Caergybi: Gwrthod elfennau o gynllun dadleuol Penrhos

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr Achub Penrhos
Disgrifiad o’r llun,

Ymgyrchwyr yn erbyn y cynllun tu allan i siambr y cyngor fis diwethaf

Mae elfennau o gais cynllunio i adeiladu pentref gwyliau ar Ynys Cybi wedi eu gwrthod gan gynghorwyr sir.

Mae'r cynlluniau dadleuol i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos, ger Caergybi, wedi rhygnu ymlaen ers dros ddegawd.

Er sicrhau caniatâd yn 2016, mae rhai elfennau yn parhau i fod angen cymeradwyaeth cyn y gall unrhyw ddatblygiad o bwys ddechrau yno.

Ond brynhawn Mercher, yn groes i argymhelliad swyddogion, penderfyniad pwyllgor cynllunio Môn oedd gwrthod caniatáu rhai o'r elfennau hynny.

Fis Ionawr roedd disgwyl i gynghorwyr wneud penderfyniad ar dri chais i ryddhau 'amodau' fel rhan o'r cytundeb 106 - sef amodau sy'n cael eu cyd-drafod rhwng datblygwyr a'r cyngor sir.

Dywed y datblygwyr, Land and Lakes, y byddai'r cynllun yn denu bron i 500 o swyddi i'r ardal.

Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu na ddylai unrhyw waith fwrw 'mlaen ym Mhenrhos gan ei fod yn le poblogaidd i bobl ymweld, ac yn gartref i nifer o rywiogaethau gan gynnwys y wiwer goch.

Gyda'r safle yn ymestyn ar draws 200 o aceri, yn ôl y cwmni byddai 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parc yn un gwledig ac yn hafan i fyd natur yn ôl ymgyrchwyr

Ond barn cyfreithwyr ar ran y grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos Caergybi oedd fod y datblygwr wedi "methu â chyflawni rhai o ofynion y caniatâd" mewn pryd ac heb gychwyn y gwaith angenrheidiol.

Gan honni, o ganlyniad, nad oedd caniatâd 2016 bellach yn gyfredol, eu barn nhw oedd y dylai'r cwmni orfod cyflwyno cais o'r newydd.

Er nad oedd y datblygwyr yn cytuno a'r farn honno, wedi derbyn y llythyr cyfreithiol ac ar gais swyddogion y cyngor fe ohiriwyd penderfyniad ar y tri chais er mwyn derbyn cyngor pellach.

Fis Ebrill fe bleidleisiodd cynghorwyr i oedi'r penderfyniad am fis arall.

Roedd hyn er gwaethaf barn swyddogion cynllunio - ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol eu hunain - fod y caniatâd gwreiddiol yn parhau i fod yn ddilys ac y dylid caniatáu'r cyfan.

Ond brynhawn Mercher, yn sgil pryderon parhaus am y sefyllfa gyfreithiol, o chwe phleidlais i bump fe aeth y pwyllgor yn groes i'r argymhelliad hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Land & Lakes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun ar gyfer y parc gwyliau yn cynnwys bythynnod ac mae'r cwmni'n dweud y byddai'n creu 500 o swyddi

Er bod disgwyl i ragor o geisiadau rhyddhau amodau 106 gael eu cyflwyno i'r pwyllgor, roedd rhai aelodau yn anfodlon iawn hefo'r anghytuno dros y sefyllfa gyfreithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cynlluniau "wedi rhwygo rhannau o'r gymuned", ac fod "dau set o gyfreithwyr yn dod i gasgliadau hollol wahanol".

Ychwanegodd "nad oedd yn gyfforddus" yn pasio'r cais tra fod y ffasiwn anghytuno yn parhau i fod.

Roedd cydnabyddiaeth gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fod aelodau "mewn lle annifyr" ac "nad oes modd plesio pawb".

O chwe phleidlais i bump fe gefnogwyd cynnig Jeff Evans i wrthod y tri chais, gydag un cynghorydd yn atal ei bleidlais.

Bydd y penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ystod cyfarfod fis Mehefin o'r pwyllgor.

Pynciau cysylltiedig