Chwarter dyfarnwyr pêl-droed wedi eu cam-drin yn gorfforol

  • Cyhoeddwyd
A Cymru Premier refereeFfynhonnell y llun, CBDC

Mae un o bob pedwar dyfarnwr pêl-droed yng Nghymru wedi cael eu cam-drin yn gorfforol yn ystod gemau yn ôl arolwg gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).

O'r 282 wnaeth ymateb i'r arolwg, roedd 88% yn dweud iddynt ddioddef camdriniaeth eiriol hefyd.

Mae dyfarnwyr a swyddogion yn troi cefn ar y gêm oherwydd yr "ymddygiad negyddol" yn ôl CBDC ac o ganlyniad mae yna brinder swyddogion i reoli gemau llawr gwlad.

Roedd dros hanner y rhai a holwyd o'r farn fod y sefyllfa'n gwaethygu.

Mae'r gymdeithas wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r broblem, yn cynnwys treialu cynllun cell-cosb sydd mewn grym mewn chwe cynghrair yng Nghymru ers mis Mai.

Bydd dyfarnwyr dan 18 hefyd yn gwisgo rhwymyn braich melyn i ddangos mai dyfarnwyr iau ydynt.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd Lewis Theo Wyn Evans, bargyfreithiwr a dyfarnwr ers 15 mlynedd, fod canlyniadau'r arolwg yn "newyddion trist iawn, yn enwedig o'n safbwynt i lle dwi'n teimlo mod i'n cael gymaint allan o ddyfarnu pêl-droed, gymaint o fwynhad, gymaint o gyfleoedd.

"A'r gwir ydy, yn enwedig i ddyfarnwyr ifanc a merched, mae 'na gymaint o gyfleoedd iddyn nhw - mae'r Adran Leagues wedi creu academi i ddyfarnwyr ifanc. Ti ond yn gorfod edrych ar Cheryl Foster yng Nghwpan y Byd…

"Felly mae'n sobor i glywed bod gymaint o bobl yn gadael mor gynnar cyn iddyn nhw ddechre eu gyrfa fel dyfarnwyr.

'Mynd yn fwy personol'

"Bendant mae'r sefyllfa yn mynd yn lot mwy personol dwi'n teimlo, mae pobl yn gwybod mwy am ddyfarnwyr… Mae chwaraewyr yn tueddu i bwsho'r limit lot mwy na dwi'n cofio pan nes i ddechre.

"Ond be' sy'n dda i weld ydy pan mae dyfarnwyr yn cymryd yn erbyn hynny neu'n gwneud rhywbeth amdan y peth, wedyn mae'n tueddu i weithio.

"Be' sy'n anodd ydy - mae dyfarnu pan yn ifanc yn amlwg yn rhywbeth newydd, ac mae cael yr hyder i ddelio 'efo fo yn gallu bod yn anodd. Felly mae cael mesurau fel sin bins, fel cael band braich melyn i ddangos bod ti o dan 18, a'r gefnogaeth sy' na gan y gymdeithas bêl-droed, bendant yn gam yn y cyfeiriad cywir."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd asgellwr tîm rygbi Cymru, Rio Dyer, ei anfon i'r gell gosb gan y dyfarnwr yn ystod gêm rygbi Cymru a De Affrica yn ddiweddar

Dywedodd fod "gwahaniaeth mawr" rhwng pêl-droed a rygbi yn hyn o beth.

"Mae sin bins, o be dwi'n ddallt, wedi bod yn y gêm ers dipyn o amser, a mae'r undeb rygbi yn ei gwneud hi'n glir be' 'di ei stance nhw ar drin dyfarnwyr.

"A be' sy'n neis gweld ydi bod y gymdeithas bêl-droed rŵan yn gwneud yr un peth i ryw raddau."