Dim ond Miles a Gething yn y ras i olynu Drakeford
- Cyhoeddwyd

Jeremy Miles nau Vaughan Gething fydd arweinydd nesaf Llafur Cymru
Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau mai Vaughan Gething a Jeremy Miles fydd yn cystadlu am arweinyddiaeth y blaid, wedi i'r enwebiadau gau ddydd Iau.
Bydd aelodau'n dewis rhwng y gweinidog economi a gweinidog y Gymraeg ac addysg mewn pleidlais fis Chwefror a Mawrth.
Daw wedi i'r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf ei fwriad i ymddiswyddo.
Ond mae'r gweinidog iechyd Eluned Morgan wedi datgan ei siom nad oes menyw yn rhan o'r ras am arweinyddiaeth, gan ddweud fod angen i Lafur Cymru wneud mwy i osgoi sefyllfa o'r fath yn y dyfodol.
Roedd Ms Morgan wedi dweud na fyddai hi'n sefyll, gan ddweud ei bod yn canolbwyntio ar ei swydd bresennol.
Mae 16 o aelodau Llafur yn y Senedd wedi datgan eu cefnogaeth i Jeremy Miles, tra bod 10 yn cefnogi Vaughan Gething.

Roedd 'na ddyfalu y byddai Eluned Morgan neu Hannah Blythyn yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth
Dywedodd Ms Morgan, sy'n cefnogi Mr Gething, fod y ddau yn "ymgeiswyr safonol".
Roedd 'na ddyfalu y byddai Ms Morgan neu'r dirprwy weinidog partneriaeth gymdeithasol, Hannah Blythyn, yn cynnig eu henwau, ond fe benderfynodd y ddwy yn erbyn gwneud hynny.
"Dwi'n credu bod angen i ni wneud ymdrech go iawn nawr i feddwl, sut ydyn ni'n osgoi'r sefyllfa yma yn y dyfodol?" meddai Ms Morgan.
"Sut ydyn ni'n mentora pobl fel eu bod yn barod ar gyfer y brif swydd.
"Dydyn ni ddim yn gwneud digon o hynny o fewn y blaid Lafur, fwy na thebyg, sy'n siomedig iawn wedi 20 mlynedd o ddatganoli."
Mae Mr Drakeford wedi dweud fod ymosodiadau personol ar gyfryngau cymdeithasol wedi atal menywod rhag ymgeisio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023