'Annhebyg y bydd miliwn yn siarad Cymraeg erbyn 2050'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Alison Roberts yn poeni am ddyfodol y Gymraeg ac yn awyddus i bobl ddefnyddio'r iaith

Mae Llywodraeth Cymru'n "annhebygol" o gyrraedd ei nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl ffigwr blaenllaw yn y byd dysgu Cymraeg.

Roedd Ioan Talfryn yn ymateb i bwnc golygydd gwadd rhaglen Dros Frecwast ddydd Iau, Alison Roberts, y fam i saith o blant a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Fel Albanes a welodd crebachiad Gaeleg yr Alban yn ei phentref genedigol dros y blynyddoedd, a'i hen daid ymhlith yr olaf oedd yn dal i'w siarad, mae gweld agwedd ymfudwyr at y Gymraeg ers iddi ymgartrefu yn Ynys Môn yn ei siomi.

"Ti'n ca'l pobl yn symud i mewn o Loegr a s'ginnon nhw ddim parch o gwbl i just trio dysgu'r iaith," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Alison Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dysgwr y Flwyddyn eleni, Alison Roberts gyda'i gŵr Siôn a'u saith o blant - ond mae hi'n poeni bod rhaid troi fwy fwy at siarad Saesneg gan fod rhai'n anfodlon trio dysgu Cymraeg

Siom arall yw gweld ei phlant ei hun yn dod adref o'r ysgol ac yn "siarad mwy o Saesneg" gan eu bod o fewn lleiafrif sy'n siaradwyr Cymraeg rhugl.

"Plant Cymraeg ni sy'n goro siarad Saesneg iddyn nhw yn lle'r plentyn yn trio siarad yr iaith, neu eu rhieni nhw'n trio dysgu'r iaith i helpu'r plentyn siarad yr iaith... plant ni ydi'r dyfodol i gario'r iaith ymlaen."

Ei chwestiwn felly yw: sut mae cael mwy o bobl i ddysgu siarad Cymraeg?

'Cwestiwn oesol'

"Dyna'r cwestiwn oesol ac yn anffodus does dim un ateb syml," dywedodd Ioan Talfryn - prif weithredwr y cwmni Popeth Cymraeg a thiwtor Cymraeg rhaglen Cariad@Iaith S4C.

Mae'r heriau'n amrywio, gan ddibynnu ar pa mor gryf yw sefyllfa'r iaith ymhob ardal, ac o'r herwydd mae'r atebion posib yn amrywio hefyd.

"I ryw raddau mae'r frwydr drosodd mewn rhai rhannau o Gymru yn yr ystyr bod y Gymraeg wedi diflannu, a 'dach chi'n dechre o ddim byd ac yn ailadeiladu - mae pob un unigolyn sydd yn dysgu Cymraeg yn gam ymlaen."

Dyna un rheswm, eglurodd, pam bod pobl yn y de ddwyrain yn fwy positif ynghylch y dyfodol a phobl yn y gogledd a'r gorllewin yn digalonni gan fod yr iaith ym ymddangos yn colli tir yn y cadarnleoedd traddodiadol.

"Mae'r persbectif yn wahanol, ond mae'r peryglon yn wahanol hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Perswadio mwy o oedolion i ddysgu Cymraeg yw un o'r rhwystrau mwyaf, medd Ioan Talfryn

Awgrymodd mai'r broblem yng Ngwynedd, er enghraifft, yw'r ffaith bod plant sy'n cyrraedd o rannau eraill o'r DU a thu hwnt, yn mynd trwy'r system addysg Gymraeg ac yn gadael yr ysgolion yn gallu siarad yr iaith "ond dydi'r oedolion ddim".

"Mae nifer a chanran yr oedolion sy'n dysgu Cymraeg ar draws Cymru yn fach iawn. Yn syml, dyw'r rhan fwyaf o bobl ddim yn mynd i unrhyw ddosbarth o ddim byd unwaith maen nhw'n oedolion. Mae bywyd yn cymryd drosodd - maen nhw'n rhy brysur...

"Mae'r gymdeithas oedolion yn gynyddol yn troi'n fwy ac yn fwy Saesneg a dyna'r broblem. Be' 'dach chi'n 'neud efo'r bobl yma sydd falle yn cyrraedd yn eu 30au a wedyn byw yma nes bod nhw'n 80 a byth yn dysgu Cymraeg?"

Ychwanegodd: "Gallwch chi 'neud bob ysgol yn ysgol Gymraeg - a mi ddylsa Llywodraeth Cymru fod yn gwneud hynny. Bydde'n golygu dros gyfnod o 20 mlynedd fysa'r broblem honno yn diflannu."

'Dydyn nhw just ddim yn trio'

Mae hynny'n sefyllfa sy'n rhwystredig i Alison Roberts hefyd, a lwyddodd i ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â Sion, sydd bellach yn ŵr iddi.

Fe ddysgodd ei hun, heb unrhyw wers ffurfiol, trwy ei defnyddio yn y gymuned a gwrando ar raglenni radio a theledu.

Siom, meddai, yw cyfarch staff yn Gymraeg yn y banc, siopau a llefydd eraill, a sylweddoli dros amser bod sgiliau unigolion sy'n honni eu bod yn dysgu'r iaith ddim i'w gweld yn gwella o gwbl.

"Ti'n mynd i mewn bythefnos wedyn a ti'n siarad Cymraeg efo nhw eto [a dydy] Cymraeg nhw ddim wedi dod ymlaen o gwbl, achos maen nhw'n dal yn rhoi'r un ateb bob tro," dywedodd. "'Dyn nhw just ddim yn trio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn i'w chofio i Alison Cairns ers ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn

Mae Ioan Talfryn yn cytuno bod yna ddiffyg awydd gan lawer o ymfudwyr i ddysgu Cymraeg "ond yn waeth na hynny, ddim hyd yn oed yn 'neud ymdrech i ddysgu 'diolch yn fawr', 'bore da' neu rywbeth felly" ac mae'r fath agwedd yn "dân ar fy nghroen i weithia".

Gan gyfeirio at siopa yn lleol, dywedodd bod "dim ots gen i bod pobl ddim yn rhugl, ond os 'dwi'n d'eud 'diolch yn fawr' iddyn nhw a ma'n nhw'n d'eud 'thank you very much' yn ôl, dwi'n teimlo bod hynny'n sarhad.

"'Di o ddim hyd yn oed yn cydnabod bodolaeth yr iaith gynhenid. Bosib bod nhw ddim hyd yn oed yn sylweddoli bod nhw'n anghwrtais ond 'dwi'n meddwl bod angen i ni osod disgwyliadau a bod ni'n d'eud pethe fel 'os 'dach chi'n symud i Gymru, mewn gwirionedd mae'n anghwrtais i beidio â chydnabod yr iaith. Mae'n anghwrtais i beidio â defnyddio rhywfaint o'r iaith'...

"I fi, i bobl sy'n gweithio mewn siope mae defnyddio 'chydig o Gymraeg yn gyfystyr â gwenu ar eich cwsmer. Dwi'm yn credu bod pobl yn sylweddoli bod peidio siarad Cymraeg fel gwgu ar y cwsmer."

'Ddim yn ddigon heriol nac uchelgeisiol'

Mae Ioan Talfryn yn canmol y "chwyldro" ers ei fagwraeth yn Abertawe yn agweddau'r blaid Lafur at y Gymraeg - o blaid "hynod wrth-Gymreig" yn y 1960au a'r 1970au oedd yn gwrthwynebu codi ysgolion Cymraeg i lywodraeth Lafur y presennol sy'n anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr rhugl erbyn 2050.

Dywedodd bod yna sawl arwydd addawol, gan gynnwys nifer y bobl o Loegr sy'n ymuno â dosbarthiadau Cymraeg ar-lein ers y pandemig, a phoblogrwydd yr "ail anthem genedlaethol" - y gân Yma o Hyd gan Dafydd Iwan - sydd "wedi torri ar draws ffiniau ieithyddol".

Serch hynny mae'n poeni nad yw wedi bod yn ddigon hyd yn hyn i droi ewyllys da at yr iaith yn awydd ar ran pobl i ddysgu Cymraeg yn y fath niferoedd sydd angen i gyrraedd y nod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o bobl di-Gymraeg yn morio canu Yma o Hyd ers i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd - ond i ba raddau maen nhw'n awyddus o'r herwydd i ddysgu Cymraeg?

"A bod yn deg i Lywodraeth Cymru, 'dwi'm yn credu bod neb yn amau diffuantrwydd y Gweinidog [sy'n gyfrifol am y Gymraeg, Jeremy Miles] yn yr hyn mae'n trio 'neud o ran y Gymraeg. Cwestiwn arall ydi: ydi o'n mynd i lwyddo? A dwi'n ofni, nad ydi.

"Mae'r cynlluniau maen nhw'n rhoi ymlaen - 'dyn nhw ddim yn ddigon heriol, 'dyn nhw ddim yn ddigon uchelgeisiol.

"Maen nhw'n sôn am gynyddu faint o Gymraeg sy'n cael 'i ddysgu mewn ysgolion Saesneg ac yn y blaen. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos... oni bai bod ysgolion yn dysgu o leia' 60%, os nad 75% o'r pynciau trwy gyfrwng iaith leiafrifol, dyw plant ddim yn mynd i ddod allan yn rhugl yn yr iaith.

"Oni bai bod ginnoch chi'n sylfaen 'dych chi ddim yn medru adeiladu arno fo. Yn bersonol, 'dwi'n meddwl bod hi'n debygol y bydd Llywodraeth Cymru'n methu'r targed yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

'Haws nag erioed i ddysgu Cymraeg'

Mewn ymateb i bryderon Alison Roberts, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles bod cyfarfod hi a'r unigolion eraill ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni "a chlywed am eu profiadau yn dysgu Cymraeg a sut maen nhw'n ysbrydoli pobl eraill i roi cynnig arni" yn uchafbwynt.

Mae'r llywodraeth, meddai, "wedi ei gwneud hi'n haws nag erioed i bobl ddysgu Cymraeg, drwy gyflwyno gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc a'r gweithlu addysg, a thrwy gefnogi gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ychwanegodd bod "angen cynnig profiadau positif i ddenu pobl ifanc at y Gymraeg fel eu bod yn ei gweld a'i phrofi fel iaith ddeniadol, fywiog a chymdeithasol", gan gyfeirio at Ddydd Miwsig Cymru ddechrau Chwefror fel enghraifft.

"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos y pŵer sydd gan gerddoriaeth, y celfyddydau a chwaraeon i annog pobl i ddefnyddio'u Cymraeg tra hefyd yn mwynhau hynny."

Pynciau cysylltiedig