Pêl-droed: 'Rob Page yn haeddu amser i wneud yn iawn'
- Cyhoeddwyd
Nid yw un o gyn-chwaraewr Cymru yn disgwyl i Rob Page golli ei swydd er yr holl bwysau sydd arno yn dilyn canlyniadau diweddar.
Yn dilyn y golled annisgwyl yn erbyn Armenia, roedd colli eto o 2-0 yn erbyn Twrci yn ergyd arall i obeithion Cymru o gyrraedd Euro 2024 drwy'i grŵp rhagbrofol.
Ac er fod dal posibilrwydd o gyrraedd y gemau ail gyfle diolch i Gynghrair y Cenhedloedd, cynyddu mae'r pwysau ar y rheolwr Rob Page.
Ar ôl ennill dim ond un o'u 12 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, mae Cymru'n bedwerydd yn eu grŵp - pum pwynt y tu ôl i Twrci gyda phedair gêm ar ôl i'w chwarae.
Ond yn siarad ar raglen Ar y Marc fore Sadwrn, dywedodd Owain Tudur Jones ei fod yn disgwyl i Page - a arwyddodd gytundeb bedair blynedd ym Medi y llynedd - i barhau wrth y llyw.
"Oes mae na bwysau, fydd o [Rob Page] yn ei deimlo fo," meddai.
"Mae o dan bwysau, mae o angen i rhywbeth newid.
"Dwi ddim yn meddwl fydd Cymru'n rhoi y sac iddo, dwi'n meddwl mai fo fydd wrth y llyw fis Medi."
Gad gydnabod fod y gost o'i ddiswyddo "o bosib yn ffactor", fe ychwanegodd: "Rob Page oedd y rheolwr aeth a ni i Gwpan y Byd, allwn ni ddim anghofio hynny.
"Rŵan mae'r cyfnod yn mynd i ddod lle mae'n rhaid symud ymlaen o bosib, ond dal i fod i fi...mae o'n haeddu'r ymgyrch yma i drio gwneud yn iawn am y dechrau gwael yma.
"Dwi'n meddwl fydd o dal yna ar gyfer gweddill y gemau... mae'n dal yn bosib i orffen yn ail, ond yn anhebygol iawn, a jyst gobeithio bod ni'n gallu mynd drwy'r drws cefn, yr insurance policy o'r gemau ail gyfle."
Colled Joe Allen
Wedi ennill 74 o gapiau dros ei wlad, a bellach yn 33 oed, fe gyhoeddodd Joe Allen ei fod yn ymddeol o'r tîm cenedlaethol fis Chwefror.
Ond barn Owain Tudur Jones, a chwaraeodd gyda Allen dros Abertawe a Chymru, yw dylai Page geisio newid ei feddwl mewn ymdrech i drawsnewid rhediad wael y tîm.
"Mae pawb, ella, yn sbïo ar dymor diwetha' Joe, oedd yn dymor siomedig a doedd o ddim yn ffit," meddai.
"Wnaeth o bob dim posib i gyrraedd Cwpan y Byd pan doedd o dim yn ffit, a wnaeth hynny effeithio ar weddill ei dymor.
"Os mae o'n holliach mae o'n cerdded mewn i 11 cychwynnol Cymru, does ddim cwestiwn am hynny yn fy marn i, ti'n gweld y golled yn ganol cae.
"Dwi'm yn dweud fysan ni wedi cael chwe pwynt o'r ddwy gêm ddiwetha', ond dwi'n addo fysa gêm Armenia wedi bod yn wahanol hefo fo yn y tîm.
"Os mae o'n cael pre season da ac yn dechrau'r tymor nesaf yn dda, c'mon, mae o'n no brainer yn fy marn i.
"Mae'n anodd troi'r alwad i lawr, dwi'n meddwl fod Cymru ei angen o."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2023