Môn: Pontydd 200 oed ag 'isadeiledd ceffyl a throl'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr ym Môn wedi datgan pryder fod yr ynys yn ddibynnol ar "isadeiledd ceffyl a throl" yn sgil "diffyg gwytnwch" ei chysylltiadau gyda'r tir mawr.
Gydag ond dwy lôn bob ffordd i mewn ac allan o'r ynys, mae'r awdurdod wedi penderfynu anfon llythyr swyddogol at Lywodraeth Cymru yn sgil diffyg mesurau i wella'r sefyllfa.
Y llynedd penderfynodd y llywodraeth i ganslo pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru oherwydd pryderon amgylcheddol.
Ymysg y cynlluniau i ddioddef yn sgil y penderfyniad oedd ymgais i adeiladu trydedd bont dros y Fenai, fyddai'n costio tua £400m.
Ond er i weinidogion gomisiynu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru i ystyried cysylltiadau'r ynys, mae'r cyngor wedi barnu'r argymhellion am fod yn "lwyr annigonol", gyda'r sefyllfa bresennol yn "rhwystro'n ynys rhag denu'r busnesau" a chreu mwy o swyddi.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi ymrwymo i wella gwytnwch croesfannau'r Fenai.
'Does dim detour'
Roedd adroddiad y comisiwn yn cynnwys 16 o argymhellion i wella cysylltiadau trafnidiaeth yr ynys, gan gynnwys datblygu llwybr teithio actif ar Bont Britannia ochr yn ochr â'r rheilffordd bresennol.
Yn ogystal roedd 'na alw am gyflwyno taflwyr gwynt (wind deflectors) i leihau'r achosion o orfod cau'r bont oherwydd gwyntoedd cryfion, mwy o drenau yn stopio yn Llanfairpwll er mwyn gwella cysylltiadau â gweddill gogledd Cymru, a chyflwyno system parcio a theithio.
Ond fore Iau, yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith, dywedodd arweinydd y cyngor ei bod yn "siomedig" nad oedd Llywodraeth Cymru "wedi wir ddeall yr heriau 'da ni'n wynebu".
Gyda Phont y Borth yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed yn 2026, mae hi hefyd yn 174 o flynyddoedd ers agor Pont Britannia - er i'r bont honno dderbyn gwaith sylweddol i'w hatgyweirio yn dilyn tân sylweddol yn 1970.
Does ond un lôn ar agor ar Bont y Borth tra bod gwaith atgyweirio yn mynd yn ei flaen, a bu'r bont ar gau am bron i bum mis rhwng Hydref 2022 a Chwefror 2023 i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol".
Mae Pont Britannia hefyd wedi gorfod cau i rai cerbydau yn ystod gwyntoedd cryfion neu'n dilyn damweiniau.
Dywedodd un o gynghorwyr sir ardal Porthaethwy, Robin Williams, oherwydd bod Môn yn ynys "does dim detour i fynd un ffordd neu'r llall" pan fod problemau gydag un o'r pontydd.
"'Da ni ddim yn sôn am bontydd newydd yma, mae'r rhain yn hen bontydd a rhaid ystyried pa mor wydn ydyn nhw at y dyfodol," meddai.
"Mae'n rhaid i ni gael y gwytnwch yna, ddim ar gyfer y ciws yn y bore neu'r p'nawn, ond cysylltiad sy'n galluogi pobl i deithio i ac o'r ynys doed a ddelo'r amgylchiadau."
'Effaith negyddol ar gysylltiadau cymdeithasol'
Gyda bwriad i lobïo aelodau o'r Senedd dros eu pryderon, nodwyd yn adroddiad y cyngor "na ddylai Llywodraeth Cymru ystyried mai prosiect ffordd syml yw croesfan y Fenai".
Roedd beirniadaeth hefyd o "gynsail" adroddiad y comisiwn "gan nad oedd yn ystyried opsiynau ar gyfer gwella cydnerthedd y cysylltiadau ar draws y Fenai yn y cylch ers i'r opsiynau ar gyfer gwella'r isadeiledd ar gyfer cerbydau gael eu diystyru yn y dechrau".
"Mae'r tagfeydd a'r diffyg cydnerthedd yn gyfyngol iawn, neu'n cael effaith negyddol sylweddol ar gysylltiadau cymdeithasol, economaidd, addysg, iechyd a diwylliannol, gyda gweddill y wlad.
"Yn waeth na hynny, mae'n rhwystro'n ynys rhag denu'r busnesau a'r gweithgarwch economaidd sydd ei angen arni i leihau nifer y bobl sy'n colli gwaith, diffyg gwaith ar yr ynys a lleihau'r ddibyniaeth ar waith oddi ar yr ynys."
Ychwanegodd yr arweinydd, Llinos Medi: "Yr her sydd ganddon ni ein bod methu cael nhw [Llywodraeth Cymru] i ddeall.
"Os fysa 'na unrhyw ardal arall yng Nghymru lle mae 'na bryder i 70,000 o bobl gael torri cysylltiad mi fasa 'na gynllun argyfwng, blaen cynllunio a meddwl.
"'Da ni'n cael cynnig rhyw drydedd lôn ar y bont neu fynyddu trafnidiaeth cyhoeddus ac yn y blaen ond dim dyna'r her 'da ni'n ei wynebu, yr her ydi oedran y cysylltiadau sydd ganddon ni a'u bod wedi'u dylunio ar gyfer ceffyl a throl neu ambell i gerbyd bach o'i gymharu â be 'da ni'n wneud rŵan."
'Gwaith dichonoldeb manwl'
Gydag arian hefyd yn brin, roedd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi nodi y byddai pont newydd yn cymryd cryn amser i'w hadeiladu ac y byddai nifer o faterion cynllunio angen eu hystyried - yn arbennig rhai'n ymwneud â threftadaeth a bioamrywiaeth.
Ond roedd y comisiwn o'r farn fod gwerth edrych eto ar adeiladu pont newydd pe bai yna "ddatblygiadau economaidd sylweddol" ar yr ynys.
"Gallai hyn fod yn sgil datblygiad economaidd sylweddol ar Ynys Môn, er enghraifft datblygiadau ar safle Wylfa Newydd.
"Byddai'r fath ddatblygiadau, o bosib, yn cynnig cyfleoedd i rannu costau, yn enwedig pe bai'r bont yn cludo trydan yn ogystal â chynnig llwybrau teithio."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wella gwytnwch croesfannau'r Fenai.
"Rydym yn cefnogi argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, a byddwn yn caffael gwaith dichonoldeb manwl ar y chwech cyntaf y mae wedi'u nodi fel blaenoriaeth.
"Mae'r rhain yn canolbwyntio ar leihau'r nifer o achosion y mae Pont Britannia yn gorfod cau.
"Mae mesurau eraill i'w harchwilio yn cynnwys taflwyr gwynt, terfynau cyflymder amrywiol a newidiadau i gynllun y brif reilffordd ar draws y bont."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2023