Dynes 91 oed yn aros 24 awr am ambiwlans ar ôl syrthio

  • Cyhoeddwyd
Theresa Jones yn gorwedd ar y llawrFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Theresa Jones aros am bron i 24 awr am ambiwlans ar ôl syrthio mewn cartref gofal

Cafodd menyw 91 oed ei gadael ar y llawr "fel darn o sbwriel" am bron i 24 awr, wrth aros am ambiwlans ar ôl iddi syrthio mewn cartref gofal ym Mhort Talbot.

Dywedodd Janice Maguire y bu'n rhaid llusgo ei mam, Theresa Jones, yn ôl i'w hystafell ar ôl iddi syrthio yn y coridor yng nghartref gofal Maes-y-Bryn.

Ffoniodd staff 999 ond mi gawson nhw gyngor i beidio â chodi Mrs Jones rhag ofn ei bod wedi torri asgwrn.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud eu bod yn "ymddiheuro'n fawr" am yr hyn ddigwyddodd, tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn gofal brys i "wella llif cleifion trwy ysbytai".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mrs Jones, sydd â chanser a dementia, wedi drysu ar ôl y digwyddiad

Dywedodd Janice Maguire bod ei mam wedi syrthio ychydig ar ôl 21:00 ar 31 Ionawr.

"Ffoniodd y staff am ambiwlans a dywedon nhw y byddai'n cymryd tua wyth awr ond fe fydden nhw'n anfon tîm ymateb cyflym i'w helpu," meddai.

"Ar ôl ychydig oriau, daeth dim byd. Felly dyma nhw'n ffonio eto ac fe ddywedon nhw bod yn rhaid iddi aros... a dyna wnaethon ni.

"Fe wnaethon ni ffonio dro ar ôl tro, ond doedd dim byd yn newid."

'Ei llusgo i'w hystafell'

"Cwympodd hi yn y coridor ac roedden nhw'n ofni y byddai pobl eraill yn baglu drosti, ond oherwydd nad oedden nhw'n gallu ei chodi, roedd yn rhaid iddyn nhw ei llusgo yn ôl i'w hystafell.

"Dywedodd y criw ambiwlans i beidio rhoi unrhyw fwyd na unrhywbeth i leddfu'r poen iddi."

Dywedodd Ms Maguire bod yr ambiwlans wedi cyrraedd am tua 20:45 ar 1 Chwefror, ar ôl nifer o alwadau ffôn a bron i 24 awr o aros ar y llawr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Janice Maguire a'i phartner Dave Watmore yn dweud bod yr hyn ddigwyddodd yn "annerbyniol"

Cafodd Mrs Jones ei chludo i Ysbyty Treforys lle dangosodd profion nad oedd hi wedi torri unrhywbeth, ac fe aeth hi yn ôl i'r cartref gofal y diwrnod canlynol.

Dywedodd Ms Maguire na ddylai ei mam erioed fod wedi gorfod aros mor hir.

"Mae ganddi dementia a chanser y fron felly dydy hi ddim yn cofio llawer amdano. Roedd hi wedi drysu cymaint ar y pryd.

"Roedd hi mewn poen. Roedd hi'n anghyfforddus. Roedd yn rhaid iddi wlychu ei hun. Mae'n annerbyniol.

"Roedd yn gymaint o ofid... mae mam wedi gweithio ar hyd ei hoes... maen nhw wedi talu eu trethi ac yna maen nhw'n cael eu trin fel hyn.

"Mae 24 awr yn annerbyniol heb unrhywbeth i leddfu'r boen... heb ddim byd."

Mae Dave Watmore, partner Ms Maguire, yn dweud bod tua 10 ambiwlans yn aros y tu allan i Ysbyty Treforys pan aethon nhw i gasglu Mrs Jones y diwrnod wedyn.

"Mae angen gwneud rhywbeth. Roedd staff y GIG a staff y cartref gofal i gyd yn wych. Ond mae angen mwy o gyllid ar y gwasanaeth cyfan.

"Mae hi'n 91 oed ac fe wnaeth hi oroesi hyn, ond dychmygwch faint o bobl sydd heb oroesi sefyllfa debyg?

"Mae angen i Lywodraeth Cymru dynnu eu bys allan a gwneud rhywbeth am hyn. Mae'r gwasanaeth iechyd yn gwneud popeth o fewn eu gallu ond mae angen gwneud rhywbeth."

'Sefyllfa anghynaladwy i gleifion a staff'

Dywedodd Sonia Thompson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae'n wir ddrwg gennym am brofiad Mrs Jones... gwyddom y byddai wedi bod yn gyfnod poenus ac anodd i bawb, gan gynnwys staff y cartref preswyl.

"Nid dyma'r lefel o wasanaeth yr ydym yn dymuno ei ddarparu i gleifion.

"Mae ein gwasanaeth ambiwlans dan bwysau eithafol o ganlyniad i bwysau ar systemau ehangach ar draws y GIG. Fel ni, mae cydweithwyr mewn ysbytai yn gweithio'n galed ar adeg pan fo'r llif ar draws y system wedi'i gyfyngu'n ddifrifol.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua deg ambiwlans yn aros y tu allan i Ysbyty Treforys pan gyrhaeddodd Mrs Jones

"Mae hyn yn aml yn arwain at yr ambiwlansys yn cael eu dal mewn ysbytai, sydd yn ei dro yn golygu bod cleifion eraill yn y gymuned yn gorfod aros amser hir am gymorth, weithiau am nifer o oriau.

"Rydym yn gweithio fel sefydliad a system ehangach i archwilio datrysiadau, gan fod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy i gleifion a staff ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

"Fel gwasanaeth ambiwlans, rydyn ni'n meddwl yn wahanol iawn am y ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau yn y dyfodol, ac rydyn ni eisoes yn profi rhai ffyrdd newydd o weithio ledled Cymru i ddeall sut y gallwn leddfu rhywfaint o'r pwysau yn y system wrth barhau i ddarparu cleifion â'r gofal sydd ei angen arnynt.

"Rydym yn siarad â theulu Mrs Jones yn uniongyrchol i ddeall eu pryderon yn well."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaethaf pwysau parhaus ar y gyllideb rydym yn buddsoddi mewn gofal brys a gwelyau cymunedol ychwanegol, i wella llif cleifion trwy ysbytai a mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys."