Rhun ap Iorwerth am sefyll yn ras arweinyddol Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap Iorwerth

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu sefyll yn ras arweinyddol Plaid Cymru.

Rhoddodd Adam Price y gorau i'w rôl fel arweinydd wedi i adroddiad dynnu sylw at ddiwylliant o fisogynystiaeth, aflonyddu a bwlio o fewn y blaid.

Fe wnaeth Mr ap Iorwerth, sy'n gyn-newyddiadurwr gyda BBC Cymru, herio Mr Price a Leanne Wood am yr arweinyddiaeth yn 2018, gan ddod yn ail.

Llyr Gruffydd yw'r arweinydd dros dro - mae Mr ap Iorwerth yn gyd-ddirprwy arweinydd gyda Sian Gwenllian, ac wedi bod yn lefarydd ar faterion iechyd yn y blynyddoedd diweddar.

Newid cynlluniau

Rhun ap Iorwerth yw'r cyntaf o ASau Plaid Cymru i ddatgan bwriad pendant i sefyll yn y ras, gydag eraill gan gynnwys y Llywydd Elin Jones eisoes wedi dweud na fydd hi'n sefyll.

Mae Mr ap Iorwerth wedi cynrychioli Ynys Môn yn Senedd Cymru ers 2013, ond y llynedd fe gyhoeddodd ei fod am gystadlu am sedd yr ynys yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ar hyn o bryd mae'r sedd yn San Steffan yn cael ei chynrychioli gan y Ceidwadwyr.

Ond petai wedi cael ei ethol i San Steffan byddai wedi gorfod rhoi'r gorau i'w sedd yn y Senedd, fyddai'n golygu na fyddai'n gallu arwain Plaid Cymru chwaith, gan fod y blaid yn dewis eu harweinydd o'u grŵp yn y Senedd.

Mae'n ymddangos felly y bydd yn gwneud tro pedol ar ei gyhoeddiad i sefyll yn yr etholiad cyffredinol, er na wnaeth gadarnhau hynny'n swyddogol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gamodd Adam Price i lawr yn dilyn adroddiad oedd yn feirniadaeth o'r diwylliant o fewn Plaid Cymru

Mewn fideo gafodd ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod yn edrych ymlaen i chwarae ei ran yn uno ei blaid.

Talodd deyrnged i'w ragflaenydd, Adam Price, a'r arweinydd dros dro, Llyr Gruffydd, gan ddweud bod y blaid "o ddifrif am y dasg o'n blaenau".

Dywedodd bod rhaid i Blaid Cymru gynnig gweledigaeth o Gymru "yn hyderus, yn deg, yn wyrdd, yn ffynnianus gyda'r pwerau sydd eu hangen rŵan ar y daith i annibyniaeth".

'Uno'r blaid'

Cyfeiriodd at y "talent" o fewn ei blaid "mewn llywodraeth leol, yn San Steffan, yn y Senedd ac ymhlith yr aelodaeth".

"Y mae pob tîm cryf angen arweiniad," meddai. "Os galla i gynnig yr arweiniad yna... dwi'n barod i wneud hynny a dwi'n gyffrous am y cyfle i wneud hynny.

"Mae 'ngwlad i'n golygu cymaint i fi, a fy nghymuned i hefyd, ac mi fydd fy ymroddiad i Ynys Môn gymaint ag erioed.

"Ond o fan hyn i gymoedd y de lle ges i fy ngeni, rŵan ydi'r amser i uno Plaid Cymru er mwyn i ni allu arwain y gwaith o adeiladu dyfodol Cymru, a dwi'n edrych ymlaen i allu chwarae rhan yn hynny."

Mae'r enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth yn cau ar 16 Mehefin, a hyd yma Rhun ap Iorwerth yw'r unig ymgeisydd.