener fe ddywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak na fydd yn rhoi grymoedd pellach i Lywodraeth Cymru a'r Senedd ym Mae Caerdydd.
Fe benderfynodd gweinidogion Cymru i atal cynlluniau codi ffyrdd yng Nghymru fel rhan o'r ymateb i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Mae'r penderfyniad wedi ennyn gwrthwynebiad ambell aelod Llafur, gan gynnwys cyn-weinidog economi a gyhuddodd yr adolygiad o anwybyddu dinasyddion.
Mae gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru - sy'n rhedeg gwasanaethau trên a bws ar ran y llywodraeth - hefyd wedi dod dan y lach.
Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaeth, Lee Waters, wedi cydnabod bod defnyddio trenau Cymru yn gallu bod yn brofiad rhwystredig.
Yn y cyfamser, mae cwmni Wizz Air wedi dod â hediadau i ben o Faes Awyr Caerdydd, sydd hefyd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Richard Holden wrth y gynhadledd yng Nghasnewydd bod adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru "yn amlwg yn wallgof", a bod "angen sefyllfa ble gall pobl fynd o gwmpas y wlad".
Ychwanegodd: "Rwy' wir yn meddwl bod Llywodraeth Cymru'n dal buddsoddiad ehangach yn ôl oherwydd obsesiwn ideolegol gyda cheisio atal codi ffyrdd".
Fe gyhuddodd y weinyddiaeth hefyd o fod â dim diddordeb mewn cydweithio gyda Llywodraeth y DU ar brojectau ffyrdd.
'Sffincsaidd'
Cyn y sesiwn ddydd Sadwrn, fe ddywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar: "Mae Llafur wedi dod â Chymru i stop gyda'u hagwedd sffincsaidd at drafnidiaeth.
"Trenau wedi eu canslo, adeiladu ffyrdd wedi ei ganslo, tra bod cwmnïau awyrennau'n parhau i ganslo'u teithiau o faes awyr Caerdydd.
"Mae symud o le i le yn hanfodol i unrhyw economi, ac eto bydd economi Cymru'n parhau i ddioddef o achos camreoli Llafur.
"Dyw blaenoriaethau trafnidiaeth Llafur ddim yr un peth â blaenoriaethau'r bobl.
"Mae pobl Cymru eisiau ffordd liniaru'r M4, mae pobl Cymru eisiau gwasanaeth rheilffordd sy'n gweithio. Yr hyn nad ydy pobl Cymru eisiau yw £200m o wario ar faes awyr sy'n methu."
Ychwanegodd: "Mae Cymru'n haeddu gwell."
Yn gynharach fe wnaeth Gweinidog Diogelwch y Swyddfa Gartref, Tom Tugendhat, amddiffyn gorchymyn Llywodraeth y DU i atal y cwmni technoleg Nexperia rhag prynu ffatri Newport Wafer Fab.
Dywedodd bod buddsoddwyr o China - o ble y daw prif berchnogion Nexperia - ag awydd rheoli'r diwydiant lled-ddargludyddion (semiconductors).
"Roedd Newport Wafer Fab yn brawf i ni gyd," meddai, gan dweud bod y llywodraeth wedi gorfod cydbwyso "pa bris fyddai'n rhaid ei dalu yn y dyfodol o'i gymharu â'r gost heddiw".
Ychwanegodd: "A fydden ni'n cydnabod pwysigrwydd ein harloesedd a'i amddiffyn ynteu ei weld yn cael ei werthu?
"Rwy'n falch iawn i fod mewn llywodraeth a ddewisodd i warchod ein cenedl yma yng Nghasnewydd a chanslo'r gwerthiant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023