Ffrae am gynllun allai fygwth 17 ysgol ym Môn

  • Cyhoeddwyd
plantFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y plant dan 15 oed yn gostwng a dyna un o'r rhesymau pam fod Cyngor Môn yn edrych ar ad-drefnu addysg yn y sir

Mae ffrae wedi codi yn sgil cynlluniau i ad-drefnu addysg gynradd ar Ynys Môn.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith gall dyfodol hyd at 17 o ysgolion gwledig sydd â llai na 91 disgybl fod o dan fygythiad.

Maen nhw'n pryderu am yr effaith y gallai hynny gael ar yr iaith Gymraeg.

Ond mae'r cyngor sir yn dadlau bod y Gymdeithas wedi "camddeall y sefyllfa".

Ysgolion i'r 21ain ganrif

Dywed Cyngor Môn fod nifer y plant dan 15 oed yn gostwng, a bod angen i fwy o ddisgyblion gael cyfleoedd cyfartal trwy fynd i ysgolion newydd sydd, yn ôl y cyngor, yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Mae'r Gymdeithas wedi cyhuddo'r cyngor o geisio "gwisgo hen bolisi mewn dillad newydd".

"Y prif nod yw trio gwthio unwaith eto eu hobsesiwn i gau ysgolion gwledig Cymraeg," meddai Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas.

"Mae'r Cyngor yn tristáu fod demograffeg y cymunedau'n newid trwy fod llai o bobl ifainc ond eto am gau ysgolion, sy'n ei gwneud yn llai tebyg byth y bydd teuluoedd ifainc yn ymgartrefu yn y cymunedau hyn heb ysgol i'w plant."

Wrth drafod y mater ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher,, dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Môn, ei fod yn "siomedig ofnadwy" gydag ymateb y Gymdeithas.

'Adroddiad ardderchog'

Gan gyfeirio at y cyhuddiad fod gan y cyngor obesesiwn efo cau ysgolion, dywedodd Mr Williams mai "un obsesiwn sydd gynnon ni", sef "rhoi yr addysg orau i'n disgyblion".

"Y llall ydi cryfhau a datblygu'r Gymraeg, a dwi'n meddwl bod na dystiolaeth glir o adroddiad Estyn fis Mehefin dwytha ein bod ni'n llwyddo," meddai.

Ychwanegodd fod yr adroddiad yn "ardderchog", gan ddyfynnu rhai sylwadau ohono, megis bod "ansawdd ac effeithlonrwydd cadarn arweinwyr y gwasanaeth o fewn awdurdod Ynys Môn yn cyfrannu'n effeithiol iawn at sicrhau bod gwasanaethau addysg o safon uchel".

Roedd rhan arall yn dweud fod y "gwaith o gryfhau'r Gymraeg yn mynd rhagddo a'r gefnogaeth i hwyr-ddyfodiaid yn arfer da yn yr awdurdod".

Mae ymgynghoriad cyhoeddus gan y cyngor ar eu 'Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg' yn dod i ben am 17.00 ddydd Iau 18 Mai.