Hanes Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd hyd yma

  • Cyhoeddwyd
Nick TompkinsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n hawdd anghofio ar adegau fel hyn pa mor wael oedd eleni'n edrych i rygbi yng Nghymru ar un adeg.

Gyda phroblemau oddi ar y cae i URC, a'r tîm cenedlaethol yn cyrraedd Cwpan y Byd wedi iddynt ennill dim ond dwy o'u 10 gêm ddiwethaf, doedd gobeithion ddim yn uchel.

Ond ar ôl pedair buddugoliaeth allan o bedair, mae tîm Warren Gatland wedi cyrraedd y rownd nesaf gyda phethau'n edrych yn dda iawn iddyn nhw.

Felly sut lwyddon nhw i ddod allan o'r grŵp gydag un gêm yn sbâr - a beth oedd yr eiliadau mwyaf cofiadwy i'r cefnogwyr a'r sylwebyddion?

'Roedd tensiwn yn y stadiwm'

Roedd gwrthwynebwyr cyfarwydd yn aros am Gymru yn y gêm agoriadol yn Bordeaux - maen nhw bellach wedi chwarae Fiji mewn pum twrnamaint yn olynol.

Ac roedd yr Ynyswyr yn llawn hyder, gyda llawer yn darogan y gallen nhw hyd yn oed ennill y grŵp.

Ond fe adeiladodd Cymru fantais ar y sgorfwrdd, gyda thacl nerthol Josh Adams ar Selestino Ravutaumada yn crisialu gallu'r crysau cochion i gystadlu'n gorfforol.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Josh Adams wnaeth hefyd sgorio'r gais gyntaf yn y gêm yn erbyn Fiji

"Y gêm Fiji 'na a thacl Adams - fe aeth pob un o'r 14 chwaraewr arall draw ato fe i'w longyfarch, roedd e'n wych i weld," meddai cyn-olwr Cymru James Hook, wrth ddewis ei foment fwyaf cofiadwy hyd yma.

Ond fe gafwyd diweddglo nerfus i'r gêm, gyda dau gais hwyr gan Fiji yn cau'r bwlch i 32-26 cyn i'r canolwr Semi Radrada ollwng y bêl yn yr eiliadau olaf gyda'r llinell gais o'i flaen.

"Roedd tensiwn yn y stadiwm, roedd yr holl fomentwm wedi troi, Fiji fel petai nhw'n gallu sgorio bob tro roedden nhw'n cyffwrdd y bêl," meddai cyn-faswr Cymru, Nicky Robinson.

"O'n i jyst mor hapus gweld Radrada'n gollwng y bêl."

Roedd hefyd yn foment fawr i gefnogwyr fel Llyr o Gaerdydd, oedd ag atgofion o'r tro diwethaf i Gymru chwarae Fiji mewn Cwpan y Byd yn Ffrainc.

"Roedden ni yma y tro diwethaf [yn 2007] lle naethon ni golli, felly oedd o'n dda cael hwnna dros y lein," meddai.

Prynhawn rhwystredig

Gyda'r fuddugoliaeth agoriadol hollbwysig wedi'i sicrhau, fe deithiodd y garfan i Nice i herio'r detholion isaf, Portiwgal, a hynny am y tro cyntaf erioed mewn Cwpan y Byd.

Er bod llawer o gefnogwyr yn disgwyl gwledd o geisiau, roedd hi'n brynhawn rhwystredig i Gymru wrth i'w gwrthwynebwyr ddangos dycnwch amddiffynnol.

Roedd cyn-asgellwr Cymru Caryl James yn bles iawn felly gyda chyfraniad y cyd-gapten Dewi Lake.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Dewi Lake cais i Gymru ym munudau olaf yr hanner gyntaf

"Roedd e'n gêm rili tynn, rili agos, doedd y ceisiau jyst ddim yn dod," meddai.

"Ond wedyn naeth e gymryd y tap clou 'na, a chroesi'r llinell fel naeth e - moment fawr i Gymru."

Yn rhyfedd ddigon, cais Portiwgal y prynhawn hwnnw sy'n aros yn y cof i Nicky Robinson.

"Pan naeth Portiwgal sgorio oddi ar eu lein, roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn anhygoel - nifer fawr o'u cefnogwyr nhw wir yn dathlu fel bod nhw wedi ennill y gêm," meddai.

"Felly er bod ni 'di ildio cais, oedd e'n neis i fod yna i weld cymaint oedd e'n meddwl i'w cefnogwyr a'u chwaraewyr nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth cais gan Taulupe Faletau sicrhau pwynt bonws i Gymru yn eu gêm yn erbyn Portiwgal

Roedd dal angen pwynt bonws ar Gymru, a daeth hwnnw yn yr eiliadau olaf wrth i gais Taulupe Faletau olygu ei bod hi'n gorffen 28-8.

"Ma' fe jyst yn anhygoel, y ffordd mae e wedi dod 'nôl o anaf, heb chwarae mor hir, a dod i Gwpan y Byd y chwarae fel ma' fe wedi - fe yw seren fi hyd yma," meddai James.

Y fuddugoliaeth fwyaf erioed

Ar ôl gwylio Fiji yn trechu Awstralia, roedd Cymru'n gwybod y byddai buddugoliaeth yn erbyn y Wallabies yn Lyon yn sicrhau lle yn y rownd nesaf.

Ond doedd neb yn barod am beth ddaeth nesaf, gyda Chymru'n ennill o sgôr record o 40-6 i sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed dros y gwrthwynebwyr o hemisffer y de.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cicio Gareth Anscombe yn hollbwysig i fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Awstralia

"Mae curo Awstralia mewn unrhyw gamp yn gorfod bod yn uchafbwynt," meddai Jeremy Rowlands, tad Will Rowlands a serennodd yn yr ail reng i Gymru'r noson honno.

Roedd yr ornest fwy neu lai drosodd erbyn dechrau'r ail hanner, wrth i'r canolwr Nick Tompkins groesi dan y pyst i ymestyn mantais gref Cymru.

"Pan naeth [Gareth] Anscombe gicio'r bêl drosto i Nick Tompkins sgorio, roedden ni reit o flaen y pyst ac yn gallu gweld y cyfan - gwych," meddai Mabli o Ddinbych-y-pysgod.

Disgrifiad o’r llun,

"Gweld Anscombe yn dathlu ar ôl y cais yna," oedd hoff foment Alys [ail o'r dde] o Gaerdydd

Roedd Alys o Gaerdydd yn arbennig o falch dros y maswr, oedd wedi cicio 23 o bwyntiau ar ôl dod ymlaen yn dilyn anaf i Dan Biggar.

"Hwnna oedd hoff foment fi - gweld Anscombe yn dathlu ar ôl y cais yna," meddai.

Roedd y cyd-gapten Jac Morgan yn un arall wnaeth serennu ar y noson, gan gynnwys ei gic 50:22 cofiadwy a dynnodd y pwysau oddi ar amddiffyn Cymru yn yr hanner cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae Jac Morgan wedi bod yn arbennig hyd yma," dywedodd cyn-flaenasgellwr Cymru Josh Navidi

"Mae Jac Morgan wedi bod yn arbennig hyd yma, wedi arwain o'r ffrynt, a dyna pam mai fe yw'r capten," meddai cyn-flaenasgellwr Cymru Josh Navidi, wrth ddewis seren yr ymgyrch hyd yma.

Mae'n farn sy'n cael ei rannu gan lawer o'r cefnogwyr, yn ogystal â Nicky Robinson.

"Fe yw'r un sy'n sefyll allan - rhyngddo fe a Nick Tompkins fi'n credu," meddai.

"Mae'n rhaid iddo fe fod yn Jac achos mae e 'di bod yn berffaith, ond mae Nick wir 'di tyfu.

"Roedd 'na gwestiynau cynt ai fe neu Johnny Williams [ddylai ddechrau yn y canol] ond nawr Nick Tompkins yw'r enw ar y team sheet i Warren Gatland."

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies yw seren Cymru hyd yma i Madoc [ail o'r dde] o Ddinbych-y-pysgod

Mae Madoc o Ddinbych-y-pysgod ymhlith y rheiny sydd wedi canmol eraill yn y garfan hefyd, gan gynnwys y mewnwr.

"Gareth Davies - mae 'di bod yn dda drwy'r twrnament hyd yma," meddai.

Anafiadau'n 'ergyd drom'

Daeth y prawf olaf yn Nantes, gyda Chymru'n gwybod mai pwynt yn unig oedd ei angen yn erbyn Georgia er mwyn gorffen ar frig y grŵp.

Fe sgoriodd yr asgellwr Louis Rees-Zammitt dri chais wrth iddyn nhw ennill o 43-19, a sicrhau y byddan nhw'n chwarae ym Marseille ddydd Sadwrn yn erbyn Yr Ariannin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Louis Rees-Zammit tair cais yn erbyn Georgia

Ond er i Gymru sgorio chwe chais yn erbyn Georgia - a frwydrodd yn ôl ar un pwynt yn yr ail hanner - wnaeth y crysau cochion ddim dianc o'r ornest heb niwed.

"Yn anffodus mae'r gêm yn mynd i gael ei chofio am anafiadau - Gareth Anscombe cyn y gêm, a Taulupe Faletau," meddai sylwebydd BBC Radio Cymru, Cennydd Davies.

"Mae'n ergyd drom i Gymru, oherwydd fe yw'r unig chwaraewr falle nad yw Cymru gydag unrhyw eilydd yn y safle hwnnw.

"Ond o safbwynt y gystadleuaeth maen nhw 'di bod yn broffesiynol, pedair allan o bedair - pwy fyddai wedi proffwydo hynny cyn y gystadleuaeth?"

Disgrifiad,

'Colli Anscombe a Faletau yn wael i Gymru'

Gyda Chymru'n debygol o fod yn ffefrynnau gyda'r bwcis yn y chwarteri pwy bynnag fyddan nhw'n eu hwynebu, mae llawer o gefnogwyr eisoes yn breuddwydio o gyrraedd y rownd gynderfynol am y trydydd tro mewn pedwar cynnig dan Warren Gatland.

Ond bydd y prif hyfforddwr o Seland Newydd yn gwybod mai un peth yw perffeithrwydd yn y grŵp - peth arall yw cyflawni dan bwysau unwaith mae colli'n golygu hedfan adref.