Michael Sheen: £5,000 i glwb pêl-droed mewn trafferth

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed Unedig Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Pêl-droed Unedig Wrecsam yn "cynnig cyfleoedd i bobl allai newid bywydau"

Mae Clwb Pêl-droed Unedig Wrecsam yn dweud eu bod nhw "wrth eu boddau" ar ôl i'r actor o Gymru, Michael Sheen, roi cyfraniad o £5,000 i'r clwb.

Mae cadeirydd a rheolwr y clwb cymunedol, Andrew Ruscoe, wedi dweud wrth Cymru Fyw bod pethau wedi bod yn anodd yn ariannol a bod y cyfraniad "wedi diogelu dyfodol y clwb am y flwyddyn nesaf".

Yr actor ydi'r person enwog diweddaraf i gefnogi'r clwb, ar ôl iddyn nhw gael cyfraniadau gan yr actorion Ryan Reynolds and Rob McElhenney, sydd berchen ar Glwb Pêl-droed Wrecsam.

Roedd Clwb Pêl-droed Unedig Wrecsam, sydd â dros 40 o chwaraewyr, wedi dechrau tudalen GoFundMe er mwyn codi £12,000 a dyna sut y gwnaeth Michael Sheen gyfrannu.

Disgrifiad o’r llun,

Y rheolwr, Andrew Ruscoe, yn siarad â chwaraewyr ifanc y clwb

Dywedodd Andrew Ruscoe: "Rydyn ni wedi bod yn trio mor galed i hel arian a nos Wener, yn hollol annisgwyl, mi edrychon ni ar y dudalen a gweld y cyfraniad.

"Dydan ni heb siarad efo Michael na unrhywbeth felly ac rydan ni mor ddiolchgar iddo... mae'n hollol arbennig.

"Rydan ni'n gobeithio gallu anfon crys ato gyda'i enw ar y cefn.

"Ein gobaith ni ydi brynu cit newydd i'r tîm merched a'r tîm dan 13 gan eu bod nhw angen hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Clwb Pêl-droed Unedig Wrecsam ydi un o'r unig ddau glwb futsal i bobl ifanc yng Nghymru

"Rydan ni wrth ein boddau. Mae pawb mor, mor gyffrous."

Eglurodd Andrew Ruscoe bod y clwb yn wynebu heriau ariannol.

Fe gawson nhw arian gan frawd y dylanwadwr dadleuol Andrew Tate ond ym mis Ionawr fe benderfynon nhw anfon £5,000 yn ôl yn dilyn beirniadaeth.

Dywedodd Mr Ruscoe: "Ym mis Ionawr, mi gollon ni'n noddwr yn anffodus gan ein bod ni wedi cael cyfraniad gan Tristan Tate, ond rydyn ni wedi talu'r arian yn ôl iddo.

"Mae'n anodd yn ariannol gan ein bod ni'n defnyddio neuadd chwaraeon i redeg y clwb ac mae costau wedi cynyddu'n fawr i £700 y mis ar gyfartaledd.

"Mae'n anodd iawn gallu fforddio hynny felly rydyn ni wastad yn dibynnu ar grantiau a chyfraniadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kyrun sy'n 13 yn ddiolchgar am y cyfraniad ac yn dweud bod yr actor "wedi helpu ein clwb ni'n fawr"

Mae'r clwb yn rhoi cyfle i chwaraewyr chwarae futsal - math o bêl-droed sy'n cael ei chwarae ar gwrt caled dan do sy'n llai na chae pêl-droed arferol - a dyna pam eu bod nhw'n gorfod chwarae mewn neuadd chwaraeon.

'Cynnig cyfleoedd all newid bywydau'

Mae'r clwb yn dweud bod yr arian gan Michael Sheen yn golygu eu bod nhw "mewn sefyllfa ariannol sefydlog am y flwyddyn nesaf ac mi allwn ni ganolbwyntio ar y pethau pwysig - cynnig hyfforddiant a safonau uchel i'r chwaraewyr rydyn ni'n eu cefnogi".

Dywedodd Kyrun, sy'n 13, wrth Cymru Fyw: "Mae'r clwb wedi helpu fi gael gwell yn pêl-droed... rydw i wedi wedi cael trials i Everton a Stoke ond rwan rydw i wedi chwarae i Bala.

"Mae'r futsal wedi helpu fi meddwl yn gyflym a cael sgiliau gwell... rydw i'n mwynhau chwarae."

Mewn neges at Michael Sheen dywedodd Kyrun: "Diolch Michael Sheen am y donation... rwyt ti wedi helpu ein clwb ni'n fawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb yn gobeithio gallu anfon crys at Michael Sheen gyda'i enw ar y cefn

Dywedodd Mr Ruscoe: "Clwb Pêl-droed Unedig Wrecsam ydi un o'r unig ddau glwb futsal i bobl ifanc yng Nghymru gyfan a ni sydd â'r unig dîm futsal i ferched yng Nghymru.

"Ein bwriad ni ydi creu cynghrair a thîm cenedlaethol i ferched.

"Rydyn ni'n cynnig i bobl chwarae efo ni yn rhad ac am ddim... rydan ni'n cynnig cyfleoedd i bobl allai newid eu bywydau nhw."

Pynciau cysylltiedig