Yr Wythnos Mewn Lluniau: 22 Ionawr - 28 Ionawr
- Cyhoeddwyd

Golygfeydd hyfryd Dinas Dinlle, clamp o bysgodyn, ac un o sêr fwyaf cerddoriaeth Cymru... dyma edrych yn ôl ar rai o luniau'r wythnos ar Cymru Fyw.

Cerdyn adnabod 'Major William Martin'
Dyma gerdyn adnabod 'Major Williams Martin', sef gŵr o Aberbargoed o'r enw Glyndwr Michael, a chwaraeodd ran flaenllaw mewn cynllwyn i dwyllo Hitler... er ei fod wedi marw.



Rhai o luniau'r ffotograffydd Iolo Penri o'i hoff le yn y byd... traeth Dinas Dinlle. Â hithau'n Wythnos Cariad ar Cymru Fyw, bu Iolo'n esbonio ei gariad at y lle trwy gyfres o luniau.

Rhys Edwards a'i bysgodyn mawr
Prif leisydd y grŵp Fleur-de-Lys, Rhys Edwards, oedd yn Ateb y Galw i Cymru Fyw yr wythnos yma. Pan nad ydy Rhys yn diddanu torfeydd mewn gigs ar hyd a lled Cymru, mae'n hoff iawn o bysgota. Dyma Rhys gyda'r pysgodyn mwyaf iddo erioed ei ddal.

Mae'r eisteddleoedd dros dro wedi cynyddu capasiti Rodney Parade i tua 9,500
Gyda chewri yr Uwch Gynghrair, Manchester UTD, yn ymweld â Chasnewydd y penwythnos yma i'w herio ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA... bu rhaid i'r clwb adeiladu eisteddleoedd dros dro i foddhau'r galw am docynnau, gan gynyddu capasiti Rodney Parade i tua 9,500.

Gruff Rhys, sydd wedi canu caneuon fel Fire in My Heart, Gwreiddiau Dwfn, Sega Segur a Bad Friend fel artist unigol a gyda gwahanol fandiau dros y blynyddoedd
Ddydd Gwener fe wnaeth y cerddor Gruff Rhys ryddhau'r 25ain albym yn hanes ei yrfa. Fel rhan o Wythnos Cariad Cymru fyw bu Laura Nunez yn egluro sut y daeth hi'n ffan enfawr o'i gerddoriaeth.